Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol - Diogelu Corfforaethol - Tachwedd 2021/2022

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – yr Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol – Tachwedd 2021/2022.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Adroddiad Blynyddol hwn yn adroddiad ar ddiogelu trefniadau corfforaethol sy’n disgrifio’r cynnydd a wnaed ac i ba raddau mae diogelu wedi’i ymgorffori ym mhob agwedd ar wasanaethau, swyddogaethau a dyletswyddau’r cyngor. Dywedodd fod yr Awdurdod wedi sefydlu Byrddau Diogelu Corfforaethol Gweithredol a Strategol sydd ag agenda cadarn ar waith sy’n cynnwys data pwysig a rennir gyda’r Byrddau. Dywedodd fod gan bob gwasanaeth Hyrwyddwr Diogelu sy’n cynnig cyngor ar bob mater diogelu ar gyfer staff eraill o fewn ei wasanaeth, a sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r Polisi Diogelu Corfforaethol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Diogelu) fod y strwythurau llywodraethu ar waith i sicrhau bod yr holl ddyletswyddau cyfreithiol yn cael eu cyflawni, a bod agwedd yr Awdurdod tuag at ddiogelu yn foddhaol. Mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol sicrhau bod yr holl weithwyr a gwirfoddolwyr yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran diogelu, ac yn ymwybodol fod hyn yn cynnwys adroddiad ar bryderon yn ymwneud â’r plant ac oedolion maen nhw’n dod ar eu traws. Aeth ymlaen i ddweud fod y Panel Prevent a Channel wedi’i gynnwys o fewn Cyfansoddiad y Cyngor. Roedd rhestr o Swyddogion Statudol a Phriodol a oedd yn dangos pwy sy’n arwain Prevent a Channel hefyd wedi’i chynnwys o fewn yr adroddiad. Dywedodd fod Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol Cymru wedi’u cynnwys yn strwythur y grwpiau, gan ddiffinio dyletswyddau sy’n gysylltiedig â rolau gweithwyr, rheolwyr neu arweinwyr gwahanol. Mae cam allweddol wedi’i adlewyrchu yn y cynllun gweithredu, sef i fapio’r gweithlu gyda’r grwpiau gwahanol a llunio cynllun er mwyn darparu hyfforddiant. Dyma gyfle i fapio gofynion hyfforddi’r gweithlu o ran Atal a Chaethwasiaeth Fodern ar yr un pryd. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at y cymorth a’r ymyriadau effeithiol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ar gyfer ymateb i bryderon diogelu mewn perthynas â’r rheiny sy’n gweithio, un ai am dâl neu’n wirfoddol, sy’n golygu eu bod mewn cysylltiad â phlant neu oedolion sydd mewn risg. Roedd rhestr o honiadau a wnaed yn erbyn gweithwyr/gwirfoddolwyr y cyngor, sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion gydag anghenion gofal a chymorth, wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriwyd at yr ymarfer effeithiol o fewn Cynghorau mewn perthynas â darpariaeth caffael wrth gomisiynu gwasanaethau. Mae’r Awdurdod wedi cyhoeddi Hysbysiad Cyngor ar Ddiogelu, Caffael a Rheoli Contract sy’n helpu gwasanaethau i sicrhau bod gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan bartneriaid yn ddiogel ac yn hyrwyddo diogelu. Mae pob gwasanaeth yn gyfrifol am ei drefniadau Caffael a Rheoli Contract ei hun, yn ogystal â phenderfyniad ynghylch sut i ddefnyddio’r Hysbysiad Cyngor.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad, a chodwyd y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Gofynnwyd cwestiynau ynghylch sut mae’r Cyngor yn sicrhau bod ymarfer diogel ar waith wrth gomisiynu gwasanaethau, a bod yr holl ddarparwyr sy’n gweithredu ar ran y Cyngor yn cyflawni eu cyfrifoldebau diogelu’n effeithiol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y trefniadau gofynnol yn cael eu rhoi ar waith o ran sicrhau bod yr holl ddarparwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau diogelu. Bu i’r Rheolwr Gwasanaeth hefyd ddweud fod yr Hysbysiad Cyngor ar Ddiogelu, Caffael a Rheoli Contract yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu gan bartneriaid yn ddiogel ac yn hyrwyddo diogelu. Wrth osod contractau, cwblheir prosesau monitro ac adolygu i sicrhau bod gweithdrefnau diogelu cadarn ar waith;

·           Gofynnwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau mae tystiolaeth fod gweithdrefnau corfforaethol cadarn ar waith a’u bod yn cael eu gweithredu’n rheolaidd. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyhoeddus bod Cynllun Gweithredu ar waith yn atodiad yr adroddiad. Dywedodd pan fydd problemau’n codi a phan fydd adrannau angen cymorth gyda materion diogelu, gellir eu cyflwyno i’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol Gweithredol er mwyn cryfhau’r trefniadau corfforaethol ac i gefnogi staff sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion;

·           Gofynnwyd a oes adnoddau ar waith ar gyfer cyflwyno’r Cynllun Gwaith. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mai’r gweithlu sy’n delio gyda materion diogelu yw’r unig adnodd. Dywedodd fod arbenigedd yn amrywio o adran i adran, ac mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaethau Addysg fwy o arbenigedd diogelu oherwydd natur eu gwaith.

·           Fodd bynnag, pwysleisiodd fod gan bob unigolyn o fewn y Cyngor gyfrifoldebau diogelu;

·           Gofynnwyd cwestiynau ynghylch y cynnydd a oedd yn cael ei wneud yn erbyn y cynllun gwaith. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Cynllun Gwaith yn cael ei adolygu’n rheolaidd, ac mae’n adrodd yn ôl i’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol ar unrhyw faterion nad ydynt yn symud yn eu blaenau fel y disgwylir;

·           Cyfeiriwyd at y rhestr o honiadau yn erbyn gweithwyr/gwirfoddolwyr y cyngor sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth fel y nodwyd yn yr adroddiad. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch sut mae’r Awdurdod yn mynd i’r afael â’r honiadau hyn ac a ddysgwyd unrhyw wersi o ran y weithdrefn recriwtio. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth na thynnwyd sylw at unrhyw broblemau gyda’r broses recriwtio o ran yr honiadau a wnaed yn erbyn rhai unigolion o fewn yr adroddiad. Dywedodd fod angen hyfforddi a chefnogi unigolion o fewn eu rolau yn fwy cadarn, ac mae’r materion hyn yn cael eu hadroddiad i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol. Dywedodd y Pwyllgor fod hefyd angen cefnogi unigolion pan nad yw honiadau a wneir yn eu herbyn yn cael eu profi. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019 yn tynnu sylw at archwiliadau gwahanol o ran diogelu plant ac oedolion mewn risg. Dywedodd ei fod yn gyfnod heriol i’r unigolion sydd â honiadau yn neu herbyn yn ogystal â’r bobl sydd wedi gwneud yr honiadau; mae’r broses archwilio angen ei dilyn cyn gynted â phosibl. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod gweithdrefnau clir ar waith a gall gweithwyr yr Awdurdod fanteisio ar y broses Gwnsela drwy MEDRA. Dywedodd fod angen adolygu a monitro pob achos penodol ac edrych ar yr achos o’r ddau safbwynt, a sut ellir cefnogi’r unigolion hynny.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ar Cynllun Gwaith ar gyfer trefniadau Diogelu Corfforaethol.

 

GWEITHRED: Fel nodwyd uchod

Dogfennau ategol: