Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 ADV/2022/12 - Cyfleusterau Cyhoeddus, Porth Dafarch, Lôn Isallt, Bae Trearddur.

ADV/2022/12

 

12.2 ADD/2022/13 - Maes Parcio Cyhoeddus, Lôn St Ffraid, Bae Trearddur

ADV/2022/13

 

12.3 ADV/2022/14 - Maes Parcio ger Ynys Lawd, Lôn Ynys Lawd, Caergybi.

ADV/2022/14

 

12.4 ADV/2022/15 - Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi

ADV/2022/15

 

12.5 ADV/2022/16 – Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

ADV/2022/16

 

12.6 LBC/2022/33 – Amddiffyniad Pillbox ger Cofeb Skinner, Caergybi

LBC/2022/33

 

12.7 FPL/2022/248 - Gwenallt, Llansadwrn

FPL/2022/248

 

12.8 DIS/2022/36 - Hen Safle Roadking,Parc Cybi, Caergybi

DIS/2022/36

 

12.9 FPL/2022/258 - 3 Tan y Graig, Llanfairpwll

FPL/2022/258

 

12.10 FPL/2022/275 - Ysgol Llanfawr, Ffordd Tudur, Caergybi.

FPL/2022/275

 

Cofnodion:

12.1 ADV/2022/12 – Cais i osod arwydd dehongli treftadaeth ar wal yr adeilad toiled/cawod presennol yng Nghyfleusterau Cyhoeddus, Porth Dafarch, Lôn Isallt, Bae Trearddur.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd, a pherchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais, ynghyd â’r ceisiadau canlynol 12.2 i 12.5, ar yr agenda, yn ffurfio rhan o gynllun ehangach ar draws Caergybi sy’n cael ei gyflwyno gan Bartneriaeth Tirwedd Ynys Cybi. Cyfeiriodd at safle, graddfa dyluniad ac ymddangosiad yr arwydd dwyieithog dan ystyriaeth, a chadarnhaodd ei fod yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda pholisïau cynllunio PCYFF 2 a PCYFF 3 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Hefyd, ni chredir y bydd y cais, mewn perthynas â graddfa ac ymddangosiad gweledol, yn cael unrhyw effaith negyddol ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle caiff ei leoli, na chymeriad yr adeiladu y gosodir yr arwydd. Felly, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunion yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.2 ADV/2022/13 – Cais i leoli panel dehongli treftadaeth annibynnol ym Maes Parcio Cyhoeddus, Lôn Sant Ffraid, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn ddatblygiad graddfa fach i ddarparu panel dehongli treftadaeth dwyieithog ym maes parcio Bae Trearddur. Ystyrir bod gan y cais ddyluniad a graddfa briodol fydd yn sicrhau ei fod yn integreiddio o fewn y safle heb gael unrhyw effaith andwyol ar eiddo cyfagos. Bydd yn llawn gwybodaeth, ar gael i bawb ac yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Argymhellir cymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunion yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.3 ADV/2022/14 – Cais i godi arwydd dehongli treftadaeth yn y maes parcio ger Ynys Lawd, Lôn Ynys Lawd, Caergybi 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn oedd yr ymgeisydd ac sy’n berchen ar y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais i godi arwydd treftadaeth sy’n sefyll ar ei ben ei hun yw hwn, a bydd yn ddwyieithog ac yn cynnwys gwybodaeth a lluniau ynghylch hanes Ynys Cybi. Ni chredir y bydd y cais yn cael effaith ar ddefnydd neu gymeriad y llwyfan gwylio presennol na’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle bydd yn cael ei leoli. Mae safle, dyluniad ac ymddangosiad y cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol, ac felly argymhellir cymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunion yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.4 ADV/2022/15 – Cais i leoli arwydd dehongli treftadaeth wedi'i osod y ar wal y tu allan i adeilad presennol Canolfan Ymwelwyr Parc Gweledig y Morglawdd ym Mharc Gwledig Morglawdd, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac fe’i wnaed gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais yn ddatblygiad graddfa fach er mwyn darparu arwydd dehongli treftadaeth dwyieithog ar du allan Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Morglawdd. Mae ei ddyluniad a’i faint yn briodol er mwyn sicrhau ei fod yn integreiddio a’r safle, ac nad yw’n cael effaith ar eiddo cyfagos. Bydd yn llawn gwybodaeth, ar gael i bawb ac ystyrir ei fod yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Argymhellir cymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunion yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.5 ADV/2022/16 – Caniatâd Hysbyseb i godi arwydd dehongli annibynnol yn y maes parcio ym Mharc Arfordirol Penrhos Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cynnig yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol o ran safle, graddfa’r dyluniad ac ymddangosiad, ac felly ni fydd yn effeithio ar ddefnydd na chymeriad y maes parcio presennol, na’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle bydd yn cael ei leoli. Argymhellir cymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunion yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.6 LBC/2022/33 – Caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer newidiadau a gwaith atgyweirio yn Skinners Monument Pillbox, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gyfochr â chais caniatâd adeilad rhestredig cysylltiedig (LBC/2022/34 – Pillbox cyfagos i Westy Bae Trearddur, Bae Trearddur) gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at y gweithiau arfaethedig i strwythur y Pillbox, ac ystyrir bod y rhan fwyaf o’r gwaith yn cynnwys adfer a chynnal a chadw nad oes angen caniatâd ffurfiol ar eu cyfer. Er hyn, mae rhai elfennau eraill yn gysylltiedig â’r gwaith, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Roedd y brys i gael amddiffyniadau arfordirol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal â phrinder rhai deunyddiau adeiladu ar yr adeg honno, yn golygu bod y pillboxes wedi’u codi’n frysiog. Ni chawsant eu codi â’r bwriad i fod yn strwythurau parhaol. Oherwydd hyn, mae problemau adeiladu wedi codi yn sgil diffyg cynnal a chadw, ac mae angen mynd i’r afael â nhw er mwyn gwarchod dyfodol hirhoedlog y strwythur. Credir bod y ceisiadau sydd wedi’u cyflwyno wedi cael eu hystyried yn ofalus, eu bod wedi’u cyfiawnhau ac yn cyd-fynd â chymeriad yr adeilad ac na fyddant yn achosi niwed i gymeriad rhestredig, safle’r adeilad rhestredig nac ychwaith yr adeilad rhestredig cyfagos. Yr argymhelliad yw gymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunion yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.7 FPL/2022/248 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y sied bresennol a chodi uned gwyliau newydd ynghyd â chreu mynedfa a dreif newydd a datblygiadau cysylltiedig yn Gwenallt, Llansadwrn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Sion Roberts, Cadnant Planning i gefnogi’r cais. Dywedodd fod y cais sydd wedi’i gyflwyno wedi cael ei addasu er mwyn ateb y rhesymau dros wrthod cais blaenorol ar gyfer 2 uned gwyliau newydd. Bellach, credir bod y cynllun busnes yn dderbyniol yn ogystal â’r trefniadau mynediad newydd. Argymhellid gwrthod y cais oherwydd ei fod mewn ardal breswyl a chredir y bydd yn niweidiol i gymeriad yr ardal. Ystyrir hefyd y bydd yn effeithio ar fwynderau a phreifatrwydd yr eiddo cyfagos a hynny oherwydd goredrych. Dywedodd Mr Roberts nad yw’r Swyddogion wedi dweud ym mha ffordd y bydd y cais yn niweidio cymeriad yr ardal, a dylid nodi fod y cais bellach ar gyfer un uned gwyliau, nid dau, a bod cynllun tirlunio eang wedi’i gyflwyno i leihau effaith gweledol yr uned honno; mewn amser, bydd yr uned yn cael ei sgrinio’n effeithiol, ac mae’n annhebygol y bydd yn weledol yn yr ardal. Mae’r uned wedi cael ei dylunio ar gyfer cyplau neu deuluoedd bach, gan gyfyngu unrhyw fynd a dod; darperir gardd breifat gyda dec ac o ystyried yn nifer o bobl fydd yn defnyddio’r uned ar adeg benodol, mae’n annhebygol y bydd y datblygiad yn cael effaith andwyol ar fwynderau megis defnydd preswyl. Ni chyfeiriodd y Swyddogion at y mater o oredrych, felly, nid yw’r ymgeisydd wedi cael cyfle i ymateb na pharatoi cynllun priodol i fynd i’r afael â’r gwrthwynebiad hwn.Yn ogystal â’r cynllun tirlunio ar ffin orllewinol y safle credir y gellir ymdrin â’r broblem o oredrych drwy osod ffens ger ffin hwn neu drwy godi sgriniau i atal goredrych i’r gorllewin. Mae adroddiad y Swyddog yn cadarnhau na fydd y datblygiad yn darparu gormod o lety gwyliau yn y gymdogaeth. Mae’r ymgeisydd yn gobeithio y gellir adfer y gwrthwynebiadau, a byddai’n hapus i gyflwyno cynllun arall, neu osod amodau er mwyn rheoli’r mater hwn.Ystyrir bod y datblygiad yn cydymffurfio â pholisi TWR 2 a phlis PCYFF 2.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cais cyntaf ar gyfer dwy uned gwyliau newydd wedi’i wrthod ym mis Ionawr, 2022 am resymau a nodwyd yn yr adroddiad, ac nad yw safbwyntiau’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi newid mewn perthynas â’r cais presennol. Mae’r cais wedi’i leoli mewn ardal breswyl ac ni chredir y byddai’r datblygiad yn cyd-fynd â chymeriad ac ymddangosiad yr ardal. Am ei fod yn ddatblygiad anghydweddol yn y gymdogaeth, ni fyddai’n gweddu â chymeriad yr ardal, nac yn ei wella, yn groes i bolisi PCYFF 2. Yn ogystal â hyn, mae Llansadwrn wedi’i adnabod fel Clwstwr, sy’n cael ei briodweddu gan gymeriad cymdeithasol ac amgylcheddol sensitif iawn yn ogystal â lefel gyfyngedig o wasanaethau a chyfleusterau; credir y gall y datblygiad, mewn perthynas â’i ddefnydd a gweithgarwch cysylltiad, fod yn niweidiol i gymeriad cymdeithasol a phreswyl sensitif yr ardal yn groes i’r polisi. Byddai’r cais arfaethedig wedi’i amgylchu â dec wedi’i godi oddeutu 1.5m oddi ar y llawr, a chredir y byddai hyn yn effeithio’n sylweddol ar fwynderau eiddo cyfagos drwy oredrych a cholli preifatrwydd. Am y rhesymau hyn, ac oherwydd nad yw’r cais yn cyd-fynd a nifer o bolisïau, yr argymhelliad yw gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams gan fod y datblygiad arfaethedig wedi’i leoli yng nghanol pentref, byddai’n cael effaith niweidiol ar briodoleddau’r clwstwr, ac roedd yn credu fod y datblygiad yn ansensitif oherwydd hynny. Cynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod, yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Ken Taylor.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd.

 

12.8 DIS/2022/36 – Cais i ryddhau amod (02) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu), (03)(Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu), (07)(Manylion/Samplau o ddefnyddiau), (09)(Cynllun Cyflogaeth Lleol), (10)(Sgim Gadwyn Gyflenwi Lleol) o ganiatâd cynllunio FPL/2021/337: Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) yn Hen Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i ryddhau amodau a osodwyd gan y Pwyllgor wrth wneud penderfyniad ynghylch cais cynllunio cyfeirnod FPL/2021/337 – Cais llawn i adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) yn Hen Safle Roadkin, Parc Cybi, Caergybi – yn ei gyfarfod a gynhaliwyd 2 Mawrth, 2022.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod gwybodaeth ynghylch pob un o’r amodau (02) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu), (03)(Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu), (07)(Manylion/Samplau o ddefnyddiau), (09)(Cynllun Cyflogaeth Lleol), (10)(Sgim Gadwyn Gyflenwi Lleol) wedi’i derbyn ac yn boddhau’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac ymgynghorwyr statudol eraill mewn perthynas â rhyddhau’r amodau. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo’r cais.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog  mewn perthynas â rhyddhau’r amodau’n llawn.

 

12.9 FPL/2022/258 – Cais llawn ar gyfer addasu ag ehangu'r garej presennol yn ogystal â'i drosi i fyngalo dwy ystafell yn 3 Tan y Graig, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mae rhan o safle’r cais yn eiddo i’r Cyngor Sir.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at y prif ystyriaethau cynllunio a osodwyd yn adroddiad y Swyddog ynghylch safle a dyluniad y cais. Credwyd eu bod yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â pholisi. O ran ystyriaethau tai, er y gellir cefnogi’r safle gan y ddarpariaeth ddisgwyliedig o fewn categori Canolfannau Gwasanaeth Lleol, mae’r setliad wedi gweld lefel o dwf disgwyliedig o ran safleoedd ar hap drwy unedau a gwblhawyd yn ystod y cyfnod rhwng 2011 a 2022, sy’n golygu bod y cais angen ei gyfiawnhau o ran amlinellu sut mae’r cais yn bodloni anghenion y gymuned. Roedd yn rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth bellach a oedd yn nodi’r angen am y cais i symud i eiddo un llawr yn y dyfodol, gan mai dim ond un eiddo oedd ar werth yn yr ardal a oedd yn cyd-fynd â’r meini prawf ac nad oedd unrhyw ddatblygiadau newydd wedi’u cymeradwyo yn Llanfairpwll. Byddai’r byngalo arfaethedig yn fuddiol i ddarpar berchnogion a pherchnogion presennol am ei fod mewn lleoliad canolog yn y pentref ac yn agos at fwynderau a gwasanaethau lleol. Ystyrir bod y wybodaeth a ddarparwyd yn dderbyniol gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd. O ran ei effaith ar eiddo preswyl cyfagos, credi nad fydd yr estyniad yn cael effaith ar breifatrwydd a mwynder cymdogion am ei fod yn estyniad graddfa fach. Er gwaethaf rhai gwrthwynebiadau o ran y mynediad arfaethedig, nid yw’r Awdurdod Priffyrdd wedi codi unrhyw wrthwynebiad yn erbyn y cais yn ystod ymgynghoriad. Felly, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Jackie Lewis.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunion yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.10 FPL/2022/275 – Cais llawn ar gyfer uned gofal plant newydd yn Ysgol Llanfawr, Ffordd Tudur, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei wneud gan y Cyngor ac ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.

 

Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Glyn Haynes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi cael ei asesu yn erbyn y meini prawf a osodwyd yn ISA Polisi 2, Cyfleusterau Cymunedol. Mae safle’r cais o fewn ffin datblygu Caergybi yn unol â maen prawf ISA Polisi 2, ac mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau nad oes unrhyw adeiladau eraill y gellir eu defnyddio ar gyfer bwriad y cais, sydd felly’n bodloni gofyniad maen prawf 2, sy’n cyfeirio at adeiladau newydd ac a ellir bodloni anghenion y gymuned drwy ddefnyddio neu addasu adeiladau presennol. Credir bod y cais o faint, cymeriad a swyddogaeth briodol o fewn setliad Caergybi. Mae wedi adnabod yn Ganolfan Gwasanaeth Trefol sy’n golygu ei fod yn bodloni maen prawf 4 ac mae mewn lleoliad cynaliadwy yn unol â maen prawf 5. Mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol sydd wedi cael ei gadarnhau a’i gymeradwyo gan y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg. Bydd yr adeilad wedi’i leoli o fewn safle presennol yr ysgol, a bydd mynediad i gerbydau ar gael drwy’r maes parcio presennol gyda mynediad newydd i gerddwyr oddi ar Ffordd Tudur. Oherwydd hyn, ni ystyrir y bydd y datblygiad yn cael effaith andwyol ar fwynderau eiddo cyfagos, ar argymhelliad yw cymeradwyo’r cais.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a fydd yr uned yn cael ei defnyddio dros dro nes bod strwythur mwy parhaol ar waith, cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ei fod yn deall y bydd yr uned yn cael ei defnyddio’n barhaol fel meithrinfa, ac nad oes bwriad i wneud cais am adeilad mwy parhaol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor i gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Jackie Lewis.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunion yn yr adroddiad hwnnw.

 

Dogfennau ategol: