Eitem Rhaglen

Rheoli Risg ac Yswiriant

Derbyn diweddariad ynglyn â Rheoli Risg ac Yswiriant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ar y cynnydd a wnaed gyda gweithredu’r Fframwaith Rheoli Risg ynghyd â fersiwn ddiwygiedig o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol a diweddariad ar Hawliadau Yswiriant.

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) wrth yr Aelodau bod yr adroddiad yn amlinellu’r sefyllfa mewn perthynas â gwreiddio trefniadau rheoli risg ar draws yr Awdurdod.  Mae’r trefniadau hynny’n parhau i ymsefydlu a chydnabyddir bod yna rai risgiau y mae angen i swyddogion eu hegluro ymhellach.

 

Dywedodd y Rheolydd Risg ac Yswiriant bod y Grŵp Adolygu Perfformiad wedi adolygu’r Cofrestrau Risgiau Gwasanaeth a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ar 2 Gorffennaf 2013.  Mae argymhellion y Grŵp wedi eu hymgorffori yn  fersiwn ddiwygiedig y Gofrestr Risg Gorfforaethol, gan gynnwys nodi’r pedwar risg uchaf i’r Cyngor fel yr amlinellir nhw yn yr adroddiad.  Aeth y Swyddog ymlaen i gyfeirio at brofiadau gyda hawliadau Yswiriant y Cyngor am y cyfnod 1 Ebrill 2007 i 31 Mawrth 2013 lle gwelwyd cynnydd o 40% yn yr hawliadau atebolrwydd cyhoeddus yn ystod 2012/13, sef cynnydd y gellir ei briodoli i hawliadau am ddifrod i gerbydau oherwydd cyflwr ffyrdd y Cyngor.

 

Rhoddodd yr Aelodau sylw i’r adroddiad gan ddwyn sylw at y materion isod fel pwyntiau i’w trafod

 

·         Mae gor-ddatgan difrod i enw da fel risg yn parhau i fod yn nodwedd o Gofrestr Risg Gorfforaethol ddiwygiedig yr Awdurdod, yn arbennig felly oherwydd bod y cyfeiriadau ato mewn perthynas â rhai meysydd risg penodol yn ymddangos fel rhai ar hap a dianghenraid ac yn dwyn sylw at faterion hanesyddol.

·         Mae’n ymddangos bod y gofrestr Risg Gorfforaethol yn or-brysur a theimlir nad yw hynny’n cynorthwyo’r Pwyllgor yn ei swyddogaeth o oruchwylio rheolaeth risg yn yr Awdurdod.  Nodwyd yr adroddwyd i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd 2012 y byddai’r Gofrestr Risg yn cael ei mireinio i roi sylw i’r deg prif faes risg.

·         Diffyg gwybodaeth ynghylch canlyniadau a ddisgwylir mewn perthynas â rheoli’r meysydd risg, sy’n golygu bod y gofrestr yn canolbwyntio ar fewnbwn yn hytrach nag allbwn.

·         Y rhesymau am y newid yn y risgiau mwyaf yn y cyfnod ers y diweddariad diwethaf i’r Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ym mis Chwefror 2013.  Er bod tri o’r pum risg uchaf yr adroddwyd arnynt ym mis Chwefror wedi disgyn allan o’r categori hwn, roedd dau risg newydd yn y pedwar uchaf ond nid oedd unrhyw resymau yn nodi pam.

·          

·         Esboniodd y Rheolydd Risg ac Yswiriant bod y Grŵp Adolygu Perfformiad yn parhau i ystyried difrod i enw da fel risg mewn sawl maes, ond bydd yn parhau i fonitro’r sefyllfa.  Mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi adolygu’r gofrestr ac wedi penderfynu cadw cofrestr lawn yn hytrach na fersiwn gynilach.

·          

·         Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) fod y Gofrestr Risg Gorfforaethol yn ei ffurf gyfredol yn cael ei datblygu a chydnabyddir nad yw’n adlewyrchu’r canlyniadau a’r manylion am liniaru / cael gwared ar risgiau.  Dros y misoedd nesaf caiff y gofrestr ei datblygu ymhellach i gynnwys gwybodaeth gan y swyddogion perthnasol.  Cadarnhaodd y Swyddog fod y Grŵp Adolygu Perfformiad yn adolygu’r gofrestr a bod rhai pethau wedi dod i mewn i’r gofrestr o’r newydd, a phethau eraill wedi disgyn allan, ond y byddai, o hyn ymlaen, yn adrodd ar y newidiadau hynny i’r Pwyllgor Archwilio a pham maent wedi digwydd.

·          

·         Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol a nodi eu cynnwys.

·          

·         CAM GWEITHREDU YN CODI: Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i adrodd i’r Pwyllgor Archwilio ar symudiadau’r risgiau oddi mewn, ac i mewn ac allan o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol a’r rhesymau drostynt.

Dogfennau ategol: