Eitem Rhaglen

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 3, 2022/23

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2022/23 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) am y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Rhagfyr, 2022, a oedd yn cynnwys refeniw a gwariant cyfalaf. Pwysleisiodd fod y CRT wedi'i glustnodi ac ni ellir defnyddio ei gronfeydd wrth gefn at ddibenion heblaw ariannu costau sy'n ymwneud â stoc tai'r Cyngor gan gynnwys datblygu tai newydd. Mae'r Cyngor wedi bod yn rhagweithiol dros nifer o flynyddoedd wrth wella a datblygu ei stoc tai fel yr adlewyrchir yn Atodiad 3 sy'n dangos bod 180 o unedau tai ychwanegol wedi'u cynllunio ar gyfer 2022/23 sy'n cynnwys nifer o gynlluniau tai newydd ar draws yr Ynys yn ogystal ag ail-brynu hen eiddo cynllun hawl i brynu.

Mae gwarged/diffyg refeniw y CRT ar ddiwedd Chwarter 3 yn dangos gorwariant o £544k o'i gymharu â'r gyllideb a broffiliwyd. Mae'r rhagolygon wedi’u hadolygu a rhagwelir gorwariant o £951k am y flwyddyn - ceir manylion pellach yn Atodiad A yn yr adroddiad. Mae'r gwariant cyfalaf £4,509k yn is na'r gyllideb a broffiliwyd. Mae'r gwariant a ragwelir ar gyfer y flwyddyn £4,891k yn is na'r gyllideb - ceir manylion pellach yn Atodiad B. Mae'r diffyg a ragwelir gan gyfuno refeniw a chyfalaf bellach yn £2,187k, £3,940k yn is na'r gyllideb yn bennaf oherwydd bod gwariant cyfalaf yn is na'r hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer. Roedd balans agoriadol cronfa wrth gefn y CRT yn £12,333k. Roedd y gyllideb ddiwygiedig yn caniatáu ar gyfer defnyddio £6,128k o’r balans hwn. Fodd bynnag, bydd y rhagolygon diwygiedig a nodir uchod yn defnyddio £2,187k yn unig. Mae hyn yn rhoi balans o £10,146k yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol fydd ar gael i ariannu gwariant CRT yn y dyfodol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Swyddogaeth| (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn amlinellu'r amrywiannau mwyaf arwyddocaol o ran gwariant cyfalaf a hefyd yn egluro'r rhesymau pam fod rhai cynlluniau wedi llithro, o bosibl oherwydd gwaith annisgwyl, oedi o ran cynllunio, materion yn ymwneud â thendro a/neu drafferth cael cymeradwyaeth gan asiantaethau allanol ar gyfer rhai agweddau ar gynllun.

Pwysleisiodd Pennaeth Gwasanaethau Tai fod costau uchel a phrinder contractwyr wedi cyfrannu'n sylweddol at y cynnydd yng ngwariant gwaith trwsio a chynnal a chadw gyda'r Uned Cynnal Tai yn dangos gorwariant o £749k ar ddiwedd Chwarter 3. Bu'n rhaid adolygu'r gyllideb ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw ymatebol cyn y flwyddyn ariannol nesaf i sicrhau y gwneir darpariaeth ddigonol. O ran cyfalaf, mae 49 o unedau tai newydd yn cael eu gosod yn y flwyddyn ariannol hon ac mae'r Gwasanaeth yn parhau i brynu 15 o hen dai’r cyngor yn ôl bob blwyddyn.

Penderfynwyd nodi'r canlynol –

 

·                Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2022/23.

·                Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2022/23.

 

Dogfennau ategol: