12.1 – HHP/2022/313 - Ponc Rodyn, Llangristiolus
12.2 – FPL/2022/173 - Lon Penmynydd, Llangefni
12.3 – LBC/2022/34 - Amddiffyniad Pillbox, Bae Trearddur
12.4 – FPL/2022/71 – Tre Angharad, Bodedern
12.5 – FPL/2022/301 - Clwb Pêl-droed Holyhead Hotspur, Caergybi
12.6 – 46C427L/COMP - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
12.7 – COMP/2021/1 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
12.8 – S106/2020/3 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
Cofnodion:
12.1 HHP/2022/313 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd a codi balconi yn Ponc Rodyn, Llangristiolus
Ar ôl datgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yn y cais, bu i’r Cynghorydd Geraint Bebb adael y cyfarfod ar unwaith ar ôl gwneud ei gyfraniad, cyn y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol, oherwydd pryderon yn ei gylch.
Bu i’r Rheolwr Rheoli Datblygu adrodd ar brif ystyriaethau’r cais, a dywedodd fod yr estyniad ochr arfaethedig yn ymestyn 2.2. medr tuag allan oddi wrth yr annedd bresennol. Mae’r estyniad yn mesur 6.7 medr o led er mwyn ehangu’r gegin/ystafell fyw. Bydd balconi’n cael ei godi uwchben yr estyniad llawr isaf fydd yn arwain allan o’r brif ystafell wely. Mae pellter o oddeutu 12m rhwng ochr yr eiddo cyfagos, Nyth Clyd. Bydd gan y balconi falwstrad aneglur 1.8m er mwyn atal unrhyw or-edrych. Mae’r cais o ansawdd arbennig, a bydd yn gwella’r annedd bresennol ac yn cyd-fynd â hi, ac ystyrir ei fod yn bodloni’r polisi cynllunio perthnasol, PCYFF 2, yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Aelod Lleol, fod llythyr o wrthwynebiad i’r cais wedi’i dderbyn, a dywedodd fod perchennog yr eiddo cyfagos yn berthynas i’w fam yng nghyfraith. Aeth ymlaen i ddweud fod awdur y llythyr hefyd yn ffrindiau â’i wraig. Nododd fod y llythyr yn mynegi y bydd codi’r balconi arfaethedig yn cael effaith negyddol ar breswylwyr Nyth Clyd oherwydd gor-edrych i’r ardd. Gadawodd y Cynghorydd Bebb y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y pellteroedd gofynnol rhwng ffin yr eiddo cyfagos a’r balconi yn bodloni’r pellteroedd gofynnol o fewn polisïau cynllunio. Bydd balwstrad 1.8m gyda gwydr aneglur yn cael ei godi ar hyd ochr y balconi.
Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei gymeradwyo. Eiliodd y Cynghorydd Jackie Lewis y cynnig i gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.2 FPL/2022/173 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i leoli 32 caban gwyliau, gosod adeilad derbynfa, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu ffyrdd newydd ar y safle a mannau parcio ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Lôn Penmynydd, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr aelodau lleol oherwydd pryderon lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Aelod Lleol, pe ellid cynnal ymweliad safle corfforol ar y safle, gan fod gwrthwynebiadau lleol i’r cais, ac mae Cyngor Tref Llangefni hefyd yn gwrthwynebu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Ken Taylor y cynnig i gynnal ymweliad safle corfforol ar y safle.
PENDERFYNWYD y dylid cynnal ymweliad safle corfforol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
12.3 LBC/2022/34 – Caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer newidiadau a gwaith atgyweirio yn Amddiffyniad Pillbox, Bae Trearddur
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno, ynghyd â chais caniatâd adeilad rhestredig, gan yr awdurdod lleol fel rhan o Brosiect Tirwedd Treftadaeth ehangach.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod Pillbox yr Ail Ryfel Byd yn adeilad rhestred Gradd II sydd wedi’i leoli ar bentir creigiog y tu ôl i Westy Bae Trearddur.
Cynigodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei gymeradwyo. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cais i gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.4 FPL/2022/71 – Cais llawn ar gyfer codi 29 annedd, yn ogystal a creu mynediad newydd i gerbydau, lôn fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig ar dir yn Tre Angharad, Bodedern
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol oherwydd pryderon ynghylch capasiti Ysgol Gynradd Bodedern.
Siaradwr Cyhoeddus
Bu i Mr Rhys Davies, Cadnant Planning, siarad o blaid y cais, a dywedodd fod hwn yn gais llawn ar gyfer codi 29 annedd ar safle sydd wedi’i ddynodi ar gyfer tai o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae caniatâd cynllunio amlinellol eisoes wedi’i dderbyn ar gyfer codi 30 tŷ ar y safle, ond mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn wedi dadansoddi’r anghenion a chymysgedd tai ar gyfer y safle, ac mae wedi gostwng y nifer i 29 yn y cais llawn. Bydd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn datblygu’r safle er mwyn darparu tai fforddiadwy. Bydd rhai i’w rhentu ac eraill i’w gwerthu. Bydd canran o’r tai’n cael eu trosglwyddo i Adran Dai'r Cyngor. Dywedodd fod trafodaethau helaeth wedi’u cynnal gyda’r ymgeisydd a’r Swyddogion Cynllunio er mwyn sicrhau bod y datblygiad o safon dda. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad gan y cyhoedd, ac yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio, roedd cefnogaeth sylweddol gan deuluoedd a oedd yn byw ym Modedern, a oedd yn awyddus i weld tai fforddiadwy’n cael eu datblygu yn y pentref. Dywedodd fod y cais wedi’i alw i mewn oherwydd pryderon ynghylch capasiti Ysgol Gynradd Bodedern, ond fel y nodwyd yn yr adroddiad, nid oes gan yr Adran Addysg unrhyw bryderon, ac nid yw wedi gofyn am gyfraniad ariannol tuag at yr ysgol gynradd. Dylid nodi fod caniatâd cynllunio amlinellol eisoes wedi’i dderbyn ar gyfer mwy o unedau ar y safle na’r nifer a gynigiwyd fel rhan o’r cais hwn. Cytunwyd ar gyfraniad ar gyfer yr ysgol uwchradd ym Modedern, ac felly, drwy asesiadau, mae wedi’i broses gan yr Adran Addysg. Gwneir cyfraniad hefyd i wella meysydd chwarae Bodedern, yn ogystal â gwella troed lwybrau a chroesfannau rhwng y safle a’r ysgol. Fodd bynnag, mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn fodlon trafod cyfraniad ariannol ar gyfer Ysgol Gynradd Bodedern y tu allan i’r broses gynllunio. Aeth Mr Davies yn ei flaen i ddweud ei bod hi’n bwysig nad yw’r cais hwn yn cael ei ohirio, gan fod grant sylweddol ar gael ar gyfer y datblygiad hwn ar yr amod y bydd gwaith yn dechrau ar y safle cyn diwedd y mis.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod safle’r cais yn cynnwys 0.97 hectar o dir amaethyddol sydd wedi’i leoli ger Ffordd Llundain, sy’n arwain at ganol pentref Bodedern. Mae caniatâd cynllunio amlinellol yn bodoli ar gyfer y safle, ar gyfer 30 annedd ac mae wedi’i gymeradwyo dan gais cynllunio OP/2019/17 a gymeradwywyd ym mis Tachwedd 2020. Dywedodd mai cais llawn newydd yw hwn, gan ei fod wedi cael ei gyflwyno gan ddatblygwr arall, sef Asiantaeth Tai Clwyd Alyn. Fodd bynnag, mae safle at raid dilys ar y safle, ac nid oes llawer o wahaniaeth rhwng y cais amlinellol o ran graddfa. Mae safle’r cais wedi’i leoli ar safle (T33) o fewn ffin datblygu Bodedern dan bolisi PCYFF 1, ac felly mae’r egwyddorion ar gyfer datblygiad preswyl yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â pholisi cynllunio TAI 1; ar hyn o bryd, mae capasiti yn yr anheddiad, sy’n golygu nad oes angen Datganiad yr Iaith Gymraeg i gyd-fynd â’r cais. Mae’r Adran Tai wedi darparu rhestr o anghenion tai ar gyfer yr ardal, ac yn cefnogi’r cymysgedd arfaethedig o dai ar gyfer y safle hwn. Aeth y Rheolwr Rheoli Datblygu ymlaen i ddweud fod Adran Addysg yr Awdurdod wedi cadarnhau y bydd yn rhaid gwneud cyfraniad ariannol tuag at Ysgol Uwchradd Bodedern, ac ar sail y rhwymedigaeth gynllunio, argymhellwyd bod cyfraniad gwerth £18,469 yn cael ei wneud fel rhan o’r datblygiad. Nododd fod pryderon wedi codi gan Aelod Lleol yn nodi fod Ysgol Gynradd Bodedern wedi mynd y tu hwnt i’w chapasiti. Mae’r Adran Addysg wedi cadarnhau fod y weithdrefn a ddilynwyd wrth asesu’r cais cynllunio wedi’i gynnwys yn y ‘Canllawiau Cynllunio Atodol – Ymrwymiadau Cynllunio’ a fabwysiadwyd ym mis Medi 2019. Mae effaith bosibl cais cynllunio wedi’i asesu pan gafodd y cais ei gyflwyno, ac yn yr achos hwn, digwyddodd hynny ym mis Mawrth 2022, sy’n golygu ei fod o fewn y flwyddyn academaidd 2021/2022. 90 o ddisgyblion oedd yn mynychu Ysgol Gynradd Bodedern ym mis Medi 2021. Yn sgil y datblygiad, byddai 12 disgybl oed cynradd ychwanegol yn mynychu’r ysgol, felly byddai capasiti’r ysgol yn mynd i 102, sydd 1 yn llai na chapasiti’r ysgol. Oherwydd hyn, nid oes unrhyw ofyniad i gyfrannu’n ariannol tuag at Ysgol Gynradd Bodedern. Fod bynnag, mae’r Aelod Lleol wedi trafod y mater gyda Phennaeth yr ysgol, ac mae’r Pennaeth wedi cadarnhau fod 96 o ddisgyblion yn yr ysgol fis Ionawr eleni (heb gynnwys dosbarth meithrin) ac wrth gynnwys 12 disgybl ychwanegol, byddai’n cynyddu i 108 disgybl, sydd 5 disgybl yn fwy na chapasiti’r ysgol. Byddai hyn yn arwain at yr angen am gyfraniad ariannol gan y datblygiad tuag at yr ysgol gynradd. Yn dilyn derbyn y wybodaeth hon, mae’r Swyddog Cynllunio wedi ymgynghori gyda’r Adran Addysg, a chadarnhawyd bod angen cysondeb ar draws yr Ynys, yn unol â’r canllawiau cynllunio atodol. Mae’r Adran Addysg wedi cadarnhau nad ydynt yn gallu adolygu nifer y disgyblion oni bai fod yr Awdurdod Cynllunio yn ail-ymgynghori ar y cais; nid oes gan yr Awdurdod Cynllunio reswm i ail-ymgynghori ar y cais. Yr argymhelliad oedd bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn dibynnu ar yr amodau o fewn yr adroddiad, ac os byddai cytundeb Adran 106 yn cael ei gwblhau, fel y nodwyd yn adroddiad y Swyddog.
Dywedodd y Cynghorydd Ken Taylor, Aelod Lleol, nad oes ganddo wrthwynebiad i’r datblygiad ar y safle, ond ei fod yn pryderu am gapasiti Ysgol Gynradd Bodedern i groesawu’r disgyblion ychwanegol posibl fyddai’n deillio o’r datblygiad, ac yntau’n Aelod Lleol ac yn Llywodraethwr Ysgol. Dywedodd fod 93 o ddisgyblion yn yr ysgol ym mis Medi 2022 ac nid 90 disgybl, fel yr adroddwyd. Yn ddiweddar, mae’r ffigyrau o fewn yr ysgol wedi cynyddu i 96, ac mae’r Pennaeth wedi gorfod gwrthod derbyn 3 o blant i’r ysgol. Dywedodd y Cynghorydd Taylor fod angen ailasesu’r fethodoleg a ddefnyddir i asesu’r gofyniad ar gyfer gwneud cyfraniad ariannol fydd yn deillio o’r cais cynllunio. Dywedodd ei fod yn derbyn fod y datblygwr, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, yn barod i drafod cyfraniad ariannol ar gyfer yr ysgol gynradd ym Modedern y tu allan i’r broses cynllunio, a hoffai sicrwydd y byddai’r datblygwr yn trafod y mater hwn gyda’r Pennaeth yn fuan. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai’r cyfraniad ariannol tuag at yr ysgol gynradd yn wirfoddol, ac na fyddai’n amod sy’n gysylltiedig â chymeradwyo’r cais.
Bu i’r Cynghorydd T Ll Hughes MBE ymholi ynghylch lleoliad y fynedfa, ac a yw’r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon â’r fynedfa arfaethedig newydd. Atebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu drwy ddweud fod yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon â’r fynedfa i’r safle, y troed lwybr a‘r groesfan i gerddwyr fydd ger mynedfa’r safle.
Gofynnodd y Cynghorydd John I Jones a fyddai’r maes chwarae ar gyfer yr ysgol uwchradd ar gael i’r plant fydd yn byw yn y datblygiad arfaethedig. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cyfraniad o £5,557.94 yn cael ei gynnig i’r Cyngor Cymuned er mwyn gwella’r cyfarpar yn y meysydd chwarae ym Modedern, fel rhan o gytundeb cyfreithiol Adran 106.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams i gymeradwyo’r cais. Bu i’r Cynghorydd Jackie Lewis eilio’r cynnig i gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw ynghyd â chytundeb cyfreithiol Adran 106 bod 6 o’r anheddau yn rhai fforddiadwy, bod cyfraniad ariannol o £18,469 yn cael ei wneud tuag at Ysgol Uwchradd Bodedern a £5,557.94 tuag at gyfarpar ardaloedd chwarae ym Modedern.
12.5 FPL/2022/301 – Cais llawn i osod storfa ddŵr tu ôl i'r prif eisteddle yn Clwb Pêldroed Holyhead Hotspur, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i fwriadu ar gyfer tir sy’n eiddo i’r Cyngor Sir.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais ar gyfer gosod storfa ddŵr y tu ôl i’r brif eisteddfa er mwyn casglu dŵr oddi ar y to. Mae’r datblygiad o raddfa fach, ac yn mesur 3m o uchder a 2.6m o led, a bydd yn storio cyfanswm o 15,000 litr o ddŵr ar ei gapasiti llawn. Yr argymhelliad yw i gymeradwyo’r cais oherwydd ystyrir na fydd yn cael unrhyw effaith ar eiddo cyfagos ac am ei fod yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.
Bu i’r Cynghorydd T Ll Hughes MBE ymholi ynghylch perchennog y ffordd sy’n mynd heibio safle’r cais, ac a fyddai unrhyw oblygiadau mewn perthynas â cheisiadau Land and Lakes o fewn yr agenda. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai Land and Lakes yw perchennog y tir, ac mae’n cael ei brydlesu i’r Awdurdod Lleol. Mae’r tir yna’n cael ei brydlesu gan yr Awdurdod Lleol i Glwb Pêl-droed Hotspurs Caergybi. Dywedodd fod Land and Lakes yn awyddus i’r Awdurdod Lleol ildio’r brydles, er mwyn eu galluogi nhw i brydlesu’r tir yn uniongyrchol i Glwb Pêl-droed Hotspurs Caergybi. Ar hyn o bryd, mae’r tir yn cael ei brydlesu gan yr Awdurdod Lleol i’r Clwb Pêl-droed, ac felly nid ydynt yn gallu gwneud cais am grantiau ar gyfer cymorth ariannol. Aeth ymlaen i egluro fod yr Awdurdod Lleol yn barod i ildio’r brydles ar yr amod bod Clwb Pêl-droed Hotspurs Caergybi yn llofnodi’r brydles ar yr un diwrnod, ac yn diogelu’r brydles ar gyfer y tir am y 10 mlynedd nesaf.
Cynigodd y Cynghrydd Jeff Evans i gymeradwyo’r cais. Bu i’r Cynghorydd Geraint Bebb eilio’r cynnig.
PEDNERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.6 46C427L/COMP – Cyflwyno Cynllun Grwp Cyswllt Cymunedol er mwyn cydymffurfio gyda Thelerau Cytundeb a nodir yn Atodlen 8, Adran 7 a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus Penrhos fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 13.1 y Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth gyfeirnod cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r argymhelliad yw gohirio’r cais hwn i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl derbyn cynrychiolaeth gyfreithiol ynghylch y cais hwn ddydd Llun, 30 Ionawr, 2023, er mwyn galluogi’r Awdurdod Cynllunio i ystyried cynnwys yr ohebiaeth a dderbyniwyd ac i ymateb yn briodol.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y bydd angen ystyried cynnwys y gohebiaeth a dderbyniwyd oherwydd natur y datblygiad, a’r diddordeb cyhoeddus ar ei gyfer, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor mewn modd agored a thryloyw ar ôl hynny.
PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais am y rhesymau a roddwyd.
12.7 COMP/2021/1 – Cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol i ryddhau adrannau; Atodlen 8, Adran 1, Cymal 1.1; Strategaeth Parcio Ceir a Mynediad Cyhoeddus – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Cymal 12.1; Cynllun Coetir Hynafol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 15, Cymal 15.1;Cynllun Cysylltiadau Gwyrdd – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 17, Cymal 17.1; Cynllun Rheoli SoDdGA – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.1; Arolwg Ecolegol a Chynllun Monitro – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.4; Archwiliad Cydymffurfiaeth Ecolegol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 20, Cymal 20.1 – Cynllun Rheoli Coed Presennol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.1 – Penodi Gwasanaeth Warden / Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Warden – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.2 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Goblygiadau diogelwch / Asesiad monitro effaith Cysylltiadau Gwyrdd a’r defnydd ohonynt – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.3 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Ymrwymiad Adroddiad Blynyddol o Effaith – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 9, Adran 3, Cymal 3.1; Cynllun Fesul Cyfnod Pentref Hamdden Penrhos – 5 Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 11, Adran 1, Cymal 1.1; Cynllun Llafur Lleol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos o oblygiadau’r cytundeb Adran 106 ynghlwm i ganiatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r argymhelliad yw gohirio’r cais hwn i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl derbyn cynrychiolaeth gyfreithiol ynghylch y cais hwn ddydd Llun, 30 Ionawr, 2023, er mwyn galluogi’r Awdurdod Cynllunio i ystyried cynnwys yr ohebiaeth a dderbyniwyd ac i ymateb yn briodol.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y bydd angen ystyried cynnwys y gohebiaeth a dderbyniwyd oherwydd natur y datblygiad, a’r diddordeb cyhoeddus ar ei gyfer, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor mewn modd agored a thryloyw ar ôl hynny.
PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais am y rhesymau a roddwyd.
12.8 S106/2020/3 – Cyflwyno ‘Cynllun Iaith Gymraeg Parc Arfordirol Penrhos’ o dan Adran 1 (Cynllun Iaith Gymraeg) o atodlen 12 o’r Cytundeb 106 a gwblhawyd mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON a chyflwyniad Gweithred Amrywio i amrywio darpariaethau canlynol y cytundeb cyfreithiol hwn: paragraffau 2.1.1. Atodlen 8 (Manyleb Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur Cae Glas), Atodiad 2 Bond Bwrdd Canolfan Ymwelwyr Penrhos (yn cynnwys Toiledau Canolfan Ymwelwyr Penrhos) a’u cynnal a chadw, paragraffau 1.1 a 1.2 Atodlen 12 (Cynllun Iaith Gymraeg) a disodliad Cynllun 2 Lluniad Tir Penrhos – Cynllun 2 cyferinod llunio PL1114.VW008 /Rev 03 dyddiedig 03/03/2016 Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r argymhelliad yw gohirio’r cais hwn i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl derbyn cynrychiolaeth gyfreithiol ynghylch y cais hwn ddydd Llun, 30 Ionawr, 2023, er mwyn galluogi’r Awdurdod Cynllunio i ystyried cynnwys yr ohebiaeth a dderbyniwyd ac i ymateb yn briodol.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y bydd angen ystyried cynnwys y gohebiaeth a dderbyniwyd oherwydd natur y datblygiad, a’r diddordeb cyhoeddus ar ei gyfer, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor mewn modd agored a thryloyw ar ôl hynny.
PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais am y rhesymau a roddwyd.
Dogfennau ategol: