Eitem Rhaglen

Arolygiaeth Gofal Cymru: Adroddiad yn dilyn Arolygiad o Wasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn - Arolygiad Gwerthuso Perfformiad

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion, a oedd yn cynnwys Adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn dilyn yr arolygiad diweddar o’r Gwasanaethau Cymdeithasol – Arolygiad Gwerthuso Perfformiad, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid bod yr Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac Oedolion, wedi bod yn destun arolwg gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) rhwng 10 – 14 Hydref, 2022, fel rhan o’u rhaglen Gwerthuso Perfformiad arferol. Nododd y dylid croesawu’r adroddiad gan fod AGC wedi nodi cryfderau, arfer da a datblygiadau mewn gwasanaethau ac nad oedd unrhyw feysydd risg sylweddol neu faterion diogelu wedi cael eu hamlygu.  Mae AGC wedi nodi bod yr Awdurdod yn fwrdd a pharod iawn i weithio gyda phartneriaid a sefydliadau trydydd parti ynghyd â gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor. Cyfeiriodd at y gwaith rhagorol sydd yn mynd rhagddo rhwng yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Adran Dai mewn perthynas â’r prosiect Cartrefi Clyd.  Mae’r Adran hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Adran Addysg mewn perthynas â’r Hybiau o fewn yr Ysgolion Uwchradd. Aeth ymlaen i ddweud bod negeseuon cyson a chadarnhaol gan y gweithlu ynglŷn ag ansawdd yr arweinyddiaeth a’r diwylliant ar draws y gwasanaethau plant ac oedolion. Nododd hefyd ei fod yn falch bod AGC wedi cydnabod y gefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol y mae’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei chael ers 2016.   Yn sgìl heriau ariannol dylid sicrhau bod y gefnogaeth yn parhau er mwyn gyrru’r gwelliannau ymhellach ar draws y gwasanaethau plant ac oedolion.

 

Bu i’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion ategu sylwadau’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid a chroesawu’r adroddiad cadarnhaol gan AGC ynglŷn â’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Nododd mai dyma’r tro cyntaf y canolbwyntiwyd ar y Gwasanaethau Oedolion ac mae hyn i’w groesawu. Roedd yn dymuno diolch i staff y gwasanaethau Plant ac Oedolion am eu gwaith. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn gwerthfawrogi’r ffaith bod yr adroddiad gan AGC ynglŷn â’r gwasanaethau Plant ac Oedolion yn un calonogol  yn enwedig yn sgil y pwysau sylweddol y mae’r Sector Gofal yn ei wynebu ar hyn o bryd a’r argyfwng costau byw a’r pwysau ar y gweithlu i fynd i’r afael â’r materion hyn.  Nododd bod perthynas agored ac adeiladol yn bodoli rhwng y gwasanaeth a AGC a bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal i drafod gwelliannau o fewn y gwasanaeth. Aeth ymlaen i ddweud er bod yr adroddiad yn galonogol mae’n rhaid i’r gwasanaeth barhau i weithio i fynd i’r afael ag anghenion  trigolion yr Ynys yn enwedig rheiny gydag anghenion mwy cymhleth yn y gwasanaeth Plant ac Oedolion. Mae’n hanfodol bwysig gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau partner a’r trydydd sector er lles trigolion bregus yr Ynys. Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd Cynllun Datblygu’n cael ei gynhyrchu gan y ddau wasanaeth ac y byddant yn cael eu cyflwyni i’r Pwyllgor Sgriwtini maes o law.

 

Wrth ystyried yr Adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn dilyn yr arolwg diweddar o’r Gwasanaethau Cymdeithasol – Arolygiad Gwerthuso Perfformiad – bu i’r Pwyllgor drafod y canlynol:-

 

·           Pa gynlluniau sydd ar waith i fonitro cynnydd yn erbyn y meysydd sydd angen mynd i’r afael â hwy?

 

Cynghorwyd y Pwyllgor y bod gwaith monitor ac archwilio yn digwydd o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a bod cyfarfodydd Tîm yn cael eu cynnal yn fewnol yn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion i fonitro data. Nodwyd bod adroddiadau cynnydd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini perthnasol a’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd gan raglen waith ddynodedig. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd rhaid parhau i weithio i wella a datblygu’r gwasanaeth er mwyn addasu i anghenion newidiol ein trigolion. Roedd y Pwyllgor yn dymuno cael gwybod a fydd AGC yn ailymweld â’r Awdurdod i fonitro’r gwelliannau mewn perthynas â’r argymhellion sydd yn yr adroddiad. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda AGC ac y bydd y Pwyllgor yn cael copi o’r Cynllun Datblygu i fonitro gwelliannau o fewn y gwasanaeth.  Dywedodd y Prif Weithredwr bod cyfarfod blynyddol yn cael ei gynnal rhwng yr Awdurdod, AGC, Swyddfa Archwilio Cymru ac Estyn i fonitro gwelliannau a bod y rheoleiddwyr yn gallu gweld  sut mae’r Awdurdod yn ymateb i arolygon ac argymhellion allanol. 

 

·           Cyfeiriwyd at y sylwadau yn yr adroddiad gan AGC ynglŷn â rhywfaint o wendidau o ran cofnodi cyfarfodydd.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor nad oes cofnod o gynnig gweithredol o wasanaeth mewn rhai achosion ac y dylem wella’r dechnoleg i gofnodi’r gwaith fel bod gennym dystiolaeth. Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y bydd y mater yn cael ei adolygu a bod staff yn ymwybodol o’r angen i roi sicrwydd bod cofnod ffurfiol ar gael o’r gwaith sy’n cael ei gwblhau.

 

·           Ydi arferion da’n cael eu rhannu gydag awdurdodau lleol?

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor bod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn rhan o gyfarfodydd Gwasanaethau Cymdeithasol Rhanbarthol a Chymdeithasol a bod arferion da’n cael eu rhannu rhwng awdurdodau lleol i ddatblygu sgiliau. Nodwyd bod y prosiect Cartrefi Clyd wedi bod o ddiddordeb i awdurdodau eraill. Mae’r Aelodau Portffolio wedi cwrdd ag awdurdodau lleol eraill a’r Awdurdod Iechyd i gyfathrebu arferion da.  

 

·           Beth ydi’r prif gryfderau, a sut allwn ni gyfathrebu’r rhain i ddathlu’n llwyddiant?

 

Cynghorwyd y Pwyllgor ei bod hi’n bwysig gweithio mewn partneriaeth â bod y berthynas gyda’r Awdurdod Iechyd yn hanfodol ynglŷn â sefydliadau gwirfoddol, y trydydd sector a’r darparwyr gofal preifat ar yr Ynys. Mae hefyd yn bwysig datblygu staff o fewn yr Awdurdod ac mae AGC wedi nodi yn yr adroddiad bod staff yn cael eu hannog a’u cefnogi a bod cyfleoedd ar gael i ddatblygu’n broffesiynol.   Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi unigolion i hyfforddi fel Therapyddion Galwedigaethol yn y gobaith y byddant yn dod i weithio i’r Awdurdod wedi hynny. Nodwyd hefyd bod y cydweithio rhwng gwasanaethau’r Cyngor wedi bod yn hanfodol bwysig i lwyddiant y gwaith o gefnogi trigolion ar yr Ynys.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod y prosiect Cartrefi Clyd wedi derbyn clod am lwyddo i  alluogi  plant mewn gofal i aros ar yr Ynys yn hytrach na chael eu symud i leoliadau eraill i dderbyn gofal. Dywedodd bod gwaith ar y gweill i hyrwyddo llwybrau gyrfa o  fewn y gwasanaethau cymdeithasol. Nododd ei fod wedi mynychu sesiwn gyrfaoedd yng Ngholeg Menai i hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y sector gwasanaethau cymdeithasol.

 

·           Beth ydi’r risgiau i’r Awdurdod mewn perthynas â recriwtio a chadw staff?

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai staffio yw’r prif risg fel rhan o’r gofrestr risgiau corfforaethol ac yn enwedig o fewn gwasanaethau rheng flaen y Cyngor wrth ddelio gyda phobl fregus heb gymorth teulu. Nododd bod gan y Cyngor weithdrefn cynllunio gweithlu i ddenu staff a chadw’r staff hynny o fewn gwasanaethau’r Awdurdod. Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion bod recriwtio a chadw staff o fewn y sector gofal yn broblem genedlaethol.  Nododd bod rhaid datblygu’r sector gofal ar gyfer y dyfodol oherwydd  y  bod y boblogaeth yn heneiddio a bod eu hanghenion yn dod yn fwy cymhleth; hefyd bydd angen Gofalwyr gydag arbenigedd i ddelio â phobl fregus gydag anghenion dwys.  Roedd aelodau’r Pwyllgor yn dymuno cael gwybod p’un ai a oedd cymysgedd broffesiynol rhwng staff y naill wasanaeth o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod yr Awdurdod wedi buddsoddi mewn rhaglenni hyfforddi i bobl leol i’w galluogi i gymryd mantais o gyfleoedd o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Aeth ymlaen i nodi y gall gweithwyr allanol hefyd ddod â phrofiad da gyda hwy i wella’r gwasanaeth.  

 

·           Beth fydd rôl y Panel Sgriwtini Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol o ran y sicrwydd hwn?

 

Cynghorwyd y Pwyllgor bod y Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cae ei  sefydlu’n wreiddiol i fynd i’r afael â materion a godwyd yn adroddiad Arolygu AGC yn 2016. Nodwyd bod y Panel yno i herio’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion pan fydd adroddiadau a chyflwyniadau’n cael eu cyflwyno i’r Panel.    Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod Panel Rhiantu Corfforaethol yn bodoli hefyd sydd yn cwrdd yn chwarterol i ganolbwyntio ar y plant mwyaf bregus sydd mewn gofal.  

 

Roedd y Pwyllgor yn dymuno diolch i  staff yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad hynod gadarnhaol gan AGC.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith bod yr adroddiad yn cael ei groesawu a mynd i’r afael â’r meysydd gwella a nodir yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: