Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd Ch 2 - 2022/2023 : Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Adrodd Cynnydd Chwarter 2 - 2023/2023.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr Adroddiad Cynnydd ar gyfer Chwarter 2 yn cael ei gyflwyno er gwybodaeth, ac mae’n darparu trosolwg o gynnydd prosiectau a’r Rhaglen Bargen Twf. Mae adroddiad Chwarter 2 yn dangos y prosiectau sy’n adrodd yn erbyn y proffil darparu portffolio diwygiedig a gymeradwywyd gan y Bwrdd Uchelgais ym mis Medi 2022. Mae tri phrosiect yn adrodd fel Coch yn yr adroddiad un ai oherwydd risg o gwmpas y prosiect, neu oediadau sylweddol yn amserlen y prosiect:-

 

·      Canolfan Ragoriaeth Ynni Carbon Isel (Prifysgol Bangor) – prosiect dan adolygiad oherwydd cais i newid rhagamcaniadau cyfalaf a refeniw. Mae’r Swyddog Rheoli Portffolio yn gweithio gyda noddwr y prosiect i edrych ar opsiynau er mwyn cyflymu darpariaeth.

·      Hwb Economi Wledig Glynllifon – angen sicrhau caniatâd cynllunio a bwlch ariannu posibl oherwydd costau adeiladu cyfalaf cynyddol;

·      Fferm Sero Net Llysfasi – prosiect bellach wedi cael ei ohirio, mae cyllid ar gael i’w adleoli a bydd y broses ar gyfer mynegi diddordeb ar gyfer prosiectau newydd yn cael ei pharatoi.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod rhai o’r Bargeinion Twf wedi cael eu gohirio oherwydd gwaith cynllunio manwl sydd ar waith yn ogystal â fforddiadwyedd oherwydd sefyllfa’r economi.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad, a chodwyd y pwyntiau pwysig canlynol:-

 

·      Gofynnwyd ai’r cynnydd mewn costau sy’n golygu na fydd y Bargeinion Twf a restrwyd yn mynd y neu blaen. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Achos Busnes pob prosiect yn faith a chymhleth, ac mae perygl na fyddai’r prosiectau wedi bod yn gyraeddadwy. Dywedodd fod sefyllfa’r economi wedi newid dros y ddwy flynedd diwethaf ac mae nifer o ranbarthau wedi cyflwyno cais i’r Llywodraeth daro ail olwg ar y Bargenion Twf gan fod rhai prosiectau’n wynebu heriau ariannol. Cyfeiriodd at brosiect Morlais, sydd wedi cael ei adolygu o ran gwneud y defnydd gorau o gyllid Ewropeaidd. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cynnydd mewn chwyddiant wedi bod yn ffactor i brosiectau a hynny o ran cynyddu costau;

·      Cyfeiriwyd at brosiect Egnïo Trawsfynydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Gofynnwyd a fydd y prosiect hwn yn rhan o Fargen Twf Gogledd Cymru. Dywedodd y Prif Weithredwr fod prosiect Trawsfynydd yn rhan o’r Fargen Twf ac mae cyllid cyfalaf wedi’i gynnwys a’i neilltuo ar gyfer y prosiect. Fodd bynnag, mae’r cyllid tuag at brosiect Trawsfynydd wedi’i neilltuo ar gyfer adeg yn y dyfodol, ond mae’r datblygwr yn barod i ddatblygu’r safle nawr;

·      Gwnaed sylwadau ynghylch y gofynion ar gyfer cyflwyno’r Adroddiadau Cynnydd i’r Pwyllgor Sgriwtini ar sail chwarterol. Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod Trefniadau Llywodraethu’n gofyn i gyflwyno Adroddiadau Chwarterol ar gyfer sgriwtini, ac i newid y gofyniad hwn, byddai angen trafodaeth ranbarthol gyda Llywodraeth y DU a Chymru. Dywedodd y Prif Weithredwr bod angen sicrwydd gan y ddwy lywodraeth bod proses sgriwtini ar waith i herio’r Fargen Twf, yn enwedig oherwydd trefniadau llywodraethu newydd y Cyngor Cyfiawnder Sifil.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod Chwarter 2 – 2022/2023;

·      Fod y broses ar gyfer cyflwyno’r adroddiad chwarterol yn cael ei thrafod yng nghyfarfodydd Pwyllgor Sgriwtini y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion.

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: