Unrhyw faterion eraill – gyda chytundeb y Cadeirydd.
Cofnodion:
Mynegwyd pryderon ynghylch presenoldeb gwael yng nghyfarfodydd CYSAG Ynys Môn. Nodwyd nad yw un aelod etholedig wedi mynychu’r un o gyfarfodydd y CYSAG a bod angen annog yr aelod dan sylw i fynychu.
Dywedodd Mr Rheinallt Thomas ei fod wedi rhannu dwy ddogfen gan Gyngor Eglwysi Rhyddion Cymru gydag aelodau’r CYSAG, sef ‘Canllawiau Ymweld ag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd’ a ‘Cysylltu Eglwysi ac Ysgolion’. Nododd fod y CYSAG wedi derbyn y dogfennau a’u bod yn berthnasol i Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm Newydd ac arsylwi Addoli ar y Cyd mewn ysgolion. Dywedodd fod croeso i aelodau’r CYSAG rannu’r dogfennau os ydynt yn dymuno.
Awgrymodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg y dylai’r CYSAG ailgydio yn yr ymweliadau ag ysgolion i arsylwi Addoli ar y Cyd a phrofi’r gwaith da sy’n cael ei wneud yn ysgolion Môn gan fod hynny’n bwysig yng nghyd-destun y Cwricwlwm newydd. Awgrymwyd y dylid trafod amserlen i ailgydio yn yr ymweliadau i arsylwi Addoli ar y Cyd yng nghyfarfod nesaf y Panel Gweithredol ar 23 Mawrth 2023. Dywedodd Mr Owain Roberts fod gwaith yn mynd rhagddo mewn ysgolion i gyflwyno’r Cwricwlwm Newydd ond dywedodd y byddai’n fodlon trefnu i aelodau’r CYSAG ymweld ag Ysgol Cybi maes o law.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fod Estyn wedi cynnal arolygiadau yn yr ysgolion a ganlyn yn ddiweddar a byddant yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf y CYSAG - Ysgol Cybi, Caergybi; Ysgol Gynradd Biwmares; Ysgol Santes Fair, Caergybi; Ysgol Uwchradd Bodedern; Ysgol Caergeiliog; Ysgol Esceifiog Gaerwen. Nodwyd y bydd Ysgol Goronwy Owen, Benllech ac Ysgol Moelfre’n cael eu harolygu'r wythnos hon. Dywedodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fod pedwar o leoliadau nas cynhelir wedi cael eu harolygu yn ystod y tymor hwn hefyd - Cylch Henblas, Cylch Rhoscolyn, Cylch Kingsland a Chaban Enfys. Nodwydd fod yr arolygiadau’n llwyddiannus, a bod dwy astudiaeth achos wedi deillio o’r arolygiadau hyn. Yn ogystal, gan y bydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cael ei addysgu i blant rhwng 3 ac 16 oed yn awr, efallai y gallai’r CYSAG ystyried ymweld â’r lleoliadau hynny yn y dyfodol.
Dywedodd y Cadeirydd y bydd Mrs Gwyneth Hughes, yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, yn ymddeol yn fuan. Ar ran y CYSAG, diolchodd y Cadeirydd i Mrs Hughes am ei harweiniad, ei gwaith caled a’i hymrwymiad i’r CYSAG ers 2018, a dymunodd ymddeoliad hapus iddi.
Ategodd Mr Rheinallt Thomas eiriau’r Cadeirydd a dywedodd nad yw’n hawdd i bobl nad ydynt yn arbenigwyr ym maes Addysg Grefyddol i ymdopi â’r holl elfennau sydd ynghlwm â’r gwaith. Dywedodd ei bod wedi gwneud argraff dda iawn ar y CYSAG yn y modd y mae wedi cyflawni’r rôl.
Dywedodd Mrs Hughes ei bod wedi bod yn fraint iddi weithio i’r Cyngor fel Swyddog Addysg ers 2018 a bydd yn gweld eisiau ei hymwneud â’r CYSAG.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.
• Bod yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn codi’r mater ynghylch amserlen ar gyfer ailgydio yn yr ymweliadau ysgol i arsylwi Addoli ar y Cyd yng nghyfarfod nesaf y Panel Gweithredol.