Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.7 – FPL/2022/189 – Bilash, Dew Street, Porthaethwy

FPL/20220/189

 

Cofnodion:

7.7  FPL/2022/189 – Cais ôl-weithredol i gadw defnydd fflat yn Bilash, Stryd y Gwlith, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2022, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a chynhaliwyd ymweliad safle rhithwir ar 16 Tachwedd 2022.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio'r prif ystyriaethau cynllunio y manylir arnynt yn adroddiad y Swyddog Achos mewn perthynas â’r cais ôl-weithredol ar gyfer trosi a chadw gwaith anawdurdodedig a gwblhawyd i greu uned breswyl; nid yw’r cynnig presennol yn cynnwys unrhyw estyniadau newydd. Mae arwynebedd llawr mewnol yr adeilad yn mesur 32.3 metr sgwâr; mae’r fflat yn cynnwys ystafell fyw gydag ardal cegin ac ystafell wely ar wahân gydag ystafell ymolchi en-suite. Ar ôl derbyn sylwadau gan y cyhoedd am faint y fflat/adeilad, ymgynghorwyd â swyddogion o’r Adran Gwarchod y Cyhoedd er mwyn sicrhau fod yr adeilad yn ddigon mawr i’w ddefnyddio fel llety byw. Yn unol ag Adran 326 o Ddeddf Tai 1985, cadarnhawyd y byddai’r eiddo’n addas ar gyfer hyd at ddau berson (ar yr amod fod y ddau berson yn cyd-fyw fel cwpwl priod neu bartneriaid sifil). Ychwanegodd fod y safle oddi mewn i ffin ddatblygu Porthaethwy, fel y nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Cyflwynwyd manylion i ddangos fod angen am y datblygiad yn yr ardal ac mae’r adran bolisi wedi cadarnhau fod y wybodaeth yn dderbyniol i fodloni anghenion y Ganolfan Wasanaeth Leol. Mae’r safle wedi’i leoli tu mewn i Ardal Gadwraeth Porthaethwy, felly ystyriwyd y cynnig yn erbyn Polisi AT1 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC). Mae’r Swyddog Treftadaeth wedi cadarnhau fod y cais hwn, yn ôl pob golwg, ar gyfer addasiadau mewnol a newid defnydd ac nad oes unrhyw addasiadau allanol a fyddai’n effeithio ar gymeriad yr ardal gadwraeth. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, er ei fod yn ymwybodol o’r sylwadau am faterion priffyrdd a dderbyniwyd gan y cyhoedd, nid yw’r Awdurdod Priffyrdd wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig. Yn ogystal, oherwydd nad oes disgwyl i nifer fawr o gerbydau ymweld â’r safle, mae’r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon y byddai darpariaeth barcio ddigonol ar gael. Mae’r safle wedi’i leoli mewn lleoliad cynaliadwy a gellir cyrraedd yr holl amwynderau lleol a llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar droed. Yr argymhelliad oedd cymeradwyo’r cais gan ei fod yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, ei fod wedi gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ystyried y cais ar ôl derbyn cais gan wrthwynebwyr i’r cynnig, gan y byddai hynny wedi caniatáu iddynt annerch y cyfarfod fel siaradwyr cyhoeddus. Nododd ei bod yn amlwg nad yw’r gwrthwynebwyr yn dymuno siarad ar y cais gan nad oeddent yn bresennol yn y cyfarfod blaenorol nac yn y cyfarfod hwn. Ychwanegodd fod ganddo bryderon ynghylch adnewyddu hen adeiladau a’u troi’n fflatiau yn y rhan hon o Borthaethwy ac nad yw’r adeiladau’n addas i bobl fyw ynddynt yn ei farn ef. Fodd bynnag, dywedodd fod hwn yn gais ôl-weithredol a bu pobl yn byw yn y fflat ers nifer o flynyddoedd. Byddai’n atal ei bleidlais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei ganiatáu oherwydd ei fod yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu’r cais gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Bu i’r Cynghorydd Robin Williams atal ei bleidlais.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: