Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Ynys Môn gan GwE 2021/2022

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer Ynys Môn 2021/2022.

 

Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Adroddiad Blynyddol GwE yn amlygu’r gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2021/22. Nododd hefyd fod yr adroddiad yn cyfeirio at y rhaglen waith a’r cymorth a dderbyniodd ysgolion gan yr awdurdod lleol a GwE yn ystod y pandemig i liniaru’r effaith ar ddisgyblion. Roedd yr Arweinydd yn dymuno diolch i gynrychiolwyr GwE am y cymorth a’r arweiniad sy’n cael ei roi ganddynt i ysgolion yn ddyddiol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid fod gorgyffwrdd rhwng y Portffolio Addysg a’r Portffolio Gwasanaethau Plant mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a’u hanghenion addysgol. Nododd fod yr adroddiad yn trafod ymwybyddiaeth o drawma a bod tair ysgol gynradd yn cael eu nodi fel ysgolion sy’n ystyriol o drawma. Ychwanegodd fod perthynas weithio agos yn bodoli gyda GwE ers bron i ddeg mlynedd ac mae’r adroddiad yn amlygu nid yn unig yr elfennau addysgol, ond materion lles a gafodd eu cynnal yn ystod y pandemig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr Awdurdod Lleol yn gweithio mewn partneriaeth agos ac effeithiol gyda GwE. GwE yw’r consortiwm addysg rhanbarthol ar gyfer gogledd Cymru ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â gwasanaeth Dysgu Ynys Môn o ran gwella ysgolion, rhannu arfer da, gwybodaeth a sgiliau, gwella cryfderau a datblygu capasiti. Mae adroddiad Estyn ar yr arolygiad o Wasanaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2022 yn amlygu’r gwaith partneriaeth. Nododd fod Estyn, yn ystod yr arolygiad, wedi nodi dau argymhelliad i’r Awdurdod Lleol eu rhoi ar waith, sef cryfhau prosesau ar gyfer arfarnu effaith gwaith y Gwasanaeth Dysgu a datblygu a chryfhau trefniadau sgriwtini ffurfiol. Mae’r Panel Sgriwtini Addysg yn craffu’n rheolaidd ar waith y Gwasanaeth Dysgu (gan gynnwys gwaith GwE). Fodd bynnag, i gryfhau’r broses sgriwtini, ac ymateb i argymhellion Estyn, mae’r Pwyllgor hwn yn craffu ar waith y Gwasanaeth Dysgu a’i bartneriaid yn flynyddol. Ychwanegodd fod y gwasanaeth dysgu’n wynebu cyfnod o newidiadau sylweddol, gyda Chwricwlwm newydd a’r Ddeddfwriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, ynghyd â heriau ariannol, recriwtio staff a’r ymateb yn dilyn covid. Fel rhan o’r diwygiadau hyn, mae’r broses atebolrwydd yn esblygu, gan gynnwys adrodd ar addysg a chraffu arno, ac mae hyn yn cynnwys perfformiad ac effeithiolrwydd ysgolion. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc hefyd at y Canllawiau Gwella Ysgolion newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac a fydd yn statudol o fis Medi 2024. Bydd y canllawiau’n cryfhau systemau atebolrwydd, gydag ysgolion yn cael eu dal i gyfrif yn uniongyrchol gan eu cyrff llywodraethu ac Estyn am ansawdd y ddarpariaeth a chynnydd dysgwyr. Yn ogystal, mae’r canllawiau’n nodi’n glir fod pob partner yn rhan o’r broses, ac mae atebolrwydd clir ar y gwasanaethau cymorth megis y Gwasanaeth Dysgu a GwE. Bydd angen cydweithio agos rhwng Awdurdod Lleol Ynys Môn a GwE wrth ddarparu cefnogaeth yn seiliedig ar y blaenoriaethau gwella yng nghynllun datblygu pob ysgol. Gall y Pwyllgorau Sgriwtini graffu ar effeithiolrwydd y cydweithio rhwng yr Awdurdod Lleol a GwE a monitro’r gwaith o gefnogi a gwella ysgolion sy’n peri pryder.

 

Adroddodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE fod Adroddiad Blynyddol 2021/22 yn amlinellu sut y bu i staff GwE addasu eu gwaith yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau effeithiol a chefnogi ysgolion yn ystod y pandemig. Mae’r adroddiad hefyd yn disgrifio sut y mae GwE wedi parhau i gefnogi ysgolion wrth iddynt baratoi ar gyfer y Daith Ddiwygio a’r Cwricwlwm newydd i Gymru a gwella ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth, llesiant a’r Gymraeg. Nododd fod cydnabyddiaeth o’r angen i gyflwyno Adroddiad Blynyddol GwE yn gynt yn rhaglen waith sgriwtini’r Awdurdod.

 

Wrth ystyried Adroddiad Blynyddol GwE – Cyngor Sir Ynys Môn 2021/22 trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd at iechyd a llesiant plant a phobl ifanc. Gofynnwyd pam nad yw addysg gorfforol yn cael ei adnabod fel pwnc craidd yn y cwricwlwm newydd?

 

Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE mai nod y Cwricwlwm newydd i Gymru yw sicrhau unigolion iach a chryf a llesiant plant a phobl ifanc. Gall yr awdurdod lleol ac ysgolion sefydlu rhaglen leol i gwrdd ag anghenion ysgolion unigol a’u disgyblion. Dywedodd Arweinydd Craidd GwE ar gyfer Ynys Môn fod iechyd a llesiant wedi’i gynnwys yn y chwe maes dysgu yn y Cwricwlwm newydd a bod staff yn yr ysgolion yn derbyn cymorth i amlygu addysg gorfforol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y gwasanaeth Addysg a’r Gwasanaethau Hamdden yn gweithio’n agos i wella iechyd a llesiant plant a sefydlwyd Is-grŵp rhwng y ddau wasanaeth i hyrwyddo addysg gorfforol yn yr ysgolion ledled yr Ynys. Nododd hefyd fod cyfleoedd i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol sy’n hyrwyddo byw’n iach ac mae yna gyfleusterau chwaraeon lleol hefyd h.y. clybiau pêl-droed a rygbi, sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn chwaraeon.

 

·      Sut ydym yn gwybod beth yw’r safonau yn ysgolion Ynys Môn?

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Adroddiad Blynyddol yn cyfeirio at hunanasesiadau mewn ysgolion a gofynnodd pa mor wrthrychol yw ysgolion wrth iddynt gynnal eu hunanasesiadau eu hunain. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE fod cynrychiolwyr o GwE yn ymweld ag ysgolion ledled yr Ynys yn rheolaidd, ac, ers mis Medi 2022, ailsefydlwyd trefniadau mewn ysgolion yn dilyn y pandemig. Nododd fod Ynys Môn wedi sefydlu ‘clystyrau’ sy’n caniatáu i ysgolion asesu ei gilydd a chraffu ar berfformiad yn yr ysgolion sy’n rhan o’r clwstwr penodol hwnnw. Nododd fod GwE yn rhannu’r wybodaeth gyda’r Gwasanaeth Addysg i asesu pa ysgolion sydd angen cymorth penodol. Cyfeiriodd at y cwestiwn ynghylch sut y caiff safonau ysgolion eu hasesu a nododd fod safonau pob ysgol unigol yn cael eu hasesu, ynghyd â data canlyniadau arholiadau yn yr ysgolion uwchradd. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod angen i ysgolion fod yn hunangynhaliol ac mae angen cymorth ar Brifathrawon i ddarparu’r profiadau addysg gorau. Dywedodd fod cydweithio gyda sefydliadau partner a llywodraethwyr ysgol yn hanfodol i godi safonau mewn ysgolion. Ychwanegodd ei fod yn falch o gydnabyddiaeth Estyn fod y cydweithio gyda sefydliadau partner yn cael ei ystyried yn gymorth gwerthfawr i ysgolion ar Ynys Môn. Dywedodd fod yr awdurdod lleol wedi elwa o’r bartneriaeth gyda GwE hefyd er mwyn cynnig gwasanaethau a hyfforddiant penodol mewn ymateb i anghenion ysgolion unigol a’u blaenoriaethau.

 

·      Nodwyd bod ysgolion Ynys Môn yn coladu data asesiadau yn unigol. Gofynnwyd a oes angen gweithredu system safonol i gasglu data asesiadau?

 

Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE fod pob ysgol yn gosod ei gweledigaeth ei hun mewn perthynas â’r Cwricwlwm newydd i gwrdd ag anghenion y disgyblion. Serch hynny, ceir asesiadau craidd sy’n cael eu safoni ym mhob ysgol i fonitro cynnydd academaidd. Nododd fod y Cwricwlwm yn cwmpasu oedran 3 - 16 a bod asesiadau’n cael eu cwblhau pan fydd disgyblion yn trosglwyddo o’r cynradd i’r uwchradd. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Sector Uwchradd) fod cyhoeddiad wedi’i wneud yn ddiweddar ynghylch creu ecosystem i goladu gwybodaeth ym mhob ysgol. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd mewn perthynas â’r data perthnasol y mae angen ei gasglu a bydd hyn yn caniatáu i Lywodraethwyr fonitro cynnydd yn eu hysgolion.

 

·      Yn dilyn adroddiad negyddol gan Estyn ar un o ysgolion cynradd Ynys Môn yn ddiweddar yn ymwneud â phryderon am gyfathrebu yn y Gymraeg yn yr ysgol benodol hon, gofynnwyd a fyddai GwE yn gallu cefnogi’r ysgol benodol hon i wella datblygiad yr iaith Gymraeg.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cynllun ymyrraeth ar waith mewn perthynas â’r ysgol gynradd hon a dderbyniodd adroddiad negyddol gan Estyn. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda GwE, Llywodraethwyr yr ysgol a staff yr ysgol er mwyn cefnogi pecyn gwella yn yr ysgol. Bydd rhaid i’r ysgol ddarparu adroddiadau cynnydd yn erbyn yr argymhellion penodol i Estyn, yr Awdurdod a GwE.

 

·      Gofynnwyd cwestiynau am y gefnogaeth a roddir i ysgolion sydd â chanran uchel o blant o gefndiroedd difreintiedig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y caiff cyfarfodydd eu cynnal yn rheolaidd gyda’r Gwasanaethau Plant ac mae staff penodedig yn cefnogi’r ysgolion sydd â chanran uchel o blant o gefndiroedd difreintiedig. Nododd fod rhaglen ‘Prydau Ysgol am Ddim’ mewn ysgolion ac mae’r rhaglen hon hefyd yn cynorthwyo i gefnogi teuluoedd y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio arnynt.

 

·      Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad yn ddiweddar, nodwyd fod nifer y siaradwyr Cymraeg ar yr Ynys wedi gostwng. Gofynnwyd sut mae GwE yn gweithio yn yr ysgolion i ymateb i’r targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

 

Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE fod y Gymraeg yn ganolog i waith GwE. O ran siarad Cymraeg, nododd fod y pandemig wedi effeithio ar blant o gartrefi Saesneg eu hiaith, a phlant ieuengach yn arbennig, gan nad oedd y plant yn clywed y Gymraeg yn ddyddiol yn ystod y cyfnod hwnnw am eu bod gartref. Dywedodd fod GwE a’r awdurdod lleol wedi bod yn gweithio’n agos â Phrifysgol Bangor ar y prosiect Llais Ni. Roedd blwyddyn gyntaf y prosiect yn llwyddiannus a nodwyd arferion da ledled gogledd Cymru. Mae’r Gymraeg fel ail iaith yn cael ei datblygu mewn rhanbarthau eraill hefyd i ymateb i darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

·      Sut mae sicrhau fod pob plentyn ar Ynys Môn yn cael yr un cyfleoedd ac addysg â phlant eraill mewn clystyrau gwahanol ar yr Ynys ac mewn ardaloedd eraill yng Nghymru?

 

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y bydd heriau wrth drosglwyddo o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, lle ceir unffurfiaeth o ran yr hyn sy’n cael ei addysgu, i’r Cwricwlwm newydd. Nododd y bydd rhaid i bob ysgol gyhoeddi eu safonau, eu darpariaeth a’u blaenoriaethau er mwyn gwella safonau’r addysg a ddarperir i ddisgyblion.

 

·      Yn sgil y Fframwaith Atebolrwydd newydd, beth yw’r dulliau gorau o graffu ar addysg?

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr (Sector Uwchradd) fod rôl i Lywodraethwyr Ysgol fonitro atebolrwydd ysgolion a herio Penaethiaid yr ysgolion. Fodd bynnag, rôl Aelodau Etholedig yw herio swyddogion yr Awdurdod, yr Aelod Portffolio a GwE mewn perthynas â monitro effeithiolrwydd ysgolion o fewn y Fframwaith Atebolrwydd newydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer Ynys Môn 2021/22.

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: