Eitem Rhaglen

Cyllideb Refeniw Drafft 2023/24

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi cyllideb refeniw dros dro'r Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2023/2024 i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid fod y gyllideb gychwynnol ar gyfer eleni wedi cynyddu i £172.438m ac mai'r prif ffactor yw chwyddiant fel y gellir ei ddangos yn Nhabl 2 o fewn yr adroddiad.  Dywedodd ymhellach fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gynnal o ran y gyllideb refeniw a bod yr adborth wedi arwain at gyfuniad o gynnydd yn Nhreth y Cyngor, y defnydd o arian wrth gefn a chynyddu'r premiwm ar ail gartrefi.   Er bod y setliad dros dro i Lywodraeth Cymru yn uwch na'r hyn a ragwelwyd, mae gan yr awdurdod ddiffyg o £5.396m o hyd.  Er mwyn ariannu'r diffyg ariannol, byddai angen gosod cynnydd o 12% yn Nhreth y Cyngor.  Er mwyn lleihau'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor, byddai angen defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor neu wneud arbedion o ran y gyllideb refeniw.  Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor Gwaith wedi gosod isafswm o 5% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer y balansau cyffredinol.   Argymhellir cyfuniad o ddefnyddio £1.78m o gronfeydd wrth gefn cyffredinol, cynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor (sy'n codi tâl Band D i £1,435.86) a chynyddu'r premiwm ar ail gartrefi o 50% i 75%. 

 

Tynnwyd sylw gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y ffaith mai dyma'r refeniw drafft cychwynnol ar gyfer 2023/2024 ac y bydd y gyllideb derfynol yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023  ac wedi hynny i'r Cyngor llawn ar 9 Mawrth, 2023.  Nododd y bydd mân addasiadau i'r gyllideb gyda'r prif welliant i ardoll yr Awdurdod Tân ac Achub sydd wedi gostwng o 13.4% i 9.9%.  Mae partneriaid allanol eraill y mae'r Cyngor yn ei ariannu a bydd y rheini’n dod i benderfyniad ar eu cyllideb maes o law. Tynnodd sylw at lefel y risg sy'n ymwneud â'r gyllideb, yn arbennig p’un ai a ddarparwyd yn ddigonol ar gyfer codiadau cyflog, chwyddiant ynni a'r galw cynyddol am wasanaethau. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth o gyfarfod y Pwyllgor ar 19 Ionawr, 2023 lle derbyniwyd adroddiadau'r Rheolwr Sgriwtini a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 gan y Pwyllgor. Roedd aelodau'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio hefyd yn bresennol.  Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod a rhoi sylw i adborth gan y Panel Sgriwtini Cyllid, penderfynwyd argymell i'r Pwyllgor Gwaith fod yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.

 

Dymunai'r Pwyllgor Gwaith dynnu sylw at y gwaith a wnaed i osod y gyllideb refeniw ddrafft a'r balans sydd ei angen er mwyn i’r gyllideb fodloni’r galw am wasanaethau’r Awdurdod yn 2023/2024 a hefyd i ddiogelu pobl fregus yn y gymdeithas y bydd angen y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor arnynt. 

PENDERFYNWYD:-

·           Cymeradwyo’r gyllideb arfaethedig gychwynnol ar gyfer 2023/24 o £172.438m;

·        Cymeradwyo’r cynnydd arfaethedig o 5% yn Nhreth y Cyngor, a fydd yn golygu bod y gost i eiddo Band D yn £1,435.86;

·           Cynnig yn ffurfiol bod y premiwm ar ail gartrefi yn codi o 50% i 75%;

·           Bod £1.758m yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn cydbwyso’r gyllideb refeniw.

 

Dogfennau ategol: