Eitem Rhaglen

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Cofnodion:

Cafwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd:-

 

  • Croesawodd y Cyngor yr adolygiad cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) ar yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Bu adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru adnabod meysydd o gryfder, arferion da a datblygiadau gwasanaeth ac, yn bwysicaf oll, ni chafodd unrhyw feysydd o risg sylweddol na materion diogelu eu hamlygu. Bu’r Cadeirydd longyfarch yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol am dderbyn adroddiad mor gadarnhaol gan yr Archwilwyr.

 

  • Roedd y Cyngor Sir yn dymuno diolch i gwmni Stena Line ar ôl i griw a staff Caergybi roi rhoddion hael i blant lleol. Cyn y Nadolig, cafodd staff Maethu Môn eu cyflwyno â channoedd o deganau ac anrhegion werth dros £2,000.

 

  • Llongyfarchiadau  Aelodau Ffermwyr Ifanc yr Ynys am eu llwyddiant yn Eisteddfod Cymru yn Sir Benfro ym mis Tachwedd. Llongyfarchiadau hefyd iddynt am eu llwyddiant yn Ffair Aeaf, Llanelwedd diwedd Tachwedd ble gwelwyd llwyddiant barnu stoc, dangos stoc a dylunio cerdyn dolig.

 

  • Congratulations to members of the Young Farmers on Anglesey for their success in the Wales Eisteddfod in Pembrokeshire in November.  Congratulations were also extended to the members of the Young Farmers on Anglesey on their success in the Winter Fair in Builth Wells at the end of November.
  • Croesawodd y Cadeirydd Mr Dyfan Sion, Pennaeth Democratiaeth i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor Sir a dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd.

 

 

*          *          *         *

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyhoeddiad gan 2 Sisters Food Group yn Llangefni a’u bwriad i gau’r safle.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai hyn yn cael effaith sylweddol gyda’r posibilrwydd o golli 730 o swyddi sydd gyfwerth a 22% o’r gyflogaeth sector preifat yn Llangefni. Nododd fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda’r cwmni ar hyn o bryd ynghyd â gyda Gweinidogion Llywodraethau’r DU a Llywodraeth Cymru a’r Aelod Seneddol ac Aelod y Senedd. Mae trafodaethau hefyd wedi eu cynnal â’r Prif Weinidog, Mark Drakeford er mwyn ystyried sut y gellid cefnogi’r cwmni a sut y gellid delio a’r posibilrwydd o golli swyddi ar yr Ynys. Dywedodd hefyd y bydd Tasglu yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau cydlyniant a chydweithio effeithiol ac er mwyn parhau a’r trafodaethau er mwyn rhoi pwysau ar y cwmni i ddiogelu swyddi’r gweithlu yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni.   

 

*          *          *          *

Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad dwysaf â theulu’r diweddar Gynghorydd Alun Mummery.

 

Bu Arweinydd y Cyngor, cyd Aelodau etholedig sy’n cynrychioli Ward Aethwy ac Aelodau eraill o’r Cyngor dalu teyrngedau i’r diweddar Gynghorydd Alun Mummery am ei waith fel Aelod Etholedig ac fel Aelod Portffolio’r Gwasanaeth tai ers 2017. Nodwyd fod y Cynghorydd Mummery yn falch o’r gwaith y buodd ei gyflawni gyda’r Adran Dai. Mynegwyd ymhellach mai diddordeb mwyaf y diweddar Gynghorydd Alun Mummery oedd pêl-droed a’i fod wedi bod wrth wraidd llwyddiant Clwb Pêl-droed Llanfairpwll. Cyfeiriodd Aelodau at ei hiwmor, ei wybodaeth a’i gyfeillgarwch a mynegwyd cydymdeimlad dwys â theulu’r diweddar Gynghorydd Alun Mummery.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod arall o staff y Cyngor a oedd wedi dioddef profedigaeth

 

Bu’r aelodau a swyddogion sefyll mewn tawelwch fel arwydd o barch.

 

 

*          *          *          *