Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.
Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru ar gynnydd y Panel Sgriwtini Addysg. Dywedodd y Cynghorydd Gwilym O Jones, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, mai hwn yw ail adroddiad cynnydd y Panel ac mae’n ymwneud â Chwarter 2 y flwyddyn weinyddol bresennol. Nododd fod dwy ran o dair o aelodau’r Panel yn aelodau newydd a gafodd eu hethol am y tro cyntaf yn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Felly, mae’n rhaid i’r Cyngor barhau i greu’r amodau i bob Aelod gyfrannu’n llawn at waith craffu’r Panel e.e. sgiliau ar gyfer craffu a chwestiynu effeithiol, dealltwriaeth o’r gyfundrefn Addysg, codi ymwybyddiaeth am ffrydiau gwaith cenedlaethol ym maes addysg, a’r bwriad yw manteisio i’r eithaf ar y rhaglen waith i sicrhau mewnbwn a chefnogaeth briodol ac amserol i gefnogi aelodau’r Panel Sgriwtini Addysg. Ychwanegodd y Cynghorydd Jones fod y Panel wedi cyfarfod pum gwaith yn ystod Chwarter 2 ac ystyriwyd y materion canlynol:-
· Adroddiad Arolygiad Estyn ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn
· Cwricwlwm i Gymru
· Cysgodi GwE
· Rôl a Disgwyliadau’r Fframwaith Rheoleiddio – Arweinyddiaeth Wleidyddol a Sgriwtini
· Cylch Gorchwyl a Chyd-destun Gwaith y Panel
· Canllawiau Gwella Ysgolion – Fframwaith ar gyfer Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd (Llywodraeth Cymru)
· Rôl Aelodau Etholedig, Llywodraethwyr Ysgol a’r broses ar gyfer ysgolion sy’n peri pryder
· Adroddiad Blynyddol GwE ar Ynys Môn: 2021/2022
· Rhaglen waith y Panel Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Medi 2022 – Ebrill 2023
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Panel wedi bod yn gefnogol o waith y Gwasanaeth Addysg ac mae datblygu addysg plant a phobl ifanc yn flaenllaw yng ngwaith y Panel.
Wrth ystyried Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Addysg, trafododd y Pwyllgor y canlynol:-
· I ba raddau y mae’r Pwyllgor Sgriwtini yn fodlon â chyfeiriad cychwynnol gwaith y Panel?
Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg fod Swyddogion Addysg a’r Rheolwr Sgriwtini yn cynghori ac yn cynorthwyo’r Panel yn ei waith. Nododd fod y Panel yn craffu ar yr adroddiadau a gyflwynir i’r Panel a bydd rhagor o waith yn cael ei wneud mewn rhai meysydd yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Nododd fod cynrychiolwyr o Estyn a GwE wedi mynychu cyfarfodydd i gefnogi gwaith y Panel.
· Ym marn y Pwyllgor Sgriwtini, pa feysydd eraill y mae angen i’r Panel Sgriwtini Addysg graffu arnynt?
Gan fod dwy ran o dair o aelodau’r Panel yn newydd, dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg fod trafodaethau wedi’u cynnal ynghylch darparu rhaglen ddatblygu i wella sgiliau Aelodau mewn perthynas â gwaith y Panel. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini y bydd rhaglen ddatblygu bwrpasol yn cael ei rhoi ar waith, mewn cydweithrediad â Chadeiryddion y tri Phanel Sgriwtini, gan dargedu’r Panel Sgriwtini Addysg yn y lle cyntaf. Nododd fod arbenigedd cyllid wedi’i gomisiynu ar gyfer y Panel Sgriwtini Cyllid er mwyn caniatáu i’r Panel graffu ar gyllidebau ariannol y Cyngor ac ati. Y gobaith yw cynnig rhaglen gymorth debyg i’r ddau Banel arall maes o law. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd yn ofynnol i’r Panel Sgriwtini Addysg gynnwys y Cwricwlwm newydd i Gymru ar ei flaen raglen waith, yn ogystal â chasglu gwybodaeth i sicrhau fod y cyfnodau allweddol yn cael eu cyflawni er mwyn rhoi sylw i lythrennedd a rhifedd yn yr ysgolion, ynghyd ag adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cyfeiriad y gwasanaeth addysg yn datblygu’n barhaus, yn enwedig gyda’r Cwricwlwm newydd i Gymru a’r Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol. Nododd y bydd y Panel Addysg yn gallu craffu ar y cyfnodau allweddol yn y Cwricwlwm i Gymru a datblygu gwell perthynas gydag ysgolion ar yr Ynys, a gwahodd arweinwyr yr ysgolion i drafod y broses o gyflwyno’r Cwricwlwm newydd gyda’r Panel.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r cynnydd cychwynnol hyd yma mewn perthynas â gwaith y Panel Sgriwtini Addysg;
· Cefnogi’r bwriad i ddatblygu model sgriwtini ddiwygiedig ar gyfer materion Addysg fel sylfaen i waith y Panel Sgriwtini Addysg a’r ddau riant Bwyllgor Sgriwtini, fel y nodir yn Rhan 5, paragraff 2.7 yr adroddiad.
GWEITHRED: Fel y nodir uchod.
Dogfennau ategol: