Eitem Rhaglen

Monitro Cyllideb Refeniw - Chwarter 3, 2022/23

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2022/23 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid, ar 10 Mawrth, 2022, fod y Cyngor wedi gosod cyllideb ar gyfer 2022/23 gyda gwariant net o £158.365 miliwn, i'w ariannu o incwm Treth y Cyngor, Trethi Annomestig a Grant Cefnogi Refeniw Llywodraeth Cymru. Mae'r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2022/23, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa Treth y Cyngor, yn danwariant rhagamcanol o £1.970 miliwn sy'n cynrychioli 1.24% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2022/23. Mae cyllidebau Gwasanaethau Oedolion a Gofal Cymdeithasol Plant yn parhau i fod o dan bwysau ond mae hyn yn cael ei wrthbwyso gan danwariant mewn gwasanaethau eraill, yn arbennig Casglu a Gwaredu Gwastraff. Ceir mwy o wybodaeth am amrywiannau yn y gyllideb yn yr adroddiad manwl. Er yr adroddwyd ar y sefyllfa ar ddiwedd y trydydd chwarter, gellir rhagweld y manylion terfynol gyda mwy o sicrwydd, gallai digwyddiadau annisgwyl ddigwydd cyn diwedd y flwyddyn a gall Chwarter 4 fod yn gyfnod pan fo galw uchel a gallai'r naill a’r llall effeithio ar y safle altro terfynol.

 

Rhybuddiodd Aelod Portffolio Cyllid er y rhagwelir y bydd gwasanaethau’n gorwario £87k, mae Gwasanaethau Oedolion a Phlant wedi gorwario'n sylweddol fel y dangosir yn Nhabl 4 yn yr adroddiad. Yn ogystal â hyn, mae'r sefyllfa sylfaenol wedi ei chuddio gan nifer o eitemau untro (swyddi gwag, cyllid grant ychwanegol a defnydd o gronfeydd wrth gefn) sydd wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol, heb y rhain byddai gwir sefyllfa ariannol gwasanaethau'r Cyngor yn llawer gwaeth ac wedi gwanhau gwytnwch ariannol y Cyngor yn sylweddol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y diffyg ariannol yng nghyllidebau ysgolion ar gyfer cyflogau fel y nodir yn Nhabl 3 yn yr adroddiad oherwydd bod cyfanswm dyfarniadau cyflog i ysgolion yn uwch na'r hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer yn 2022/23. Er bod y pwysau hwn yn disgyn ar wasanaethau eraill hefyd, oherwydd bod cyllideb yr ysgolion yn cael ei dirprwyo byddai'n rhaid i'r gost ychwanegol ddod o falansau ysgolion fel arfer; rhagamcanir y bydd y rhain yn gostwng wrth i ysgolion barhau i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn i gydbwyso eu cyllidebau gan adael lleiafrif bychan o ysgolion heb unrhyw falansau o gwbl, neu bydd eu balansau’n isel iawn, tra bydd balansau gweddill yr ysgolion yn sylweddol is nag a welwyd yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf. Felly, bydd yn anodd i rai ysgolion ariannu'r costau cyflog ychwanegol o'u cronfeydd wrth gefn eu hunain heb ddyraniad pellach yn y gyllideb. Os felly ac o ystyried maint y diffyg o £1.074m, gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith argymell bod y Cyngor Llawn yn cau'r bwlch hwnnw gydag arian o gronfa gyffredinol y Cyngor gyda'r dyraniad ychwanegol i'w ddosbarthu i ysgolion drwy'r fformiwla ariannu.

 

Wrth gyfeirio at y gorwario ar Wasanaethau Oedolion a Phlant, fe gadarnhaodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, fod y galwadau ar y ddau wasanaeth wedi bod yn uchel. Roedd adolygiad gwerthuso perfformiad diweddar Arolygiaeth Gofal Cymru o Wasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn yn gadarnhaol ac yn adlewyrchu'r ffaith bod y Cyngor wedi bod yn buddsoddi yn y gwasanaethau hynny dros y blynyddoedd diwethaf i gryfhau'r ddarpariaeth ac i ymateb i'r galw.

 

Wrth bwyso a mesur yr adroddiad, dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Llinos Medi, ei bod yn bwysig llywodraethu a rheoli arian yn ddarbodus, fel bod y Cyngor yn gallu ymateb i amgylchiadau sy'n newid.

 

Penderfynwyd 

 

·                Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2022/23.

·                Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2022/23 y manylir arnynt yn Atodiad C;

·                Nodi’r modd y caiff costau asiantaethau ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2022/23 yn Atodiadau CH, D a DD;

·                Argymell i Gyngor Sir Ynys Môn y dylai’r Cyngor Llawn gymeradwyo symud £1.074m o falansau cyffredinol Cronfa’r Cyngor i gyllideb ddatganoledig ysgolion, i dalu costau cyflogau sy’n uwch nag y caniatawyd yn wreiddiol ar eu cyfer yn y gyllideb refeniw ar gyfer 2022/23;

·                Cymeradwyo trosglwyddo’r tanwariant net ar ddigartrefedd ac atal digartrefedd, sef amcangyfrif o £260k, i gronfa wrth gefn glustnodedig ar gyfer digartrefedd ac atal digartrefedd mewn blynyddoedd i ddod. Y rheswm am y tanwariant yw bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd sylweddol o £273k yn y grant Neb Heb Help.

 

 

Dogfennau ategol: