Eitem Rhaglen

Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2012/13

Cyflwyno drafft o’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol am 2012/13.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr yn ymgorffori’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft (DLlB) ar gyfer blwyddyn ariannol 2012/13 er ystyriaeth y Pwyllgor a’i sylwadau ynghyd â Chynllun Gweithredu Llywodraethu ar gyfer 2013/14 oedd yn nodi’r prif faterion llywodraethu oedd angen sylw yn y flwyddyn i ddod.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y drafft cyfredol o’r DLlB oedd yn cael ei gyflwyno yn parhau yn y cyfnod ymgynghori a’r cyfnod herio a bydd yn cael ei anfon ymlaen i Swyddogion ac Aelodau am eu sylwadau cyn y deuir â fersiwn derfynol yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio am ei gymeradwyaeth yn ei gyfarfod ym mis Medi.

 

Gan gymryd i ystyriaeth sylwadau a wnaed gan Mr Andy Bruce ynglŷn â gwerthusiad Swyddfa Archwilio Cymru o DLlB yr Awdurdod (cyfeirier at eitem 5) aeth y Pennaeth Gwasanaeth yn ei flaen i roi cyflwyniad gweledol i’r Aelodau oedd yn amlygu rhai o’r heriau gyda llunio’r DLlB 2012/13 wrth i’r awdurdod ddod allan o gyfnod o ymyrraeth yn nhermau rheoli’r newidiadau a mynd i’r afael â materion mewn perthynas â’r fframwaith lywodraethu ddarniog bresennol a allai fod wedi cael ei datblygu sawl gwaith dros gyfnod yr ymyriad gyda hynny’n golygu nad ydynt o anghenraid yn gysylltiedig â weledigaeth y Cyngor; nifer o safbwyntiau a’r diffyg system i werthuso effeithiolrwydd a chyfyngiadau amser.

 

Yn dilyn hynny, mae argymhellion wedi eu llunio nid yn unig mewn perthynas â chryfhau llywodraethiant corfforaethol yr Awdurdod ond hefyd o safbwynt gwella ymarferion gweithio o ran coladu gwybodaeth, ehangu’r fframwaith llywodraethu a llyfnhau hunanasesiadau.  Mae gweithgor o swyddogion wedi ei sefydlu i hwyluso’r broses hon.  Cyfeiriodd at yr hyn a ddisgwylir gan y Pwyllgor Archwilio mewn perthynas â’i gyfrifoldebau trosolwg a’i ddyletswydd i gael sicrwydd ynglŷn â chadernid fframwaith lywodraethu’r Awdurdod a threfniadau ac i fonitro cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu Llywodraethu.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau holi’r swyddog ar gynnwys y DLlB ac a oedd ei ddisgrifiad o’r trefniadau llywodraethu’n rhoi cyfrif digonol a chywir o’r trefniadau hynny a hefyd a oedd yn taro’r nodau allweddol o ran materion llywodraethu sylweddol.  Roedd yr Aelodau am gael eglurhad ar y datganiad a thra eu bod yn derbyn y DLlB fel adlewyrchiad o’r trefniadau llywodraethu oedd yn eu lle ar y pryd roeddent yn nodi y gallai fod yn fwy penodol mewn mannau yn arbennig o ran monitro perfformiad ac o ran gosod targedau sydd wedi eu diffinio’n glir ac sydd yn dangos penderfyniad i wella ar berfformiad y flwyddyn flaenorol.  Roedd yr Aelodau hefyd yn awyddus i wybod a fyddai’r Cynllun Gweithredu yn cael ei rannu’n gyfnodau amser ac yn ddeilliannau penodol gyda hynny’n ei gwneud yn haws i’r Pwyllgor Archwilio fonitro cynnydd trwy iddo fod yn gwybod beth yw’r deilliannau a ddymunir a hefyd y cyfnod amser ar gyfer eu cyflawni.

 

Penderfynwydnodi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft am 2012/13 ynghyd â’r sylwadau a wnaed ynglŷn â diffinio targedau yn well o fewn y Datganiad.

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI: Y Dirprwy Brif Weithredwr i roi diweddariad yn rheolaidd i’r Pwyllgor Archwilio ynglŷn â’r Cynllun Gweithredu Llywodraethu.

 

Dogfennau ategol: