Eitem Rhaglen

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2023/24

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi'r cynigion manwl ar gyfer cyllideb refeniw 2023/24 i’r Pwyllgor Gwaith ei hadolygu’n derfynol a chytuno arni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid, ei bod yn ofynnol i'r Pwyllgor Gwaith gytuno ar nifer o faterion allweddol o ran cyllideb 2023/24. Bydd modd wedyn i’r argymhellion terfynol gael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth, 2023. Y materion y mae angen cytuno arnynt yw Cyllideb Refeniw y Cyngor a’r Dreth Gyngor wedi hynny am 2023/24; Strategaeth Ariannol Tymor Canol y Cyngor wedi’i ddiweddaru a defnyddio unrhyw gyllid untro i ategu’r gyllideb.

 

Cynigiodd y Pwyllgor Gwaith gyllideb o £172.438m am 2023/24 ac, o ystyried yr AEF dros dro o £123.555m, byddai’n rhaid codi'r Dreth Gyngor 5.00% a defnyddio £1.758m o falansau cyffredinol y Cyngor i gael cyllideb gytbwys. Cafodd y dull a gymerwyd o gyfuno arbedion a chynyddu'r Dreth Gyngor a defnyddio balansau i sicrhau cyllideb gytbwys ei gymeradwyo fel rhan o'r broses ymgynghori cyhoeddus ar Gynllun y Cyngor a chafodd ei gefnogi hefyd gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol pan ystyriodd gynigion cychwynnol y gyllideb yn ei gyfarfod ar 19 Ionawr, 2023. Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys cynnydd arfaethedig ym Mhremiwm y Dreth Cyngor ar gyfer ail gartrefi i 75% gyda’r incwm a geir yn cael ei ddefnyddio i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Fodd bynnag, ar 24 Chwefror cyhoeddodd y Cyflogwyr y cynnig cychwynnol ar gyfer cyflogau i'r Undebau mewn perthynas â'r dyfarniad cyflog i rai nad ydynt yn athrawon. Mae’r cynnig yn gynnydd cyfradd unffurf o £1,925 i’r holl weithwyr, gyda chynnydd o 3.88% ar gyfer yr holl weithwyr sydd ar bwynt cyflog (SCP) 43 ac uwch, gyda chynnydd o 3.5% i Uwch Swyddogion a’r Prif Weithredwr. Amcangyfrifir y bydd hyn yn cynyddu costau tua 7% o gymharu â’r 3.5% y caniatawyd ar ei gyfer yn y cynnig cychwynnol ar gyfer y gyllideb. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol o £2m ar y gyllideb. Ar ôl ystyried sut i ariannu'r gost ychwanegol hon, ac ar ôl dod i'r casgliad bod dod o hyd i arbedion gwerth £2m yn hwyr yn y broses o osod y gyllideb yn anymarferol a bod cynyddu'r Dreth Gyngor o 10% i dalu'r gost yn annerbyniol yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae'r Pwyllgor Gwaith yn cynnig y dylid defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor i dalu am y gost hon yn 2023/24 fel yr unig opsiwn realistig. Pwysleisiodd yr Aelod Portffolio fod yr opsiwn hwn yn bosibl oherwydd bod cyllid y Cyngor wedi cael ei reoli'n ddarbodus dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod, gan hynny, wedi adeiladu cronfeydd wrth gefn i lefel sy'n caniatáu i'r Cyngor dalu costau o'r fath heb amharu ar wasanaethau neu'r cyhoedd. Mae cael lefel ddigonol o gronfeydd wrth gefn nid yn unig yn fodd i ddiwallu anghenion cyfredol y Cyngor ond yn ei roi mewn sefyllfa well i allu delio â heriau'r dyfodol. Roedd felly'n hapus i gynnig y gyllideb i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ei bod yn ofynnol iddo osod cyllideb sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n cael ei ystyried yn gostau darparu gwasanaethau'r Cyngor am y flwyddyn ganlynol ac adrodd yr un peth i'r Cyngor. Mae'r gyfradd uchel o chwyddiant wedi bod yn ffactor o bwys ym mhroses gosod cyllideb 2023/24 ac er bod darpariaeth a ragamcanwyd ar gyfer chwyddiant wedi'i gwneud yn y cynnig drafft cychwynnol ar gyfer y gyllideb, bu'n rhaid addasu'r gyllideb ar gyfer y cynnig terfynol drafft oherwydd bod y cynnig tâl i rai nad ydynt yn athrawon yn uwch na’r hyn a ragamcanwyd. Mae gosod y gyllideb bob amser yn fater o sicrhau bod cydbwysedd rhwng rhagamcanu costau'r Cyngor mor gywir â phosibl heb wneud gorddarpariaeth a fyddai'n arwain at gynnydd uwch na'r angen yn y Dreth Gyngor. Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 at fân newidiadau yn y setliad cyllidebol terfynol a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth a oedd yn cynnwys cyllid ychwanegol o fewn y setliad oedd yn golygu bod £2,000 ychwanegol i Ynys Môn ac at drosglwyddo grant o £107k i gynorthwyo Awdurdod Tân Gogledd Cymru i dalu costau pensiwn uwch; mae'r Awdurdod Tân wedi cynyddu ei ardoll ar sail swm tebyg gan arwain at effaith sero-net ar gyllideb y Cyngor. 

 

Er bod gan y Cyngor ddigon o adnoddau wrth gefn i'w alluogi i ddefnyddio peth o'r arian hwnnw er mwyn cydbwyso'r gyllideb ar gyfer 2023/24, nid yw hon yn strategaeth gynaliadwy yn y tymor hir. Mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig a diweddarwyd ar gyfer 2024/25 a 2025/26 yn Nhabl 4 yn yr adroddiad sy'n seiliedig ar dybiaethau o ran chwyddiant, cyflog a'r setliad llywodraeth leol a allai newid wrth i 2024/25 ddod yn nes yn dangos y bydd angen gwneud gostyngiadau sylweddol yn y gyllideb gwariant refeniw net yn 2024/25 (dros £6.5 miliwn); er y gallai hyn gael ei wrthbwyso'n rhannol gan y defnydd pellach o gronfeydd wrth gefn, yr unig beth y mae’n ei wneud yw gohirio'r angen i wneud gostyngiadau yn y gyllideb yn 2025/26. Mae'r sefyllfa'n gwella yn 2025/26 gyda dim ond diffyg bychan yn y cyllid a ragwelir, ond mae hyn yn ddibynnol ar barhau â’r strategaeth i gynyddu’r Dreth Cyngor 5% y flwyddyn. Y gobaith yw y bydd yr economi'n gwella eleni i'r graddau ei fod yn caniatáu i Lywodraeth San Steffan gynyddu ei dyraniad i Lywodraeth Cymru a bod hynny yn ei dro yn arwain at well setliad i gynghorau yng Nghymru; Os na fydd pethau’n gwella, yna mae 2024/25 yn debygol o fod yn flwyddyn heriol yn ariannol.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robert Ll. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar drafodaethau'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror, 2023 o ran cynigion terfynol y gyllideb ddrafft a diolchodd i Swyddog Adran 151 a'i staff ac Aelod Portffolio Cyllid am y gwaith a oedd wedi'i wneud ar y broses o osod y gyllideb ac am eu mewnbwn yng nghyfarfodydd cyllideb y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Cadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi cwestiynu'r Swyddogion ac Aelod Portffolio Cyllid ynghylch gallu'r gyllideb i ymateb i bwysau a galw gwasanaethau; effaith y cynigion ar ddinasyddion Ynys Môn neu unrhyw grwpiau gwarchodedig a'r defnydd o gyllid a ryddhawyd o ganlyniad i newidiadau mewn ardollau a chyfraniadau i wasanaethau ar y cyd wedi i'r cynnig cychwynnol i'r gyllideb gael ei bennu. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried pa mor dderbyniol oedd cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor. Ar ôl cael sicrwydd a chyngor gan y Swyddogion a'r Aelod Portffolio, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu argymell y gyllideb arfaethedig o £172.548m ar gyfer 2023/24 gan gynnwys cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor a defnyddio arian o falansau cyffredinol i ariannu unrhyw fwlch rhwng y setliad dros dro a'r setliad terfynol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, ers cyhoeddi'r adroddiad cyllideb terfynol ar gyfer cyfarfod 28 Chwefror y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y cynnig cyllidebol wedi'i addasu a’i godi i £174.569m i adlewyrchu'r cynnig cyflog i rai nad ydynt yn athrawon, sef y gyllideb y gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith ei hargymell i'r Cyngor Llawn. 

 

Dywedodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith pa mor anodd oedd y broses o osod cyllideb 2023/24 a pha mor bwysig yw cael cronfeydd wrth gefn digonol sydd wedi golygu bod y Cyngor yn gallu cydbwyso'r gyllideb ar gyfer 2023/24 heb orfod gwneud toriadau pellach mewn gwasanaethau neu gynnydd uwch yn y Dreth Gyngor. Er y cydnabuwyd bod defnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso'r gyllideb yn risg, mae'r Pwyllgor Gwaith yn ymwybodol o effaith yr argyfwng costau byw ar aelwydydd ac yn cydnabod bod yn rhaid cynllunio'n ofalus cyn blwyddyn ariannol 2024/25 i weld beth arall y gellir ei wneud er mwyn diogelu trigolion Ynys Môn. I'r perwyl hwn awgrymwyd bod yn rhaid cael setliad gwell i lywodraeth leol i helpu’r cyngor hwn a chynghorau eraill i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol, cadw i fyny â thâl a chwyddiant ac i gynnal a/neu wella gwasanaethau. Nodwyd hefyd bod gorfod cynllunio mewn cyd-destun o ansicrwydd ynghylch setliadau ariannol y dyfodol yn anodd ac y byddai symud i fframwaith gosod cyllidebau mwy cyson dros dair blynedd yn hytrach nag un yn helpu cynghorau i wynebu heriau'r dyfodol yn well.

 

Diolchodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith ar y broses o osod y gyllideb ynghyd â'r adroddiadau eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb/cyllid ar agenda'r cyfarfod hwn ac ategwyd teimladau hynny gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd –

 

·    Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor fel y dangosir yn Adran 4 o Atodiad 1 ac Atodiad 2 yr adroddiad.

·         Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai'r Cyngor gadw o leiaf £8.6m o falansau cyffredinol;

·         Nodi sylwadau’r Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed, fel y nodir yn Adran 5 Atodiad 1;

·         Argymell i'r Cyngor llawn gyllideb net o £174.569m i'r Cyngor Sir a chynnydd, yn sgil hynny, o 5.00% (£68.40 – Band D) yn y Dreth Gyngor, gan nodi y câi penderfyniad ffurfiol, yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru a’r Cynghorau Cymuned, ei gyflwyno i'r Cyngor 9 Mawrth 2023;

·         Y bydd unrhyw wahaniaethau rhwng y setliad amodol a'r setliad terfynol yn cael eu haddasu drwy ddefnyddio'r arian wrth gefn cyffredinol sydd wedi ei gynnwys yng nghyllideb 2023/24, neu drwy gyfrannu i / o gronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor er mwyn gosod cyllideb gytbwys.

·         Awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn cyflwyno'r cynigion terfynol i'r Cyngor;

·         Cytuno y byddir yn gallu tynnu cyllid o'r gyllideb wrth gefn gyffredinol yn sgil unrhyw bwysau, na chawsant eu rhagweld, ar gyllidebau seiliedig ar alw yn ystod y flwyddyn ariannol;

·         Gofyn i'r Cyngor awdurdodi'r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o'r balansau cyffredinol os yw'r gyllideb wrth gefn gyffredinol wedi'i hymrwymo'n llawn yn ystod y flwyddyn;

·         Dirprwyo i'r Swyddog Adran 151 yr hawl i ryddhau cyllid o hyd at £50k o'r gronfa wrth gefn gyffredinol ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni ddylid caniatáu unrhyw eitem dros £50k heb ganiatâd o flaen llaw y Pwyllgor Gwaith;

·         Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn cynyddu i 75%, ac yn aros ar 100% ar gyfer cartrefi gwag.

 

Dogfennau ategol: