Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24. Cyflwynwyd yr adroddiad i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arfer gorau yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar Reoli’r Trysorlys ac roedd yn cynnwys y Strategaeth Buddsoddi Flynyddol, y Datganiad Polisi Taliad Refeniw Sylfaenol (MRP) blynyddol, y Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys blynyddol a Chynllun Dirprwyo Rheoli’r Trysorlys.
Roedd y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys yn nodi strategaeth a dull gweithredu’r Cyngor o ran benthyca a buddsoddi. Roedd y cyfyngiadau ar fenthyca, hefyd, yn pennu set o ddangosyddion darbodus ac yn pennu awydd risg a strategaeth y Cyngor o ran buddsoddiadau. Roedd yn ymestyn dros y ddau brif faes a ganlyn –
· Materion cyfalaf gan gynnwys cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor a dangosyddion darbodus ynghyd â’r Datganiad ar Gyflwyno Polisi Refeniw Sylfaenol (MRP) a,
· Materion rheoli’r trysorlys gan gynnwys sefyllfa bresennol y Cyngor o ran trysorlys, y rhagolygon ar gyfer cyfraddau llog, Strategaethau Benthyca a Buddsoddi’r Cyngor; y Polisi ar Fenthyca Ymlaen Llaw; Aildrefnu Dyledion, y Polisi Teilyngdod i gael Credyd a'r trefniadau ar gyfer llywodraethu a rheoli prosesau, penderfyniadau a pherfformiad gwaith rheoli'r trysorlys.
Yn yr adroddiad, hefyd, roedd sylwadau ar y cefndir economaidd ehangach a’r rhagolygon a sut yr oedd y rhain yn dylanwadu ar benderfyniadau rheoli’r trysorlys.
Wrth roi trosolwg o’r adroddiad, tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sylw at yr isod –
· Y câi unrhyw arian dros ben oedd gan y Cyngor ar hyn o bryd ei fuddsoddi mewn cyfrifon adnau tymor byr, cyfrifon adnau cyffredinol a chydag awdurdodau lleol eraill yn y DU. Hyd at 31 Rhagfyr, 2022 y balans a fuddsoddwyd yn y cyfrifon hyn oedd £46.2m. Rhagwelwyd y byddai’r balans hwn yn gostwng i tua £38m ac na fyddid yn ailfuddsoddi buddsoddiad yr oedd disgwyl iddo aeddfedu ym mis Chwefror 2023 ond, yn hytrach, byddai’n mynd yn ôl i Gronfa’r Cyngor i'w defnyddio i ategu gofynion llif arian a chyllido gwariant cyfalaf ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
· Cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor a sut i’w hariannu (Tabl 3 yr adroddiad). £26.118m sydd angen ei fenthyca ar gyfer gwariant cyfalaf am 2023/24.
· Effaith cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor a’r tâl MRP ar lefel y benthyca allanol a mewnol fel y’i nodir yn Nhabl 4 yr adroddiad.
· Newid i'r Polisi Cyflwyno Refeniw Sylfaenol. Yn 2018, adolygodd y Cyngor ei bolisi MRP a mabwysiadodd y dull Rhandaliad Cyfartal o Oes Ased i gyfrifo ei dâl MRP ar gyfer benthyca â chymorth a benthyca heb gymorth. O 1 Ebrill, 2022, roedd y polisi diwygiedig yn mabwysiadu dull blwydd-dal gan ddilyn dull tebyg i forgais ad-dalu safonol, lle'r oedd swm ad-dalu cyfun y prifswm a ad-delid a’r llog yn aros yn gyson ac, yn sgil hynny, roedd swm y prifswm a ad-delid yn y blynyddoedd cynnar yn isel ac yn cynyddu dros amser. Dan y dull blwydd-dal, felly, roedd y tâl MRP yn isel yn y blynyddoedd cychwynnol ac yn cynyddu dros amser. Er bod y swm gwirioneddol a godid yn aros yr un fath gyda'r ddau ddull, pan fyddai gwerth taliadau yn y dyfodol yn gostwng yn ôl i brisiau cyfredol, byddai’r dull Blwydd-dal yn rhoi Gwerth Presennol Net positif o'i gymharu â'r dull Rhandaliad Cyfartal o Oes Ased. Y gred oedd bod hwn yn ddull mwy darbodus.
· Yr angen i fabwysiadu strategaeth buddsoddi ystwyth am 2023/24 er mwyn sicrhau'r enillion gorau posibl. Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai rhywbeth yn y tymor byr fyddai adneuon newydd pe bai Cyfradd y Banc yn parhau i godi. I'r gwrthwyneb, pe bai’r gyfradd yn gostwng, byddid yn ystyried cloi cyfraddau uwch oedd ar gael am gyfnod hwy. Fodd bynnag, roedd buddsoddi arian dros ben y Cyngor yn golygu nad oedd yr arian ar gael at ddibenion beunyddiol nac i ariannu gwariant cyfalaf, felly, roedd yn rhaid i’r Cyngor fenthyca. Yr her oedd cynnal cydbwysedd rhwng cael y gorau o fuddsoddiadau wrth, hefyd, osgoi benthyca ar gyfradd uchel. Y strategaeth, felly, oedd buddsoddi yn y tymor hwy wrth, hefyd, fenthyca dros dymor byr.
· Bod blaenoriaethau buddsoddi'r Cyngor yn parhau i fod yn sicrwydd yn gyntaf, hylifedd portffolio yn ail ac yna elw (enillion) er y byddid yn fwy cynnil gyda hylifedd ac elw. Byddid yn asesu'n ofalus y gwerth i'w gael o fuddsoddi yn y tymor hwy lle gellid nodi symiau arian parod y gellid eu buddsoddi am gyfnodau hwy.
Mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor ar gynnwys yr adroddiad, eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yr isod –
· Y câi unrhyw fân newidiadau/cywiriadau eu gwneud i'r Datganiad Strategaeth cyn ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor Llawn.
· Er y câi’r gyllideb gyfalaf ei gosod mewn modd a ddangosai sut y câi elfennau ohoni eu hariannu, boed hynny drwy grantiau, derbyniadau, arian wrth gefn a/neu fenthyca, byddid yn benthyca o ddydd i ddydd i gwrdd â gofynion llif arian y Cyngor ac i ailgyflenwi balansau arian parod ond nid oedd yn benodol gysylltiedig ag unrhyw eitem benodol o wariant cyfalaf.
· Bod Grŵp Cyswllt wedi bod yn gweithredu fel Ymgynghorwyr Trysorlys y Cyngor ers nifer o flynyddoedd ac wedi bod yn llwyddiannus pan roddwyd y contract i dendr ddiwethaf yn 2018/19.
· Bod benthyca yn cynyddu oherwydd bod y Cyngor wedi cyrraedd terfynau benthyca mewnol sy'n golygu bod yn rhaid ariannu gwariant cyfalaf parhaus o fenthyciadau allanol. Y Cyfrif Refeniw Tai oedd yn cynhyrchu'r swm mwyaf o angen benthyca, a hynny er mwyn bodloni'r blaenoriaethau datblygu tai a nodir yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai. Er bod cronfeydd wrth gefn y cyfrif hwn wedi'u defnyddio i ariannu'r gwariant hwn, gan fod y rhain yn cael eu rhedeg i lawr i lefel sy'n briodol ym marn y Cyngor, rhaid oedd i unrhyw wariant cyfalaf newydd gael ei ariannu gan fenthyciadau allanol. O ran ad-daliadau, ni châi prifswm y benthyciad ei dalu’n ôl yn flynyddol yn yr un modd â morgais ond câi ei ad-dalu pan ddeuai cyfnod y benthyciad i ben. Rhoddai Atodiad 5 yr adroddiad ddadansoddiad o aeddfedrwydd benthyciadau o 2023/24 ymlaen. Fodd bynnag, fel rhan o unrhyw benderfyniad ar fenthyca yn y dyfodol, byddai’r Cyngor yn ceisio sicrhau y câi’r dyddiad ad-dalu ei drefnu er mwyn gwneud ad-daliadau mor ddidrafferth ag y bo modd.
· O ran y gostyngiad mewn gwariant cyfalaf nad yw'n Gyfrif Refeniw Tai/Cronfa Gyffredinol dros y tair blynedd nesaf, câi hwn ei ariannu yn rhan o'r setliad blynyddol gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn cynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol y gellid ei wario yn ôl dymuniad y Cyngor a benthyca â chymorth, lle câi costau refeniw benthyca eu hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r setliad refeniw blynyddol. Er bod y ffrydiau ariannu hyn wedi aros ar yr un lefel, fwy neu lai, ers nifer o flynyddoedd ac nad oedd disgwyl iddynt gynyddu fawr yn y dyfodol, roedd Llywodraeth Cymru’n defnyddio cyllid grant yn gynyddol i ysgogi prosiectau mewn meysydd lle'r oedd yn dymuno gweld gwelliannau a/neu newid e.e. moderneiddio ysgolion. Roedd y dyraniad cyfalaf ar gyfer 2023/24, felly, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyllid grant gan Lywodraeth Cymru yr oedd y Cyngor yn gwybod y byddai’n dod, tra byddai’r dyraniad am y ddwy flynedd nesaf yn cynnwys y cyllid craidd yn unig. Fodd bynnag, pan gâi’r Strategaeth ei hadolygu’r flwyddyn nesaf, roedd yn debygol y byddai rhagor o gyllid grant cyfalaf wedi'i ryddhau gan Lywodraeth Cymru, a olygai y gellid adolygu'r ffigurau ar gyfer 2024/25 a 2025/26 ac ymlaen. Y disgwyl, hefyd, oedd y byddai amodau sero net ynghlwm wrth swm cynyddol o gyllid grant Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Yn ogystal, roedd maint rhaglen gyfalaf y Cyngor yn lleihau oherwydd bod y cyllid, bellach, yn prynu llai. O gofio bod y cyllid cyfalaf craidd, ar hyn o bryd, bron yn ddigon i dalu am gynnal a chadw asedau presennol y Cyngor, roedd y Cyngor yn dibynnu ar arian grant i ategu unrhyw wariant cyfalaf ychwanegol.
Penderfynwyd derbyn a nodi Datganiad y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2023/24 ac anfon yr adroddiad ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith heb ragor o sylwadau.
Dim angen gweithredu pellach
Dogfennau ategol: