Eitem Rhaglen

Datganiad Cyfrifon 2012/13 - Dyfarniadau ac Amcangyfrifon Mawr

Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn nodi’r dyfarniadau a’r amcangyfrifon allweddol yn y Datganiad Cyfrifon 2012/13 er ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cyfrifo bod Datganiad Cyfrifon Drafft 2012/13 y Cyngor wedi ei arwyddo gan y Swyddog Adran 151 ar 28 Mehefin 2013 a hynny cyn diwedd yr amser cau statudol ym Mehefin a’i fod wedi ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor ddechrau mis Gorffennaf.  Roedd y gwaith o archwilio’r datganiadau cyfrifo yn ffurfiol bellach wedi cychwyn.  Aeth y Swyddog yn ei flaen i ddweud bod y cyfrifon sydd yn cynnwys y cyfnod o 1 Ebrill 2012 i 31 Mawrth 2013 yn ddatganiadau mawr a chymhleth a’u bod yn cael eu paratoi ar gyfnod mewn amser ac fel y cyfryw, rhaid gwneud dyfarniadau wrth gymhwyso polisïau cyfrifo a thybiaethau am y dyfodol a phethau eraill sy’n ansicr yn y dyfodol.

 

Eglurodd y Swyddog mai pwrpas yr adroddiad yw rhoi mwy o eglurder ar y dyfarniadau hynny ac y dylid darllen yr adroddiad ochr yn ochr â’r Datganiad Cyfrifon llawn.  Roedd yr adroddiad yn rhoi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau ar feysydd oedd wedi eu hamlygu i gael ystyriaeth a hynny mewn paratoad at gyflwyno’r cyfrifon yn ffurfiol ac Adroddiad ar Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol yr Archwilydd Apwyntiedig i gyfarfod mis Medi.  Cyfeiriodd y Rheolwr Cyfrifo at y canlynol fel rhai o’r meysydd a’r agweddau allweddol ar gyfer sylw’r Pwyllgor -

 

·         Y rhagair esboniadol sy’n cysylltu’r canlyniadau yn ôl i’r gyllideb am y flwyddyn a’r gwaith  monitro yn ystod y flwyddyn

·         Y datganiad am y symudiadau yn yr arian wrth gefn sy’n crynhoi’r arian wrth gefn sydd ar gael i’r Cyngor, wedi ei ddosbarthu i gategorïau y gellir eu defnyddio ac na ellir eu defnyddio arr symudiadau yn ystod y flwyddyn

·         Darpariaethau sy’n cynnwys symiau o arian a neilltuwyd ar gyfer digwyddiadau hysbys a thebygol.

·         Penderfyniadau beirniadol ac ansicrwydd amcangyfrif.  Mae’r rhain wedi’u crynhoi a’u hesbonio yn Nodiadau 3 a 4 o’r Datganiad Cyfrifon ac yn cael eu hatgynhyrchu fel Atodiadau C a CH yn yr adroddiad.

·          

·         Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad ac yn y drafodaeth lawn a gafwyd i ddilyn ar y wybodaeth a gyflwynwyd, ceisiwyd cael eglurhad pellach ar y materion canlynol

·          

·         Y goblygiadau i’r Cyngor o gyflawni ei rwymedigaethau o dan Gynllun Trefniant Yswiriant  Municipal Mutual gyda’i gredydwyr, maint ei rwymedigaethau yn y cyswllt hwn a’r amserlen.

·         A fyddai’r arian wrth gefn a grëwyd gan arbedion costau tirlenwi o ganlyniad i fynd a gwastraff i’w ailgylchu ar gael i’w ddefnyddio ac eithrio mewn cysylltiad â mentrau ailgylchu.

·         Y sefyllfa o ran Gwasanaethau Cronfa’r Cyngor a’r rhesymau, yr effeithiau a’r goblygiadau o orwario neu danwario ar wasanaethau penodol.

·         A oedd yr arbedion diwedd blwyddyn a gyflawnwyd yn y cyllidebau Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhai damweiniol neu yn rhai a sicrhawyd o ganlyniad i strategaeth hirdymor a gynlluniwyd.

·         Y sefyllfa gyda’r gronfa bensiwn a’r cynnydd o £18.4m yn yr ymrwymiad pensiwn net yn ystod 2012/13 o £63.7m £83.1m a goblygiadau hynny.  Roedd yr aelodau’n credu y byddai o gymorth iddynt ddeall y symudiadau sylweddol o flwyddyn i flwyddyn yn ffigwr rhwymedigaethau’r pensiynau a’r rheswm amdanynt pe baent yn cael cyflwyniad gan gynrychiolydd o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd.

·         Y sefyllfa mewn perthynas â balansau ysgolion ac yn benodol yr ysgolion oedd mewn sefyllfa o ddiffyg a’r camau oedd wedi eu cynllunio i fynd i’r afael â’r sefyllfa.  Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig cael system o rybuddion i amlygu problemau posibl yn fuan yn ogystal â dysgu o brofiadau blaenorol a rhoddi mesurau ataliol yn eu lle er mwyn sicrhau na fydd ysgolion yn mynd i sefyllfa o falansau negyddol yn y lle cyntaf ac na fyddai eu sefyllfa yn gwaethygu wedi hynny

·         Llithrant sylweddol yr adroddwyd amdano mewn gwariant ar y Cynllun 3 Tref a’r rheswm am y llithriad hwnnw.  Cafwyd cais i’r Pwyllgor dderbyn dadansoddiad o’r cyllid grant ar gyfer y cynllun adfywio hwn.

·         Y rhesymeg dros fod â balans o £2m yn y Gronfa Yswiriant pan fo hawliadau yn erbyn y gronfa yn isel a phan y gellid ei ddefnyddio’n well yn rhywle arall.  Gan y gallai cyfarfod â chostau tebygol fod yn fwy na £2m gyda hynny yn mynd i mewn i’r arian wrth gefn cyffredinol, byddai lawn cystal cadw’r arian yn yr arian wrth gefn cyffredinol yn y lle cyntaf. 

·         Cafwyd cais am fwy o wybodaeth yng nghyfarfod mis Medi o’r Pwyllgor Archwilio ynglŷn â’r cynlluniau i reoli’r cyllidebau mwy a’r gwasanaethau lle mae arbedion yn debygol neu y rhagwelir y byddant yn cael eu cyflawni fel y gall yr Aelodau gysylltu’r gyllideb, unrhyw orwario ac ymateb y gwasanaeth.   Nodwyd bod gan y Pwyllgor Archwilio gyfrifoldeb i sgriwtineiddio canlyniadau ond hefyd i ystyried effaith y newidiadau mewn gwariant, ac roedd angen iddo gael gwybodaeth gyd-destunol mewn perthynas â rheoli risg - yn arbennig o safbwynt meysydd sensitif - a’r canlyniadau posibl allai godi o newidiadau mewn gwariant.

·          

·         Ymatebodd y swyddogion i’r pwyntiau penodol a ofynnwyd gan roi gwybodaeth bellach i’r Aelodau.  Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) y bydd pob elfen o wariant refeniw yn cael ei sgriwtineiddio dros y misoedd i ddod ac fel rhan o’r broses o osod y gyllideb, byddir yn ystyried opsiynau gyda’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor a bydd cynlluniau arbedion / rheoli cyllideb yn cael eu rhannu gydag aelodau mewn gweithdy sydd wedi ei gynllunio.  Fel rhan o’r broses o nodi arbedion byddir yn gofyn i wasanaethau egluro’r effaith ar ddarparu gwasanaeth.  Dywedodd y Rheolwr Cyfrifo mewn perthynas â’r canlyniadau refeniw dros dro ar gyfer 2012/13, bod yn rhaid ystyried newid yn y sefyllfa rhwng y trydydd a’r pedwerydd chwarter a’r arbedion a gafwyd yn nhermau’r hyn y maent yn ei olygu mewn perthynas â sefyllfa ariannol sylfaenol y Cyngor o ran cryfhau’r sefyllfa a darparu ar gyfer yr Cyngor fwy o opsiynau na’r hyn oedd wedi ei ragamcanu ar y cychwyn a’r cyfle i ystyried dewisiadau eraill.

·          

·         Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi’r eitemau allweddol oedd wedi eu hamlygu ynghyd â’r pwyntiau trafod oedd yn codi.

·          

·         CAMAU GWEITHREDU YN CODI:

·          

·         Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i wahodd cynrychiolydd o Gronfa Pensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd ynghyd â’r Cynghorydd H.Eifion Jones fel cynrychiolydd yr Awdurdod hwn ar y Pwyllgor Cronfa i annerch y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Archwilio ar berfformiad y Gronfa Bensiwn ac unrhyw faterion sy’n codi o hynny.

·         Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i ddarparu i Aelodau’r Pwyllgor ddadansoddiad o’r cyllid grant ar gyfer y Cynllun Adfywio 3 Tref.

 

 

Dogfennau ategol: