Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

Copi o lythyr i Richard Buxton Solicitors er gwybodaeth

 

8.1  46C427L/COMP - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

46C427L/COMP

 

8.2  S106/2020/3 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

S106/2020/3

 

8.3  COMP/2021/1 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

COMP/2021/1

 

8.4  HHP/2022/342  - Islwyn, Ffordd Caergybi, Llanfairpwll

HHP/2022/342

 

8.5  FPL/2022/173 - Lôn Penmynydd, Llangefni

FPL/2022/173

 

8.6  FPL/2020/247 – Stad Y Bryn, Llanfaethlu

FPL/2020/247

 

 

Cofnodion:

Er gwybodaeth i’r Pwyllgor cyflwynwyd copi o lythyr at Richard Buxton Solicitors dyddiedig 28 Mawrth, 2023 gan Burges Salmon LLP a oedd yn mynd i'r afael â materion a godwyd o ran gweithredu caniatâd Land and Lakes o dan gyfeirnod 46C427K/TR/EIA/CON.

 

Cafodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol wahoddiad gan y Cadeirydd i egluro'r cyd-destun i'r llythyr gan Burges Salmon LLP.

 

Cododd y Cynghorydd Jeff Evans bwynt o drefn yn dweud ei fod eisiau siarad am ohirio ceisiadau 8.1, 8.2 ac 8.3 a'i fod yn credu y dylid clywed hyn cyn i unrhyw un arall siarad ar y mater yn enwedig gan ei fod wedi datgan diddordeb yn y ceisiadau hynny ac felly y byddai'n ymneilltuo o'r cyfarfod pe baen nhw'n cael eu trafod.

 

Dyfarnodd y Cadeirydd y byddai'r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol yn siarad cyn ystyried ceisiadau 8.1, 8.2 ac 8.3 ac fe sicrhaodd y Cynghorydd Evans ac aelodau eraill o'r Pwyllgor y byddent yn gallu siarad pan fyddai'r eitemau sylweddol hynny yn cael eu hystyried.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod Land and Lakes wedi cael caniatâd cynllunio i ddatblygu safleoedd Penrhos, Cae Glas a Kingsland sawl blwyddyn yn ôl. Ym mis Ionawr, 2023 derbyniodd y Cyngor lythyr gan Richard Buxton Solicitors ac roedd ar ddeall ei fod ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol a’i fod felly'n gyhoeddus, a oedd yn herio’r caniatâd. I gydnabod arwyddocâd y cais i drigolion lleol, ceisiodd y Cyngor ymateb i'r llythyr mewn ffordd oedd yn dryloyw ac ar gael i bawb oedd â diddordeb. Gan weithio gyda Burges Salmon sydd wedi cael eu cyflogi gan y Cyngor ers blynyddoedd lawer i roi cyngor ar gais Land and Lakes, cafodd y llythyr sydd wedi'i gyhoeddi fel rhan o ddogfennau’r cyfarfod hwn, ei ddrafftio. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol na fyddai'n trafod y llythyr yn fanwl, yn hytrach dywedodd fod ei gynnwys yn dechnegol a'i fod yn ymateb i faterion a oedd hefyd yn dechnegol eu natur. Fodd bynnag, mae'r casgliadau a nodir ar ddiwedd llythyr Burges Salmon yn cael eu geirio mewn termau llai technegol ac maen nhw'n glir, ac yn cynrychioli safbwynt y Cyngor ar y mater. Derbyniwyd llythyr pellach gan Richard Buxton Solicitors ar 3 Ebrill, 2023 ac roedd yn deall bod hwn hefyd ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol; mae'r llythyr hwn wedi cael ei ystyried gan Swyddogion ac mae wedi cael ei drafod gyda Burges Salmon ac mae'r Swyddogion yn fodlon nad yw'n codi unrhyw faterion newydd o bwys nac yn newid y casgliadau a nodir yn y llythyr gan Burges Salmon.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol nad yw'r materion a godwyd yn y llythyrau yn cynnwys ceisiadau 8.1, 8.2 ac 8.3 ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod hwn, gan fod y rhain yn ymwneud â materion penodol, manwl o dan y caniatâd cynllunio a chytundeb Adran 106. Eglurodd nad oedd y Cyngor wedi cyhoeddi'r ohebiaeth gan Richard Buxton Solicitors gan nad oedd ganddo berchnogaeth o'r ohebiaeth ac felly nid oedd ganddo’r hawl i wneud hynny, beth bynnag, mae’r ohebiaeth ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

8.1 46C427L/COMP – Cyflwyno Cynllun Grŵp Cyswllt Cymunedol er mwyn cydymffurfio gyda Thelerau Cytundeb a nodir yn Atodlen 8, Adran 7 a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus Penrhos fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 13.1 y Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth gyfeirnod cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Adroddwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â chyflawni rhwymedigaethau Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm â chydsyniad cais a oedd yn cyd-fynd ag Asesiad Effaith Amgylcheddol. Fe’i cyfeiriwyd felly at y Pwyllgor i benderfynu arno yn unol â pharagraff 3.5.3.10 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Ar y pwynt yma, gwahoddwyd y Cynghorydd Jeff Evans i siarad gan y Cadeirydd. Ailadroddodd y Cynghorydd Evans ei fod wedi datgan diddordeb yn y cais hwn a cheisiadau dilynol 8.2 ac 8.3 ac y byddai'n gadael y cyfarfod pe baen nhw'n cael eu trafod. Dywedodd na fyddai'n cymryd rhan nac yn pleidleisio ar y ceisiadau nes bod yr holl ddadleuon, materion a heriau cyfreithiol wedi eu hystyried yn llawn a'u datrys er boddhad pob parti. Roedd o'r farn bod dilyn y broses hon yn iawn, yn onest ac yn deg a byddai'n caniatáu i bawb fod yn hyderus bod materion cynllunio yn cymryd ystyriaeth lawn a diduedd o farn pob person boed hynny o blaid neu yn erbyn. Dyna pam yr oedd yn gofyn i geisiadau 8.1, 8.2 ac 8.3 gael eu gohirio nes bod yr holl dimau cyfreithiol yn ystyried ei bod yn iawn ac yn briodol i fynd ymlaen. Gan nad oedd cytundeb gan y ddwy ochr ynghylch sut i fwrw ymlaen, roedd yn teimlo na allai fynd ymlaen ar y mater hwn gan ei fod yn credu y byddai'n annheg i'r cyhoedd, i'r rhai oedd o blaid neu yn erbyn y cynnig ac i'r Pwyllgor o ran gorfod pleidleisio arno.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jeff Evans ynghylch a oedd yn briodol iddo wneud cais i ohirio, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y gallai cynnig i'r perwyl hwnnw gael ei wneud a phleidleisio arno pe bai'n cael ei eilio. Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid gohirio ceisiadau 8.1, 8.2 ac 8.3 felly ac fe gafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd R. Llewelyn Jones.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at honiad a wnaed mewn e-bost diweddar at aelodau'r Pwyllgor fod yna dystiolaeth i ddangos pa waith oedd wedi ei wneud ar y safle neu heb ei wneud ar y safle a gofynnodd i’r dystiolaeth honno fod ar gael i aelodau'r Pwyllgor cyn i'r mater gael ei ystyried ymhellach yn enwedig gan fod y caniatâd gwreiddiol ar gyfer cais Land and Lakes a'r trafodaethau ynglŷn â’r cais wedi digwydd cyn i aelodaeth y Pwyllgor presennol gael ei ffurfio ac roedd yn teimlo ei fod ef a'r rhan fwyaf o'i gyd-aelodau felly yn ddigyfeiriad ar y mater hwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y materion cyfreithiol y tu allan i'r tri chais sydd dan ystyriaeth; cafwyd barn gyfreithiol gan Burges Salmon ac nid yw safbwynt y Cyngor wedi newid. Cadarnhaodd fod tystiolaeth ynglŷn â gwaith a wnaed ar gael a’i fod ar ffeil ac mae’r datblygwr wedi cyflwyno adroddiadau i ddangos y gwaith a wnaed; mae hyn wedi cael ei ystyried gan Burges Salmon wrth ddod i'w casgliadau. Mae'r tri chais a gyflwynwyd i'r cyfarfod heddiw mewn cysylltiad â materion penodol o dan gytundeb Adran 106 yn unig ac nad oes ganddynt ddim i'w wneud â chyfreithlondeb y caniatâd sydd wedi ei ystyried a chael sylw yn ymateb Burges Salmon i Richard Buxton Solicitors.

 

Mewn ymateb i gais am eglurhad gan y Cadeirydd ynglŷn â'r cynnig i ohirio, yn benodol y cyfnod gohirio, dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn gwneud cais i'r tri chais gael eu gohirio nes bod y materion cyfreithiol ar y ddwy ochr wedi cael eu hystyried, boed hynny am fis neu fwy. Roedd am i'r cyfreithwyr ar y ddwy ochr ddod i gasgliad ei bod hi'n briodol symud ymlaen fel bod y Pwyllgor wedyn yn gallu gwneud penderfyniad mewn ffordd deg. Ar hyn o bryd mae gwahaniaeth barn yn parhau ynghylch a yw’r caniatâd yn gywir ai peidio a pha waith sydd wedi ei wneud neu heb ei wneud.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod y cynnig mewn gwirionedd ar gyfer gohirio am gyfnod amhenodol gan nad yw'r broses gynllunio yn caniatáu rhyw fath o gyfaddawd o ran caniatâd sydd eisoes wedi'i roi. Esboniodd ei bod wedi cymryd rhai misoedd i gyrraedd y pwynt hwn gan fod Swyddogion wedi bod yn craffu'n ofalus ar y caniatâd a'r amodau i ganfod a oedd unrhyw wendidau. Mae'r casgliadau fel yr amlinellir yn llythyr Burges Salmon. Mae gan Land and Lakes hawl yn ôl y gyfraith i'w caniatâd a'r unig ddull ar gael i herio hynny fyddai drwy adolygiad barnwrol o'r penderfyniad drwy'r llysoedd, sydd ddim yn fater gerbron y Pwyllgor. Mae gohirio felly’n gyfystyr â pheidio â gwneud penderfyniad ar y tri chais gan fod cyfaddawd rhwng y rhai sy'n gwrthwynebu'r caniatâd ac yn meddwl ei fod yn annilys a'r Cyngor sydd o'r farn bod materion sy'n ymwneud â'r caniatâd yn ddilys ac yn briodol, yn annhebygol.

 

Eglurodd y Cynghorydd Robin Williams, a oedd wedi nodi ei gefnogaeth i ohirio, nad oedd yn gwerthfawrogi y gallai’r cyfnod gohirio fod am gyfnod amhenodol gan feddwl y byddai’r gohiriad am fis tan y cyfarfod nesaf i ganiatáu i'r dystiolaeth yr oedd wedi cyfeirio ati gael ei chyflwyno, ac felly roedd yn tynnu’n ôl ei gefnogaeth i’r cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn credu y dylai mis fod yn ddigonol, ac y byddai'n ymrwymo'r ddwy ochr i ddatrys materion cyn gynted â phosibl ac fe ddiwygiodd ei gynnig yn unol â hynny.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ymhellach ei fod yn credu na fyddai'n bosibl gweithredu ar benderfyniad i ohirio ar y telerau a gynigid gan y byddai'n gofyn i Swyddogion negodi rhywbeth sy'n groes i ofynion y system a'r weithdrefn ac y byddai'n eu gosod mewn sefyllfa amhosibl a gallai hyd yn oed wrthdaro â'u gofynion safonau proffesiynol fel swyddogion cyfreithiol a chynllunio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE at y ffaith bod y cais gwreiddiol yn gais hybrid gyda thair elfen iddo, sef Kingsland, Cae Glas a Phenrhos a gofynnodd am eglurhad am statws elfennau Kingsland a Chae Glas ac a oedd y rhain bellach yn ystyriaeth.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y caniatâd a roddwyd yn ganiatâd hybrid ac er bod y mwyafrif o'r caniatâd yn amlinellol, mae yna rai elfennau am ganiatâd llawn. Y rheswm  am hynny yw na ellir ymdrin â newid defnydd h.y. ar gyfer yr adeiladau rhestredig ar y safle o dan ganiatâd amlinellol felly mae’r elfennau hynny'n dod o dan y caniatâd llawn. Mae'r tri chais a gyflwynwyd fel rhan o fusnes y cyfarfod heddiw yn cyfeirio at Benrhos yn unig; er mwyn i ddatblygiadau Kingsland a Chae Glas fynd rhagddynt byddai angen cytundeb cyfreithiol rhwng Land and Lakes a datblygwr newydd ar gyfer safle Niwclear Wylfa sy'n annhebygol yn y tymor byr.

 

Yn sgil ymholiad gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE, cadarnhawyd mai'r materion sydd dan ystyriaeth heddiw yw rhyddhau amodau mewn perthynas â safle Penrhos yn unig ac nid mater caniatâd cynllunio Land and Lakes. Soniodd ymhellach am ohebiaeth oedd wedi ei hanfon at aelodau'r Pwyllgor ac roedd yn teimlo bod angen gohirio am fis.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll. Jones fod y sefyllfa'n cynnwys dwy set o gyfreithwyr gyda dwy farn hollol wahanol am ganiatâd Land and Lakes gyda'r Cyngor yn derbyn barn  Burges Salmon am ei fod yn cadw'r caniatâd yn fyw. Cyfeiriodd at y llythyr gan Burges Salmon gan ddweud ei fod yn gymhleth ac na allai ddod i gasgliad ar sail y llythyr. Fe bwysleisiodd fod yn rhaid i Aelodau ddeall yr hyn mae gofyn iddynt benderfynu yn ei gylch. Roedd o'r farn fod y mater yn cael ei wthio drwy’r system pan fo llawer iawn o bryder lleol am Benrhos a bod dim digon o ystyriaeth wedi ei rhoi i'r ohebiaeth a'r safbwynt a gyflwynwyd gan Richard Buxton Solicitors.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd yn rhaid i'r Aelodau ddeall yn llawn yr holl bwyntiau cyfreithiol a nodwyd yn llythyr Burges Salmon gan nad oedd gofyn iddynt ddod i unrhyw benderfyniad ynghylch y pwyntiau hynny na'r llythyr a gyflwynwyd er  gwybodaeth yn unig. Mae'r ceisiadau y mae angen penderfynu yn eu cylch yn ymwneud â materion penodol o fewn y caniatâd cynllunio o ran safle Penrhos a does ganddynt ddim i'w wneud â'r materion a godwyd yn y llythyr.

 

Pan ofynnwyd iddo gadarnhau ei gynnig, dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn gofyn am ohirio ceisiadau 8.1, 8.2 ac 8.3 am gyfnod o fis; fe gadarnhaodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones ei fod yn eilio'r cynnig. Yn y bleidlais ddilynol ar y mater, cafodd y cynnig i ohirio ceisiadau 8.1, 8.2 ac 8.3 am fis ei basio.

 

Penderfynwyd gohirio rhoi ystyriaeth i’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

8.2 SI06/2020/3 - Cyflwyno " Cyflwyno ‘Cynllun Iaith Gymraeg Parc Arfordirol Penrhos’ o dan Adran 1 (Cynllun Iaith Gymraeg) o atodlen 12 o’r Cytundeb 106 a gwblhawyd mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON a chyflwyniad Gweithred Amrywio i amrywio darpariaethau canlynol y cytundeb cyfreithiol hwn: paragraffau 2.1.1. Atodlen 8 (Manyleb Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur Cae

Glas), Atodiad 2 Bond Bwrdd Canolfan Ymwelwyr Penrhos (yn cynnwys Toiledau Canolfan Ymwelwyr Penrhos) a’u cynnal a chadw, paragraffau 1.1 a 1.2 Atodlen 12 (Cynllun Iaith Gymraeg) a disodliad Cynllun 2 Lluniad Tir Penrhos - Cynllun 2 cyfeirnod llunio PL1114.VW008 /Rev 03 dyddiedig 03/03/2016, Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Penderfynwyd gohirio rhoi ystyriaeth i’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

8.3 COMP/2021/1 – Cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol i ryddhau adrannau; Atodlen 8, Adran 1, Cymal 1.1; Strategaeth Parcio Ceir a Mynediad Cyhoeddus – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Cymal 12.1; Cynllun Coetir Hynafol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 15, Cymal 15.1; Cynllun Cysylltiadau Gwyrdd – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 17, Cymal 17.1; Cynllun Rheoli SoDdGA – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.1; Arolwg Ecolegol a Chynllun Monitro – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.4; Archwiliad Cydymffurfiaeth Ecolegol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 20, Cymal 20.1 – Cynllun Rheoli Coed Presennol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.1 – Penodi Gwasanaeth Warden / Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Warden – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.2 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Goblygiadau diogelwch / Asesiad monitro effaith Cysylltiadau Gwyrdd a’r defnydd ohonynt – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.3 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Ymrwymiad Adroddiad Blynyddol o Effaith – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 9, Adran 3, Cymal 3.1; Cynllun Fesul Cyfnod Pentref Hamdden Penrhos – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 11, Adran 1, Cymal 1.1; Cynllun Llafur Lleol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos o oblygiadau’r cytundeb Adran 106 ynghlwm i ganiatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi.

1.     

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Penderfynwyd gohirio rhoi ystyriaeth i’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

8.4 HHP/2022/342 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Islwyn, Ffordd Caergybi, Llanfairpwll

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw i mewn ar gais y Cynghorydd Robin Williams oherwydd pryderon y byddai'r datblygiad yn effeithio ar yr eiddo cyfagos. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth, 2023, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle. Ond cafodd y cais ei dynnu’n ôl cyn i'r ymweliad safle gael ei gynnal ar 15 Mawrth, 2023.

 

Cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

8.5 FPL/2022/173 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i leoli 32 caban gwyliau, gosod adeilad derbynfa, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu ffyrdd newydd ar y safle a mannau parcio ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Lôn Penmynydd, Llangefni.

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth, 2023, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Y rhesymau a roddwyd yw na fyddai'r cynnig yn gwella'r safle a byddai'n groes i Bolisi PCYFF3 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd; nid yw'r adroddiad ecolegol sy'n cyd-fynd â'r cais cynllunio yn mynd i'r afael ag effaith y cynnig ar wiwerod coch; gallai'r cabanau gael eu defnyddio fel anheddau preswyl yn y dyfodol ac mae pryderon ynghylch diogelwch y briffordd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at y rhesymau a ddyfynnwyd am wrthod y cais yn y cyfarfod blaenorol a disgrifiodd sut mae'r cynnig yn cydymffurfio â meini prawf Polisi PCYFF 3 fel y nodir yn yr adroddiad gan ei fod yn ddatblygiad o ansawdd uchel ar safle yr ystyrir ei fod ddylunio’n dda. Hefyd mae’r cynnig yn cynnwys plannu coetir ar hyd y ffin Ogleddol a Ddeheuol yn ogystal â phlannu coed o amgylch y safle, dôl blodau gwyllt, glaswellt mwynderau a llenwi gwrychoedd. Bydd y cynllun tirweddu yn darparu clustogfa i’r coedlin presennol ac yn gwneud cyfraniad positif tuag at fioamrywiaeth.Os byddai'r safle’n parhau i gael ei bori gan anifeiliaid byddai'r coed a'r gwrychoedd presennol yn debygol iawn o ddirywio heb fawr o fudd i fioamrywiaeth ar y safle.

 

Mae'r cynnig hefyd yn darparu troedffordd gyhoeddus o'r safle a fyddai'n cysylltu â'r llwybr cyhoeddus presennol ger y ffordd gyswllt. Mae gan y safle gysylltedd rhagorol â llwybr bws, llwybr beicio a nifer o siopau yng nghanol tref Llangefni. Felly ystyrir bod y cynnig yn cydymffurfio â Pholisi PCYFF 3 ac ni ellir cyfiawnhau gwrthod ar y sail honno.

 

O ran y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor am effaith y cynnig ar wiwerod coch, mae'r ymgeisydd wedi cyflwyno adroddiad ecolegol pellach. Ymgynghorwyd ag Ecolegydd y Cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru a nodwyd ei bod hi'n annhebygol y bydd y cynnig yn effeithio ar wiwerod coch gan y bydd pob un ond dwy goeden ar y safle yn cael eu cadw ac mae'r datblygiad wedi'i gyfyngu i gae amaethyddol agored. Mae'r Ecolegydd yn gwneud sylwadau pellach am effaith gadarnhaol y cynnig ar wiwerod coch o ganlyniad i'r coed newydd a gaiff eu plannu. Cynhaliwyd arolwg o wiwerod ar 12 Mawrth, 2023; roedd yr arolwg ar gyfer Dreys yn negyddol, a daeth i'r casgliad na fydd effaith negyddol ar wiwerod coch. Aiff yr arolwg ymlaen i nodi y bydd gwelliant mewn cysylltedd cynefinoedd o ganlyniad i blannu coed newydd a fydd hefyd o fudd i'r wiwer goch. Felly ystyrir bod y cynnig yn gwella bioamrywiaeth y safle ac na fydd yn cael unrhyw effaith ar wiwerod coch.

 

Ymdrinnir â’r pryderon a godwyd yn y cyfarfod blaenorol ynglŷn â’r posibilrwydd o ddefnyddio'r cabanau yn y dyfodol fel unedau preswyl parhaol drwy amod cynllunio sy'n cyfyngu ar eu defnydd i ddefnydd gwyliau yn unig a’i gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd gadw cofrestr gyfredol o holl ddefnyddwyr y cabanau. Mae'r ymgeisydd wedi cadarnhau y bydd y safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tai gwyliau yn unig, ac nad oes bwriad gwerthu'r unedau, ac mae'n fodlon ymrwymo i gytundeb Adran 106 er mwyn cadw'r safle fel un uned gynllunio. Ystyrir felly bod pryderon y Pwyllgor ar y pwynt hwn wedi cael sylw ac nad yw'n rheswm dros wrthod y cais.

 

O ran diogelwch y briffordd, yn dilyn pryderon a godwyd am amseriad yr arolwg traffig gwreiddiol a gynhaliwyd, trefnwyd arolwg cyflymder pellach gan yr ymgeisydd a gynhaliwyd ym mis Chwefror ac a oedd yn seiliedig ar y sefyllfa waethaf bosibl. Daeth canlyniadau’r arolwg cyflymder diweddaraf i’r casgliad bod y cyflymderau’n is na’r arolwg gwreiddiol a bod y llain welededd yn ddigonol ar gyfer y datblygiad. Mae’n bwysig nodi y bydd rhan o’r gwrych presennol i’r Dwyrain o’r fynedfa yn cael ei symud i sicrhau llain welededd ddigonol ac i’r Gorllewin o’r fynedfa mae cylchfan sy’n arafu’r traffig yn naturiol i’r ddau gyfeiriad. Mae'r Gwasanaeth Priffyrdd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon gyda'r trefniadau mynediad a gwelededd. O ganlyniad, nid ystyrir bod diogelwch y briffordd yn rheswm digonol i wrthod y cais ac mae’r Swyddog yn parhau i argymell cymeradwyo’r cais.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dylan Rees fel Aelod Lleol gan ddweud er bod y cynnig ar gyfer 32 o gabanau gwyliau fod yr adroddiad ecoleg bellach yn cyfeirio at ddatblygiad parc carafanau a chabanau gwyliau sy'n awgrymu bod gan yr ymgeisydd ddyluniadau pellach o ran yr hyn fydd wedi'i leoli ar y safle. Er ei fod yn falch bod yr adroddiad hwn wedi ystyried yr effaith ar wiwerod coch, roedd ganddo bryderon o hyd ar y pwynt hwn gan fod yr adroddiad yn crybwyll mai’r unig dystiolaeth o wiwerod coch oedd un wiwer goch farw a ganfuwyd dros 600m o'r datblygiad arfaethedig tra bod trigolion lleol wedi gweld gwiwerod coch yn dod i'w gerddi yn rheolaidd yn llawer nes na 600m o'r safle. Dywed yr adroddiad y bydd 3,500 o goed brodorol newydd yn cael eu plannu fel mesur lliniaru ond nid yw'n nodi a fydd unrhyw un o'r rheini'n goed aeddfed, gan y bydd coed ifanc ond yn cynnig ychydig o fudd, os o gwbl, i wiwerod coch neu rywogaethau eraill am flynyddoedd lawer. Gofynnodd felly, pe bai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo, bod unrhyw goed newydd a gaiff eu plannu’n goed aeddfed. Er gwaethaf sylwadau aelod yn y cyfarfod diwethaf fod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi a deddfwriaeth, nid oedd o’r un farn ac yn ei dyb ef nid yw’n bodloni gofynion Polisi Cynllunio Cymru TAN 5 o ran Cynllunio a Chadwraeth Natur. Tynnodd sylw hefyd at un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sef hyrwyddo Cymru gydnerth; yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, dylai hyn ganolbwyntio ar wella amgylchedd naturiol, bioamrywiol gydag ecosystemau iach yn ogystal â diogelu mannau gwyrdd naturiol. Dywedodd y Cynghorydd Rees fod y cais y tu allan i'r ffin ddatblygu a ganiateir, ac mai holl bwynt y ffin yw diogelu mannau gwyrdd naturiol. Un rheswm a roddwyd dros gymeradwyo'r cynnig yn y cyfarfod fis diwethaf oedd y budd economaidd y byddai'n eu cyflwyno i'r ardal. Er hynny, fe siaradodd ei gyd aelod o'r ward, y Cynghorydd Paul Ellis, gŵr busnes lleol yn erbyn y cais ac mae wedi dweud na all weld yr ardal leol yn cael budd economaidd yn ei sgil. Felly gofynnodd i'r Pwyllgor gadw at ei benderfyniad blaenorol i wrthod y cais.

 

Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a wnaed gan ddweud bod yr adroddiad ecoleg pellach yn cydnabod bod gwiwerod coch yn symud o gwmpas; mae safle’r cais yn gae amaethyddol agored wedi’i ddiffinio gan goed a gwrychoedd presennol sydd o ansawdd gwael. Barn y Swyddog yw y bydd y cynnig a'r cynllun tirweddu a choetir sy'n rhan ohono yn gwella bioamrywiaeth y safle a hefyd yn cyfrannu at gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Nid yw polisi yn ei gwneud yn ofynnol i lety gwyliau gael ei leoli o fewn ffin ddatblygu, mae’r gofyniad yn fwy penodol i ddatblygiadau tai. Fel arfer byddai cynigion fel yr un sydd dan ystyriaeth yn cael eu lleoli y tu allan i'r ffin ddatblygu ond byddai disgwyl iddo ddangos cysylltedd da â'r gymuned gyfagos.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio at y gwrthwynebiadau lleol i’r cynnig gan ddweud er ei bod hi'n credu bod y datblygiad yn ddatblygiad o safon, ond mae trigolion lleol yn credu ei fod yn y lleoliad anghywir.

 

Gan fod y cynnig yn ddatblygiad o safon credai'r Cynghorydd Jackie Lewis y byddai'n gwella'r safle; roedd yr Awdurdod Priffyrdd yn derbyn y cynnig ac roedd yn debygol o greu cyfleoedd gwaith. Roedd ganddo gysylltiadau cynaliadwy gyda Llangefni a gallai ddenu ymwelwyr i mewn i'r dref. Cynigiodd felly fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Liz Wood.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais yn cael ei ail-gadarnhau gan ei fod yn credu bod y cynnig yn groes i feini prawf 6, 9 ,10, 11, 12 a 13 o Bolisi PS5; Polisi PS14 gan nad yw’n diogelu'r amgylchedd naturiol ac mae’n dibynnu’n ormodol ar dwristiaeth sydd hefyd yn groes i Bolisi TWR 1; Polisi PCYFF 1 gan ei fod y tu allan i'r ffin ddatblygu; meini prawf 3 a 4 Polisi PCYFF 2; Polisi PCYFF 3 gan nad yw’r cynnig yn rhoi digon o ystyriaeth i'w gyd-destun amgylchedd naturiol nac yn gwella cymeriad neu edrychiad y safle; Polisi PCYFF 4 a Pholisi AMG 5. Eiliodd y Cynghorydd John I. Jones y cynnig i wrthod.

 

Ailadroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu rinweddau’r cynnig o ran ei nodweddion gwyrdd ac amgylcheddol gan ddweud bod yr Awdurdod Priffyrdd, yr Ecolegydd a Swyddog Tirweddu'r Cyngor yn ogystal â Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon â’r cynnig. Mae'r cyd-destun polisi wedi ei ystyried gan y Gwasanaeth Cynllunio yn ogystal â'r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ac ystyrir bod y cynnig yn cydymffurfio.

 

Credai'r Cynghorydd Dafydd Roberts nad oedd y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â maen prawf 2 o Bolisi PCYFF 3 gan nad yw’n parchu ei gyd-destun a'i le yn y dirwedd leol a gan ei fod yn newid cymeriad yr ardal. Teimlai fod y cynnig yn amhriodol ar gyfer y lleoliad hwn.

 

Credai'r Cynghorydd Jeff Evans fod y manteision yn fwy na'r anfanteision a bod y datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad amgenach ac yn debygol o ddenu ymwelwyr a fyddai, yn fwy na thebyg, yn siopa yn nhref Llangefni ac yn gwneud defnydd o'i gyfleusterau.

 

Mewn ymateb i sylwadau pellach cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod effaith y cynnig ar y Gymraeg wedi'i hystyried a gan mai defnydd gwyliau sy'n cynnwys arosiadau dros dro ni ystyriwyd y byddai'n cael effaith ar y gymuned.

 

Yn y bleidlais ddilynol, cafodd y cynnig i gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ei basio.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad yn amodol ar yr amodau cynllunio a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

8.6 FPL/2020/247 – Cais llawn ar gyfer codi 9 annedd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir wrth ymyl Stad y Bryn, Llanfaethlu

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi cael ei alw i mewn yn wreiddiol i’r Pwyllgor benderfynu arno gan gyn-Gynghorydd ac Aelod Lleol. Cafodd y cais cynllunio ei gymeradwyo gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Ebrill, 2021 gydag amodau ac ar sail cwblhau cytundeb cyfreithiol. Yn dilyn y penderfyniad hwn cyflwynwyd Tystysgrif Perchnogaeth ddiwygiedig C gan yr ymgeisydd yn rhoi hysbysiad i'r Cyngor fel perchennog tir. Wedi hynny, cafodd y cais ei gyfeirio'n ôl at gyfarfod Gorffennaf 2021 o'r Pwyllgor lle cafodd ei gymeradwyo. Nid yw'r cytundeb cyfreithiol wedi'i gwblhau eto. Fodd bynnag, gan fod cynlluniau diwygiedig wedi'u derbyn, ystyrir bod angen rhoi cyhoeddusrwydd, ymgynghori ac adrodd ymhellach i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn sgil y newidiadau arfaethedig hyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Llinos Medi, Aelod Lleol at hanes cynllunio safle’r cais gan ddweud fod y Cyngor Cymuned wedi’i drafod yn helaeth dros amser. Tynnodd sylw at y ffaith mai dim ond ar 17 Mawrth y cyhoeddwyd y cynlluniau diwygiedig ar gyfer ymgynghori a chyhoeddusrwydd a bod cyfarfod o'r Cyngor Cymuned wedi’i gynnal ar 3 Ebrill, ac mai ar ôl hynny y dechreuodd dderbyn sylwadau gan gymdogion a oedd yn pryderu bod y cais wedi bod yn aneglur. Siaradodd y Cynghorydd Llinos Medi hefyd am broblemau draenio hanesyddol a charthffosiaeth ym mhentref Llanfaethlu gan ddweud bod pryderon difrifol o fewn y gymuned ar y sail honno. Roedd hi'n teimlo nad oedd hi na'r gymuned wedi cael digon o amser i lunio safbwynt ac achos ynglŷn â'r cais ac felly roedd hi'n gofyn am ohirio ystyried y cais am fis er mwyn rhoi amser i'r cyngor cymuned graffu ar y cais yn unol ag amserlenni.

 

Roedd y Rheolwr Rheoli Datblygu’n cydnabod y pwynt oedd yn cael ei wneud ac fe gadarnhaodd nad oedd ganddo wrthwynebiad mewn egwyddor i ohirio gan gydnabod nad oedd y cyfnod ymgynghori/cyhoeddusrwydd yn dod i ben tan 7 Ebrill. Esboniodd mai argymhelliad y Swyddog fyddai cymeradwyo'r cais yn amodol nad oes unrhyw faterion newydd yn cael eu codi cyn i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Dywedodd fodd bynnag fod y cynnig ar gyfer 9 o anheddau wedi cael caniatâd cynllunio gyda'r cytundeb cyfreithiol yn parhau i gael ei gwblhau. Mae'r cais a gyflwynwyd i'r cyfarfod heddiw ar gyfer cynlluniau draenio diwygiedig yn unig sydd eisoes wedi cael cymeradwyaeth SAB. Er hynny, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai'n fodlon clywed pryderon lleol am ddraenio.

 

Roedd y Cynghorydd Robin Williams yn gefnogol i ohirio gan ddweud nad yw amseriad cyfarfodydd y cyngor cymuned bob amser yn cyd-fynd ag amserlenni ymgynghori e.e. gall cyngor cymuned dderbyn hysbysiad am ddatblygiad arfaethedig yn ei ardal ar ddyddiad penodol ond efallai na fydd yn cyfarfod am beth amser wedyn gan olygu bod llai o amser i ystyried y cynnig. Roedd yn cydnabod bod amserlen yr ymgynghoriad yn para am 21 diwrnod ond gofynnodd i ystyriaeth gael ei rhoi i amseru wrth roi manylion cais. Cynigiodd y dylid gohirio ystyried y cais; cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd gohirio rhoi ystyriaeth i'r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

Dogfennau ategol: