Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

13.1  LBC/2023/1 – Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

LBC/2023/1

 

13.2  FPL/2023/6 – Maes Parcio Iard yr Hen Orsaf, Stryd Fawr, Llangefni

FPL/2023/6

 

13.3  FPL/2023/24 – Bryn Fedwen Cottage, Gaerwen

FPL/2023/24

 

13.4  HHP/2022/291 – Monfa, Ffordd Caergybi, Mona

HHP/2022/291

 

13.5  FPL/2022/256 – Crown Street, Gwalchmai

FPL/2022/256

 

13.6  FPL/2022/85 – Clwb Golff LLangefni

FPL/2022/85

 

 

Cofnodion:

13.1 LBC/2023/1 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer addasu adeilad rhestredig sydd wedi’i adael i fod yn 4 fflat llety cymdeithasol, ynghyd â gwaith allanol a mewnol ym Mhlas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar gyfer datblygu ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr adeilad dan sylw wedi bod yn wag ers dechrau'r 1970au a’i fod ar hyn o bryd mewn cyflwr gwael. Gwnaed difrod strwythurol iddo yn sgil dŵr yn mynd i mewn i’r adeilad a baw colomennod. Mae achosion o losgi bwriadol a fandaliaeth hefyd wedi arwain at ddifrod gan dân. Mae Plas Alltran ar Gofrestr Adeiladau Cadw sydd mewn Perygl ers 2001, a nodwyd ei fod mewn cyflwr gwael iawn mewn Asesiad Risg Asedau Hanesyddol ym mis Rhagfyr 2020. Yn ogystal â hyn, mae'r adeilad ymysg 20 prif adeilad y Gymdeithas Fictoraidd sydd mewn perygl yn y DU. Rhoddwyd caniatâd adeilad rhestredig i'w drawsnewid, dymchwel rhan o'r adeilad a chodi estyniad fel rhan o’r gwaith allanol a mewnol ar Hydref, 2021 ond oherwydd yr angen i sicrhau arbedion cost, mae'r contractwyr yn ceisio gwneud newidiadau i'r cynllun fel y disgrifir yn yr adroddiad. Ar ôl bod yn wag am bron i 50 mlynedd, bydd yr adeilad rhestredig hwn sydd wedi'i leoli mewn llecyn amlwg yn parhau i ddirywio nes y bydd gwaith adfer yn cael ei wneud. Byddai caniatâd adeilad rhestredig a chaniatâd cynllunio a gweithredu'r cynigion yn diogelu dyfodol yr adeilad; felly, yr argymhelliad yw ei gymeradwyo.

 

Gan siarad fel Aelod Lleol, cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans at Blas Alltran fel adeilad gwych a oedd bellach mewn cyflwr adfeiliedig ac a oedd wedi'i leoli ar gornel lletchwith ger y prif gylchfan i mewn i'r Porthladd. Er ei fod yn croesawu'r posibilrwydd o ailddefnyddio’r adeilad unwaith eto, gan nodi bod gwaith adfer wedi bod yn digwydd ers rhai misoedd, roedd ganddo rai amheuon ynghylch y ddarpariaeth barcio gan fod problemau wedi codi yn y cyffiniau gyda cherbydau’n parcio ar balmentydd.

 

Eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais dan ystyriaeth am ganiatâd adeilad rhestredig yn cynnwys gwaith mewnol ac allanol i'r adeilad. Dywedodd fod y cynnig eisoes wedi sicrhau caniatâd cynllunio a bod lle parcio wedi'i ystyried fel rhan o'r broses honno. Felly nid yw egwyddor y datblygiad yn fater i'w drafod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylai'r cais gael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Jackie Lewis.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad yn amodol ar yr amodau cynllunio a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

13.2 FPL/2023/6 - Cais llawn i gadw cynhwysydd storio ar gyfer defnydd storio offer ym Maes Parcio Iard yr Hen Orsaf, Stryd Fawr, Llangefni.

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn wnaeth y cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais oedd hwn i osod cynhwysydd storio dros dro i gadw deunyddiau ac offer wrth law ar gyfer gwaith atgyweirio yng Ngwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy. Cyfeiriodd at ddimensiynau'r cynhwysydd arfaethedig gan ddweud nad oedd yn cael ei ystyried y byddai'r cynnig yn cael unrhyw effaith ar fwynder preswyl gan nad oes cymdogion wrth ymyl y safle. Byddai'r cynhwysydd yn cael ei osod yn ôl o'r ffordd er mwyn peidio â thynnu sylw defnyddwyr y ffordd a byddai ei effaith weledol felly'n fach iawn. Bwriedir hefyd gosod amod i sicrhau ei fod yn cael ei symud a bod y tir yn cael ei adfer i'w gyflwr gwreiddiol o fewn 5 mlynedd i’r caniatâd. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylai'r cais gael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad yn amodol ar yr amodau cynllunio a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. 

 

13.3 FPL/2023/24 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir i fod yn rhan o’r cwrtil preswyl ym Mryn Fedwen Cottage, Gaerwen

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cynnwys tir sy'n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cynnig yn cynnwys newid y defnydd o'r tir i'r gogledd o'r prif annedd i fod yn rhan o gwrtil preswyl yr eiddo. Byddai hyn yn golygu bod modd i'r tanc septig sy'n gwasanaethu'r eiddo a leolir ar hyn o bryd o fewn parsel y tir gael ei symud o fewn cwrtil yr eiddo. Fel rhan o'r cynnig, mae'r ymgeisydd hefyd yn bwriadu gwneud gwelliannau amgylcheddol i'r tir ar ôl ei gael fel rhan o'u cwrtil preswyl. Ni ystyrir y bydd y datblygiad arfaethedig yn cael mwy o effaith ar yr amgylchedd naturiol o'i gwmpas nac ar unrhyw eiddo cyfagos na’r effaith bresennol. Yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylai'r cais gael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad yn amodol ar yr amodau cynllunio a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

13.4 HHP/2022/291 – Cais llawn ar gyfer addasu’r garej yn anecs ym Monfa, Ffordd Caergybi, Mona

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol ynglŷn â'r cais.

 

Siaradwr Cyhoeddus (Gwrthwynebwr)

 

Siaradodd Mr Richard Meirion Jones fel gwrthwynebydd i'r cais gan ddweud fod ganddo bryderon am yr adeilad newydd o'r cychwyn pan oedd yn cael ei adeiladu'n wreiddiol. Nid oedd yn gwrthwynebu'r caniatâd gwreiddiol sef adeiladu garej newydd yn lle'r garej bresennol gan ei fod ar sail debyg er nad oedd yn ymddangos bod unrhyw beth o'i le ar yr adeilad fel yr oedd. Wrth i'r gwaith adeiladu ddechrau, daeth i'r amlwg nad oedd yn cyd-fynd â'r cynlluniau a ganiatawyd ac roedd yr adeilad newydd yn edrych yn debycach i fyngalo na garej neu weithdy. Fe gwynodd ei ferch wrth y Cyngor ar ei ran ac roedd rhaid gwneud cais ôl-weithredol am fath gwahanol o ganiatâd oherwydd bod yr ymgeisydd wedi gweithredu'n groes i'r rheolau. Er ei fod wedi gwrthwynebu'r cais hwnnw, dywedodd Mr Jones, oherwydd y system, nad oedd ei sylwadau wedi cael eu hystyried tan iddo gael ei gymeradwyo. Roedd yn poeni felly y byddai'r un peth yn digwydd eto a dyna pam ei fod eisiau siarad gerbon y Pwyllgor. Er mai cais yw hwn i addasu’r garej yn anecs roedd yn hyderus nad oedd yr adeilad erioed wedi cael ei ddefnyddio fel garej na gweithdy ers iddo gael ei adeiladu. Roedd yn ymddangos iddo fod yr ymgeisydd wedi manteisio ar y broses gynllunio drwy adeiladu rhywbeth tebycach i fyngalo o'r cychwyn gyda'r bwriad fod rhywun yn byw ynddo. Dywedodd Mr Evans ei fod yn gweld hynny o'r dechrau a dyna pam ei fod yn gwrthwynebu. Cwestiynodd a yw'r adeilad yn bodloni'r un safonau ag y byddai'n rhaid eu bodloni pe bai wedi bod yn annedd newydd a oedd yn cael ei adeiladu o'r dechrau, ac o ystyried ei agosrwydd at ei annedd ei hun, roedd ganddo bryderon hefyd am garthffosiaeth a'r suddfan dŵr yn mynd ar ei dir ei hun. Roedd yn poeni ymhellach am barcio a'r effaith ar draffig y briffordd. Dim ond lle i dri cherbyd sydd ar y safle ac ni fydd hynny’n ddigon os daw dau berson arall i fyw yno. Byddai'n rhaid i unrhyw gerbydau ychwanegol barcio ar yr A5 ei hun. Er bod y perchennog yn dweud nad yw ei rieni yn gyrru, gall pethau newid a byddai unrhyw ymwelwyr mewn unrhyw achos yn arwain at fwy o draffig. Gyda thai newydd, mae'r ddarpariaeth parcio fel arfer yn gorfod cyfateb i nifer yr ystafelloedd gwely - tair llofft, tri lle parcio. Pwysleisiodd Mr Evans fod yr ardal eisoes yn brysur a dywedodd ei fod yn deall bod y perchennog sy'n byw drws nesaf yn rhedeg busnes carpedi gyda lorïau yn danfon carpedi yn ogystal â busnes trin gwallt hefyd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at y prif ystyriaethau cynllunio fel y nodir yn adroddiad y Swyddog a dywedodd, gan fod safle’r cais mewn lleoliad cefn gwlad agored gyda dim ond ychydig o eiddo preswyl cyfagos a gan na fydd unrhyw faterion o or-edrych yn deillio o'r newid defnydd arfaethedig, ni ystyrir y bydd y cynnig yn cael unrhyw effaith negyddol ar fwynderau preswyl cyfagos. Byddai caniatâd yn amodol ar ddefnyddio’r anecs arfaethedig bob amser at ddibenion ategol i'r prif annedd. Rhybuddiodd yn erbyn rhagdybio ynghylch y defnydd posibl o'r adeilad yn y dyfodol wrth ddod i benderfyniad gan ddweud bod amodau'n cael eu gosod am reswm er mwyn sicrhau bod datblygiad yn digwydd yn unol â hynny. Mae'r ymgeisydd wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer y garej sy’n adeilad o safon uchel a does dim o'i le ar gael garej a/neu weithdy o safon i gyd-fynd â'r prif annedd, sef yr hyn y mae polisi a dyluniad yn ei annog. Bydd dŵr budr yn cysylltu â'r tanc septig presennol gyda dŵr wyneb yn cysylltu â'r suddfan dŵr presennol; nid yw Dŵr Cymru wedi codi unrhyw wrthwynebiad i'r trefniadau. O ran parcio, mae'r eiddo yn eiddo ar wahân gyda lôn breifat a'r ardd o'i gwmpas sy’n darparu digon o le parcio ac nid oes gan yr Awdurdod Priffyrdd wrthwynebiadau iddo. Mae'r ymgeisydd wedi cynnig cyfiawnhad ar gyfer yr anecs ac mae Adran Treth Cyngor y Cyngor wedi cadarnhau bod yr ymgeisydd yn byw yn y brif annedd yn barhaol ac yn talu Treth Cyngor llawn. Mae'r cyfiawnhad a ddarperir ynghyd â natur fach y datblygiad a'i ddefnydd ategol i'r prif annedd yn sicrhau na fydd yn cael fawr o effaith ar eiddo cyfagos ac felly, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Lleol ei bod wedi galw'r cais i mewn oherwydd bod hanes i'r safle gan ddweud ei bod wedi ymweld â'r eiddo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar dri achlysur i weld ymwelwyr yn aros ar y safle. O ystyried bod y polisi presennol yn ei gwneud hi'n anodd gwrthod y cais gofynnodd i'r Pwyllgor sicrhau, os caiff y datblygiad ei gymeradwyo, y cedwir yn gaeth at yr amodau a osodwyd i sicrhau bod yr anecs yn parhau felly ac nad yw'n dod yn annedd annibynnol ychwanegol yng nghefn gwlad. Anogodd y Pwyllgor i ddarllen y cais yn ofalus, er mwyn sicrhau bod yr amodau'n cael eu cadw ac os oes angen, eu bod yn mynd allan i ymweld â safle'r cais.

 

Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu sicrwydd bod amod (3) yn cyfyngu ar y defnydd o'r anecs arfaethedig i ddibenion ategol i’r defnydd preswyl a wneir o’r prif annedd ac fe gadarnhaodd nad yw'r eiddo bellach wedi'i restru ar Airbnb nac ar coolstays.com gyda'r ymgeisydd wedi rhoi cyfiawnhad ei bod yn breswylfa barhaol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Robin Williams a yw’r Dreth Cyngor yn cael ei thalu ar yr anecs, eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y Dreth Gyngor yn cael ei thalu ar y brif annedd gyda'r anecs fel rhan ategol o un uned breswyl. Bwriad yr ymgeisydd yw i'r anecs ddarparu llety i'w rieni ac o'r herwydd byddai'n parhau fel rhan ategol o'r brif annedd breswyl ac ni fyddai'n destun Treth Cyngor ar wahân. Wrth ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Robin Williams ynglŷn â'r gwaith o fonitro'r trefniant, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu na fyddai'r Gwasanaeth Cynllunio yn gallu plismona pob caniatâd cynllunio ar draws yr Ynys a bod unrhyw gwynion am dorri amodau yn gorfod cael eu trin ar y pryd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jackie Lewis at yr hyn a gasglodd o sylwadau'r Siaradwr Cyhoeddus fel busnesau sy'n cael eu rhedeg o'r safle, a holodd os oedd hynny’n wir, os felly a oedd angen gwneud unrhyw ddarpariaeth ychwanegol ac a oedd angen ymchwilio ymhellach.

 

Gan nad oedd y Gwasanaeth Cynllunio yn ymwybodol fod unrhyw fusnes yn cael ei redeg o'r eiddo, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu nad oedd hynny wedi cael ei ystyried. Fel y dywedwyd yn flaenorol, byddai amod ar y caniatâd yn cyfyngu ar y defnydd o'r anecs. Mewn ymateb i gwestiwn am greu ystafell wely ychwanegol yn yr anecs fyddai’n golygu bod angen darparu lle parcio ychwanegol, ailadroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod gan yr eiddo lôn breifat fawr ac nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi codi unrhyw bryderon ar y sail honno.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Robin Williams i’r Siaradwr Cyhoeddus egluro o ble’r oedd y busnesau yr oedd wedi cyfeirio atynt yn cael eu rhedeg. Yn ôl Mr R.Meirion Jones, pan gwynodd am y mater hwn ym mis Awst, tynnwyd y cais yn ôl ac ar ôl hynny dywedodd yr ymgeisydd ei fod yn byw yn yr eiddo'n barhaol. Mae'r ymgeisydd yn byw drws nesaf i ble mae'n rhedeg busnes carpedi a busnes trin gwallt. Cafodd Monfa ei osod fel llety Airbnb ar hyd haf diwethaf ond cafodd ei dynnu oddi ar y rhestr dros y gaeaf. Cafodd ei hysbysebu fel llety i bobl anabl sy'n golygu y gallai rhieni'r ymgeisydd fyw yn yr eiddo heb fod angen anecs. Dywedodd Mr Jones nad oes angen addasu'r garej gan ei fod wedi bod yn anecs o'r dechrau.

 

Yn dilyn hynny, cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, gan fod ganddo bryderon am yr hyn oedd mewn gwirionedd yn digwydd ar safle’r cais, ac i roi eglurder ar y mater, y dylid ymweld â’r safle fel y gallai aelodau'r Pwyllgor weld y safle drostynt eu hunain. Roedd y Cynghorydd Geraint Bebb, yn rhannu'r un pryderon, ac eiliodd y cynnig.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle corfforol am y rheswm a roddwyd.

 

13.5 FPL/2022/256 – Cais Llawn ar gyfer codi 33 o dai fforddiadwy, mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, adeiladu ffordd newydd i’r stad ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Crown Street, Gwalchmai

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y ddau Aelod Lleol.

 

Gan siarad fel Aelod Lleol, gwnaed cais gan y Cynghorydd Neville Evans ac aelod o'r Cyngor Cymuned i ymweld â’r safle o ystyried cryfder y teimladau yn lleol ynglŷn â'r cais a’r pryderon a godwyd ynglŷn â maint y datblygiad a'r cymysgedd o unedau ymysg materion eraill.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid ymweld â’r safle, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd John I. Jones.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle corfforol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

13.6 FPL/2022/85 - Cais llawn am estyniad i’r cwrs golff presennol i greu cwrs pytio 'PuttStroke' ynghyd â chodi adeilad clwb, adeilad bar a lluniaeth, adeilad lluniaeth ‘tŷ hanner ffordd’, bloc toiledau a datblygiad cysylltiedig yng Nghlwb Golff Llangefni , Llangefni

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod tir y cais yn eiddo i'r Cyngor.

 

Siaradwr Cyhoeddus (Cefnogwr)

 

Dywedodd Mr Mathew Wharton, yr ymgeisydd a'r PGA Proffesiynol ar gwrs Golff Llangefni ei fod wedi cymryd y cyfrifoldeb o redeg y cwrs golff gan y Cyngor yn 2018. Roedd y cwrs wedi bod yn gyfleuster hynod lwyddiannus nid yn unig o ran datblygu'r gêm golff ar ôl i gwrs golff y Cyngor gau ond hefyd trwy sefydlu academi iau a gweithio gydag asiantaethau perthnasol i ddarparu hyfforddiant i blant difreintiedig, plant ysgol yn ogystal â dysgu oedolion ag anawsterau dysgu. Mae'r Popty Pitsa hefyd wedi ei sefydlu'n llwyddiannus yn yr hen siop golff ac mae llawer o bobl leol yn cael eu cyflogi yn y busnes. Y cynnig a gyflwynir yw ymestyn y cynnig ar y safle i deuluoedd a phlant i greu cwrs pytio 'PuttStroke' newydd, tŷ clwb bach, tŷ hanner ffordd, cynllun tirweddu a bloc toiledau, a'r gred yw mai hwn fydd y cyfleuster cyntaf o'i fath yn y DU. Mae Môn Actif wedi ysgrifennu llythyr o gefnogaeth yn dweud y byddan nhw'n annog ysgolion lleol i ddefnyddio'r cyfleuster i gyflwyno sgiliau symud sylfaenol a hwyliog a thechneg golffio sylfaenol. Mae hyn yn tanlinellu holl ethos y cynllun o ddarparu cyfleuster hwyliog a fydd yn agored i aelodau'r teulu mewn amgylchedd diogel a phleserus. Mae'r cynnig yn golygu buddsoddiad sylweddol yno - cafwyd perthynas ardderchog gyda'r Cyngor wrth ddatblygu'r busnes hyd yma. Roedd yn gobeithio y byddai'r Pwyllgor yn cefnogi argymhelliad y Swyddog ac yn cymeradwyo'r datblygiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod safle'r cais wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu Llangefni ar dir sy'n gysylltiedig â'r cwrs golff presennol ac yn gyfagos iddo. Mae bwyty pitsa eisoes ar y safle ac mae Oriel Môn gerllaw. Gan nad yw safle'r cais wedi ei leoli o fewn y ffin ddatblygu mae'n rhaid i'r cynnig gael ei ystyried yn erbyn polisïau cynllunio eraill. Ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol o ran cynllun a dyluniad ac felly mae’n cyd-fynd â darpariaethau polisïau PCYFF3, PCYFF 4 ac AMG 5. Mae'r cynnig yn creu cyfleusterau ychwanegol i'r rhai sydd eisoes ar y safle ac fe fyddan nhw'n denu teuluoedd a'u plant yn ogystal â thwristiaid i'r ardal. Trawsnewidiwyd y safle gan yr ymgeisydd ers 2018 a bydd y cynnig yn cyflwyno rhywbeth newydd ac unigryw i'r safle a'r ardal ac yn sgil ei natur, ei leoliad, ei gynllun, ei ddyluniad a'i edrychiad ystyrir ei fod yn cyd-fynd â darpariaethau polisïau PS14 a TWR 1. Felly mae'r Swyddog yn argymell cymeradwyo'r cais.

 

Wrth gynnig bod y cais yn cael ei gymeradwyo, cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at safon ragorol y cwrs presennol a sefydlwyd ers 2018; cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE am yr effaith bosibl ar gaffi Oriel Môn, dywedodd y Rheolwr Datblygu fod y cais ar gyfer cwrs pytio 'PuttStroke' a chyfleusterau golff ac yn cynnig darpariaeth wahanol i'r hyn sydd ar gael gan Oriel Môn ac y byddai'n debygol o apelio at farchnad a chwsmeriaid gwahanol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad yn amodol ar yr amodau cynllunio a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: