Eitem Rhaglen

Cynllun Lleisiant Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Ynys Môn : 2023/2028

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Cynllun Llesiant Drafft – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn ar gyfer 2023/2028.

 

Dywedodd arweinydd y Cyngor mai dyma’r ail Gynllun Llesiant ar y Cyd, a bod y broses ymgynghori statudol wedi dechrau ar ddechrau’r flwyddyn tan 6 Mawrth, 2023. Yn dilyn hyn, bydd y Bwrdd yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyn creu Cynllun Llesiant terfynol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi dyletswydd ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyhoeddi Cynllun Llesiant sy’n amlinellu sut mae’n bwriadu gwella llesiant trigolion yr ardal. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn awyddus i wneud cyfraniad ystyrlon i’r tirlun partneriaeth heb ddyblygu gwaith partneriaethau eraill, ac felly mae’r Cynllun Llesiant ddrafft yn ceisio pennu a oes gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rôl o ran arwain neu ddarparu’r blaenoriaethau llesiant. Dywedodd fod y Ddeddf yn tynnu sylw at saith targed llesiant cenedlaethol a phum ffordd o weithio er mwyn rhoi pwrpas cyffredinol i gyrff cyhoeddus. Wrth weithio mewn partneriaeth, mae’n bwysig cyflawni’r targedau hyn a gwneud gwahaniaeth i lesiant trigolion Gwynedd ac Ynys Môn.

 

 

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn fod y Pwyllgor Sgriwtini hwn a’r Pwyllgor Sgriwtini perthnasol yng Nghyngor Gwynedd yn ymgynghorai statudol ar gyfer y Cynllun Llesiant Drafft. Dywedodd mai’r cam cyntaf o ran creu Cynllun Llesiant oedd gwneud asesiad ar lesiant a gwneud ymchwil er mwyn deall a dysgu mwy am yr ardaloedd hynny. Bydd y cyfnod ymgynghori tri mis statudol yn dod i ben 6 Mawrth, ac mae’r Bwrdd yn ceisio ymestyn yr ystod o ymgynghorai ar gyfer y Cynllun Drafft, gan wahodd cynrychiolwyr o chweched dosbarth Ysgolion Uwchradd Gwynedd ac Ynys Môn, a myfyrwyr o Goleg Menai i herio nodau ac amcanion y Bwrdd.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad, a chodwyd y pwyntiau pwysig canlynol:-

 

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch ym mha ffordd y gallai cymunedau helpu i ddarparu blaenoriaethau’r cynllun a’u datblygu ymhellach yn y dyfodol. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y cymunedau lleol wedi bod ynghlwm drwy Medrwn Môn, sydd â chynrychiolydd ar Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae cymunedau lleol wedi bod yn rhan o’r broses ymgynghori ac mae Medrwn Môn hefyd wedi bod yn rhan o’r sesiynau hynny o fewn y cymunedau. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch a ymgynghorwyd â Chynghorau Tref a Chymunedol mewn perthynas â’r Cynllun Llesiant. Ymatebodd Rheolwr y Rhaglen gan ddweud fod cynrychiolwyr o’r Bwrdd wedi cymryd rhan mewn Fforymau Cyswllt Cynghorau Tref a Chymuned yng Ngwynedd ac ar Ynys Môn, ac maent hefyd wedi cael eu gwahodd i gyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned;

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch a chredir y bydd yr amcanion a blaenoriaethau llesiant sydd wedi cael eu nodi er mwyn cyflawni targedau yn gwella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd y ddwy sir. Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eisiau dyblygu’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan sefydliadau eraill. Dywedodd ei bod yn bwysig fod cymunedau lleol yn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud o ran cyflawni amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a’i fod wedi ychwanegu gwerth i’w cymunedau. Dywedodd y Prif Weithredwr fod trefniadau Llunio Lleoedd y Cyngor, sef ffordd o weithio gyda chymunedau, yn eu galluogi nhw i gyflawni eu blaenoriaethau penodol yn lleol;

·     Cyfeiriwyd at amcanion llesiant mewn perthynas â chefnogi cymunedau i ddod yn garbon sero net. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch a ellir rhoi sicrwydd na fydd gwaith yn cael ei ddyblygu pan fydd sefydliadau eraill megis y Gwasanaeth Tan ac Achub yn rhannu’r un amcan i fod yn garbon sero net erbyn 2030. Dywedodd Rheolwr y Rhaglen fod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn aelod statudol o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a byddant yn gallu cefnogi a rhannu arfer da gyda sefydliadau eraill o fewn y Bwrdd;

·     Gofynnwyd a oes unrhyw flaenoriaethau ar goll, yn enwedig o ystyried canfyddiadau’r Asesiadau Llesiant ar ddechrau’r flwyddyn. Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad yw’r economi wedi’i ystyried yn benodol o fewn y blaenoriaethau gan fod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi cael ei sefydlu er mwyn canolbwyntio ar economi Gogledd Cymru;

·           Gofynnwyd sut y rhennir gwybodaeth rhwng y sefydliadau partner o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a sut mae gwaith y Bwrdd wedi elwa trigolion Gwynedd ac Ynys Môn dros y pum mlynedd ddiwethaf. Dywedodd Rheolwr y Rhaglen fod trafodaethau wedi’u cynnal yn ystod y gweithdai a gynhaliwyd y llynedd, a bydd y Bwrdd yn mesur ei lwyddiant a chasglu arfer da ledled Cymru. Dywedodd bod y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i hyrwyddo gwaith y Bwrdd a sefydliadau partner er mwyn hyrwyddo blaenoriaethau’r Cynllun Llesiant.

 

PENDERFYNWYD nodi y bydd y Cynllun Llesiant ddrafft yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai, 2023.

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: