Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Rheolwr Sgriwtini.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cyd-destun ar gyfer proses gosod cyllideb 2023/24, ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau ar gyfer Sgriwtini o ran gwerthuso cynigion cyllideb refeniw cychwynnol y Pwyllgor Gwaith. Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i’w gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 24 Ionawr, 2023 yn gosod y gyllideb refeniw dros dro am 2023/24 wedi’i atodi o dan Atodiad 1.
Wrth gyflwyno’r cynigion cychwynnol ar gyfer cyllideb 2023/24, dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Boddhad Cwsmer fod y gyllideb arfaethedig o £171.438m yn cynrychioli cynnydd yn y rhanbarth o £14m yn fwy na chyllideb y flwyddyn flaenorol, gyda chwyddiant yn elfen bwysig o hyn, sy’n her barhaus i’r Cyngor a thrigolion. Er bod y setliad ariannu dros dro ar gyfer llywodraeth leol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr, 2022 yn well na’r hynny a ddisgwyliwyd ar gyfer Ynys Môn, mae bwlch ariannu o £5.396m (cyn unrhyw newid i’r Dreth Gyngor) yn 2023/24. Ystyriwyd sawl opsiwn i bontio’r bwlch er mwyn cyrraedd y gyllideb arfaethedig, gan ystyried lefel y gwariant nesaf yn seiliedig ar y setliad drafft gan Lywodraeth Cymru, ac opsiynau sy’n gysylltiedig â lefel y Dreth Gyngor. Mae’r gyllideb arfaethedig yn ceisio cael cydbwysedd rhwng lleihau gwasanaethau a chynyddu’r Dreth Gyngor, sy’n ddull a gefnogir yn gyffredinol gan ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus a adroddir arno ar wahân i’r cyfarfod hwn. Os ariennir y diffyg ariannol drwy’r Dreth Gyngor yn unig, golyga hyn y bydd angen cynyddu’r Dreth Gyngor 12%. Er mwyn lleihau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor, byddai angen defnyddio arian wrth gefn y Cyngor ei hun, neu ddefnyddio arbedion y gyllideb refeniw. Amcangyfrifir y bydd gan y Cyngor oddeutu £14m o arian wrth gefn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol. Cedwir £9m ohono yn unol â pholisi cyffredinol y Cyngor i gadw 5% o’r gyllideb refeniw net fel y lefel sylfaenol o falansau, sy’n gadael £5 miliwn y gellid ei ddefnyddio i gau’r bwlch ariannu. Er bod hynny’n opsiwn, ni chredir y byddai’n briodol defnyddio’r arian wrth gefn sydd ar gael yn 2023/24 o ystyried nad yw’r rhagamcanion ariannol ar gyfer 2024/25 a 2025/26 yn galonogol. Yn hytrach, awgrymir defnyddio dim ond rhan o’r arian wrth gefn i gydbwyso cyllideb 2023/24. Mae’r gyllideb sy’n cael ei chynnig yn cyfuno arbedion o £1.393m, defnyddio £1.758m o arian wrth gefn y Cyngor a chynyddu’r Dreth Gyngor o 5%. Cynigir hefyd y bydd y premiwm ar ail dai yn codi o 50% i 75% yn unol â pholisi’r Pwyllgor Gwaith i gynyddu’r ffi dros gyfnod o amser. Er gwaethaf y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor, mae’r dreth gyngor ar Ynys Môn ymhlith y cyfraddau isaf yng Nghymru, ac yn seiliedig ar wybodaeth hyd yma, y gyfradd hon fydd yr isaf yng ngogledd Cymru yn 2023/24.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 er bod y sefyllfa ariannol yn llawer gwell na hyn a ragwelwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig a gyhoeddwyd ym mis Medi 2022, mae nifer o risgiau ariannol nad ydynt wedi cael eu datrys, neu y cyffyrddwyd arnynt yn rhannol o fewn y gyllideb o ran chwyddiant a’i effaith bosibl ar ddyfarniadau tâl a chostau eraill y Cyngor. Maent wedi’u hamlinellu yn adran 6 yr adroddiad. Mae staff Llywodraeth leol wedi dod i gytundeb ynghylch y cynnig tâl ar gyfer 2022/23 a all leddfu’r pwysau ar hawliad tâl 2023/24. Tra byddai’n rhaid i unrhyw gynnydd sy’n uwch na’r 3.5% a ddarparwyd ar ei gyfer yn y gyllideb dros dro gael ei gyllido allan o arian wrth gefn y y Cyngor, byddai rhoi darpariaeth uwch i mewn i’r gyllideb yn golygu codiad uwch yn y Dreth Gyngor. Mae risgiau eraill yn gysylltiedig â’r argyfwng costau byw, a all arwain at fwy o alw am wasanaethau’r Cyngor yn ystod 2023/24, yn ogystal â gostyngiad posibl yn incwm y Cyngor o wasanaethau hamdden a/neu feysydd parcio’r Cyngor, wrth i bobl dorri i lawr ar wariant dewisol. O ran arian wrth gefn, bydd unrhyw orwariant yn 2022/23 neu 2023/24 yn gostwng balansau cyffredinol y Cyngor ymhellach. Dywedodd Swyddog Adran 151, yn ei farn broffesiynol, mae’r gyllideb arfaethedig yn adlewyrchiad deg o’r costau sy’n wynebu’r Cyngor yn 2023/24, ac mae’n bodloni’r gofynion statudol o ran bod yn gyllideb gytbwys.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, fod y Panel wedi cwrdd ar 12 Ionawr, 2023 i ystyried y cynigion, a bod y Panel o’r farn bod y rhagdybiaethau a wnaed yn rhai cadarn, bod y camau ar gyfer cau’r bwlch yn osgoi toriadau pellach i wasanaethau, a bod y gyllideb arfaethedig yn deg yn gyffredinol.
Wrth ystyried y cynigion cyntaf ar gyfer y gyllideb, fe aeth y Pwyllgor ati i drafod y materion canlynol -
· A oedd y cynigion yn ymateb yn briodol i’r pwysau ar wasanaethau a’r heriau sy’n eu hwynebu.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cyllidebau ddrafft yn cynnwys rhagor o ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau Plant, Oedolion a Digartrefedd fel y meysydd hynny sy’n wynebu’r pwysau mwyaf oherwydd y galw am y gwasanaethau. Er na ellir rhagweld union lefel y galw, mae’r gyllideb yn cynrychioli’r asesiad gorau o’r adnoddau sydd eu hangen i fodloni costau Cyngor, a beth yw’r cynnydd mewn galw.
· A all y cynigion gael effaith niweidiol ar drigolion Ynys Môn, neu unrhyw grwpiau a warchodir, ac a ellir cymryd unrhyw gamau i liniaru’r effaith hon.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cyllideb 2022/23 yn cynnwys buddsoddiad o £700k ar gyfer gwasanaethau addysg; nid yw’r gwasanaeth wedi defnyddio’r cynlluniau sy’n gysylltiedig â’r cyllid hwn, ac mae’r buddsoddiad ychwanegol yn cael ei ohirio nes bo’r sefyllfa ariannol yn gwella a phan fydd y buddsoddiad yn fforddiadwy. Mae’r cynnydd chwyddiannol yng nghyllidebau ysgolion hefyd yn cael ei gapio i 10%; fodd bynnag, ni ragwelir y bydd y cynigion hyn yn effeithio ar unrhyw grŵp penodol. Yn yr un modd, mae gweddill y gyllideb yn ariannu’r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd, sy’n cynnwys y rheiny a ddarperir ar gyfer y grwpiau mwyaf bregus o fewn cymunedau’r Ynys. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn llwyr ymwybodol o’r effaith mae’r argyfwng costau byw yn ei gael ar gymunedau, a bod llunio’r gyllideb yn gofyn am bwyso a mesur. Er na fydd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn effeithio’n niweidiol ar grwpiau penodol o bosib, mae’r Pwyllgor Gwaith a Swyddogion yn ystyrlon o’r argyfwng presennol.
· A yw’r cap chwyddiannol ar gyllideb ysgolion, sy’n gyfwerth â thoriad, yn peri pryder i ysgolion a’r Gwasanaeth Dysgu.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bydd y cynigion yn cael eu hystyried gan y Fforwm Ysgolion ym mis Chwefror. Fodd bynnag, dylid nodi fod y Gyllideb Ysgolion yn cynyddu gymaint â £4.3m neu 10.3%. Mae ariannu dyfarniad tâl athrawon ar gyfer 2022/23 hefyd yn cael ei drafod gan ei fod yn uwch na’r ddarpariaeth a wnaed ar ei gyfer y gyllideb. Mae’n debygol y bydd y gost ychwanegol ar gyfer dyfarniad tâl athrawon yn cael ei ariannu gan gyllideb ganolog y Cyngor, yn hytrach na chyllidebau ysgolion, sy’n golygu y bydd ysgolion ar eu hennill o £1m eleni, er bod y cynnydd chwyddiannol yn cael ei gapio flwyddyn nesaf. Bydd effaith y cap ar ysgolion yn amrywio yn dibynnu ar lefel yr arian wrth gefn sydd gan bob ysgol. Mae’r ffigyrau drafft wedi cael eu hanfon ymlaen at bob ysgol, ac ar hyn o bryd mae penaethiaid yn eu hadolygu cyn i bob ysgol osod ei chyllideb ar gyfer 2023/24.
Atgoffwyd y Pwyllgor hefyd fod y gyllideb i ysgolion wedi cael ei gwarchod am nifer o flynyddoedd; mae ysgolion wedi cael cyfle i gynyddu eu harian wrth gefn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae gofyn iddynt ddangos fod ganddynt gynlluniau ar gyfer gwario’r gweddill. Felly, disgwylir y byddant yn defnyddio’r arian wrth gefn yn ystod y blynyddoedd nesaf i ariannu unrhyw fwlch.
· Pwysigrwydd cyllid grant a’r goblygiadau petai un neu fwy grant yn cael eu tynnu neu bod y Cyngor yn aflwyddiannus yn ei gais am grant.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai Llywodraeth Cymru yw’r brif ffynhonnell ariannu ar gyfer cyllid grant ychwanegol, ac mae rhai grantiau gan Lywodraeth Cymru’n cael eu dyfarnu’n flynyddol - ar gyfer addysg, tai a rheoli gwastraff, sy’n ei gwneud hi’n anodd gwahaniaethu beth a ariennir drwy grantiau a beth a ariennir gan gyllideb graidd y Cyngor o ran y gwasanaethau hynny. Os bydd y grant yn lleihau, mae’n fwy anodd cyfyngu’r gwasanaeth. Mae rhagor o gyllid grant yn dod ar ffurf grantiau penodol. Cânt eu clustnodi ar gyfer gweithgarwch penodol, ac fel arfer maent yn pahau am amser penodol sy’n ei gwneud hi’n haws i gynllunio gwasanaethau a’r gweithlu ar eu cyfer. Mae rhai o’r grantiau hyn yn cael eu neilltuo ar sail gystadleuol heb unrhyw sicrwydd o lwyddiant; pan fydd y grantiau hynny’n dod i ben, bydd y gwasanaeth/prosiect hefyd yn cyrraedd ei derfyn.
· Defnyddio £172.438m o arian wrth gefn cyffredinol y Cyngor i gydbwyso cyllideb 2023/24, a sut fyddai hynny yn ymddangos i’r cyhoedd.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bydd lefel bresennol balansau cyffredinol nas dosbarthwyd gan y Cyngor oddeutu £10.2m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, gyda gwerth £4m ychwanegol o arian wrth gefn a glustnodwyd, a ellir ei ddychwelyd i falansau cyffredinol y Cyngor. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi gosod lleiafswm y balans cyffredinol fel 5% o’r gyllideb net refeniw; mae hynny’n £8.7m ar gyfer 2023/24 sy’n gadael £5.5m posibl ar gael i helpu i ariannu’r gyllideb refeniw dros y ddwy neu dair blynedd nesaf. Er y gellid defnyddio’r £5.5m yn llawn i ariannu bwlch y gyllideb yn 2023/24, byddai hyn yn creu risg ariannol i’r Cyngor, a gallai arwain at heriau ariannol yn y dyfodol pe byddai angen ariannu unrhyw wariant annisgwyl sylweddol, neu ariannu gorwariant refeniw’r dyfodol. Ystyrir bod cadw lefel ddigonol o arian wrth gefn yn elfen hanfodol o wytnwch a sefydlogrwydd ariannol.
· Forddiadwyedd y cynnydd yn y Dreth Gyngor i’r rheiny ar incwm isel, a’r ffordd mae’r Cyngor yn hysbysebu’r cymorth sydd ar gael mewn achosion o’r fath.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gyllideb yn neilltuo cyllid ar gyfer cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor gan y Cyngor, sy’n cael ei hysbysebu ar wefan y Cyngor, drwy’r Ganolfan J. E. O’Toole yng Nghaergybi a sefydliadau eraill sy’n cynnig cyngor ar lesiant, megis Cyngor ar Bopeth.
· A yw’r cynnydd arfaethedig o 50% i 75% yn y premiwm ar gyfer ail dai yn gynnydd teg, a sut all y Cyngor sicrhau bod yr incwm o’r ffynhonnell hwn yn parhau’n gynaliadwy.
(Bu i’r Prif Weithredwr ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu ar yr adeg hon, a gadawodd y cyfarfod)
Cafodd y Pwyllgor ragor o wybodaeth gefndirol am y premiwm ail gartref ar Ynys Môn, sydd wedi cynyddu’n gynyddrannol ers ei gymeradwyo gyntaf a’i osod yn 25% o lefel y Dreth Gyngor. Fel mae’r premiwm wedi codi i’r lefel bresennol o 50% mae nifer yr ail dai sy’n trosglwyddo i gyfradd busnes wedi cynyddu hefyd, ac er bod nifer yr ail dai wedi gostwng am gyfnod, mae wedi codi i 2,700. Mae’r rhif hwn wedi aros oddeutu’r un fath ers i’r premiwm godi i 50%, ac ers tynhau’r rheolau ar gyfer trosglwyddo i gyfraddau busnes. Y nod yw ceisio bod yn deg â pherchnogion ail dai ond gan hefyd cael effaith o ran rheoli’r mater. Fe all cynnydd mawr neu gynnydd disymwth yn y premiwm ysgogi perchnogion ail dai i geisio osgoi talu’r premiwm yn gyfan gwbl, a hynny drwy gofrestru eu hail dai fel eu prif gartref preswyl.
Cafodd Aelodau eraill y Cyngor, a’u gwahoddwyd i’r cyfarfod, gyfle i fynegi eu barn ar gynigion y gyllideb. Siaradodd y Cynghorydd Jeff Evans, aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio am ei brofiad o weithio gyda phobl fregus dan anfantais ar yr Ynys dros nifer o flynyddoedd. Gan gyfeirio at yr argyfwng costau byw, dywedodd fod y cynnydd arfaethedig o 5% yn y Dreth Gyngor yn llawer rhy uchel ac yn annerbyniol, ac i lawer o bobl sy’n ei chael hi’n anodd, mae’r cynnydd wythnosol o £1.32 ar gyfer eiddo Band D yn ddigon i brynu peint o laeth. Roedd hefyd o’r farn bod y ddarpariaeth tâl o 3.5% yn afrealistig dan yr amgylchiadau, gyda nifer o weithwyr y sector cyhoeddus yn streicio am gyflog mwy er mwyn ymdopi â chwyddiant. Awgrymodd y dylid defnyddio arian wrth gefn y Cyngor yn fwy eang na’r hyn a gynigiwyd er mwyn lleihau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor i 3.5% neu 4%.
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Plant (Gwasanaethau Cyhoeddus) ac Ieuenctid fod diogelu’r bobl fwyf bregus yn gonsyrn i bawb, ond bydd codi’r Dreth Gyngor yn sicrhau bod y gwasanaethau y mae’r bobl fregus hynny’n dibynnu arnynt yn cael eu cynnal. Pe byddai’r setliad terfynol yn caniatáu gostyngiad yn y cynnydd yn y Dreth Gyngor, yna byddai hynny’n cael ei ystyried.
Cyfeiriwyd hefyd at y cynnig llwyddiannus i adfywio Canol Tref Caergybi dan nawdd Cronfa Ffyniant Bro'r DU, a thrafodwyd gallu’r Gwasanaeth Datblygiad Economaidd i gyflawni’r gwaith o ran adnoddau ac amser.
Ar ôl ystyried y cynigion ar gyfer cyllideb refeniw drafft 2023/24, ac ar ôl cwestiynu’r Aelodau Portffolio a Swyddogion ar eu heffaith a’u goblygiadau, roedd aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn fodlon bod y cynigion yn deg a rhesymol, ac yn cyrraedd cydbwysedd derbyniol rhwng codi’r Dreth Gyngor, defnyddio arbedion a defnyddio arian wrth gefn y Cyngor.
Penderfynwyd argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod cynigion cyllideb ddrafft 2023/24, sy’n gyllideb o £172.438m, ac sy’n cynnwys cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor, defnyddio £1.758m o falansau cyffredinol a chodi’r premiwm ar ail dai o 50% i 75%, yn deg a rhesymol, ac felly’n cefnogi’r Cyngor Sir i osod cyllideb gytbwys.
Dogfennau ategol: