Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y gyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2023/24 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid fod Cyllideb Gyfalaf o £37.962 miliwn ar gyfer 2023/24 yn cael ei chynnig yn cynnwys cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2022/23, adnewyddu/newid asedau presennol, prosiectau untro newydd, y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion a'r Cyfrif Refeniw Tai i'w hariannu o gyfuniad o'r Grant Cyfalaf Cyffredinol, benthyciadau â chymorth a derbyniadau cyfalaf fel yr amlinellir yn Nhabl 1 yn yr adroddiad. Dangosir y rhaglen gyfalaf arfaethedig fanwl olaf yn Atodiad 2 yn yr adroddiad.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran151, pan fydd yr adroddiad alldro cyfalaf ar ddiwedd Chwarter 4 2022/23 yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith, bydd unrhyw symiau llithriad y gofynnwyd iddynt gael eu dwyn ymlaen i 2023/24 yn
destun cymeradwyaeth y Pwyllgor hwn ar yr adeg honno. Hefyd gellir sicrhau bod grantiau cyfalaf ychwanegol ar gael ac yn cael eu cynnwys wedi hynny o fewn y gyllideb gyfalaf sy'n golygu bod y gyllideb a'r rhaglen fel y'i cyflwynir yn fan cychwyn a bydd yn cael ei diwygio a'i diweddaru i adlewyrchu unrhyw gyllid ychwanegol a gafwyd.
Adroddodd y Cynghorydd Robert Ll. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol o gyfarfod y Pwyllgor ar 28 Chwefror, 2023 y cyflwynwyd cyllideb a rhaglen gyfalaf 2023/24 iddi, a chadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r rhaglen gyfalaf a’r cynlluniau arfaethedig yng nghyd-destun yr arian cyfalaf cyfyngedig ar gael ar gyfer y gronfa gyffredinol a’i fod wedi gofyn am eglurhad gan y Swyddogion a'r Aelod Portffolio ynghylch sut mae'r cynnig hwnnw’n hwyluso’r gwaith o sicrhau’r blaenoriaethau tymor canolig y Cyngor gan gydbwyso pwysau tymor byr yn ogystal â'r graddau y gall y Cyngor benderfynu ar ei flaenoriaethau a'i wariant cyfalaf ei hun. Ar ôl cael sicrwydd a chyngor ar y materion hynny, ac ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd, penderfynodd y Pwyllgor argymell y gyllideb gyfalaf arfaethedig o £37.962m i'r Pwyllgor Gwaith.
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan yr Arweinydd ynghylch y gostyngiad mewn adnoddau cyfalaf sy'n cyfyngu ar yr hyn y mae'r Cyngor yn gallu ei gyflawni o ran buddsoddi cyfalaf a phrin yn gallu gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol a bod angen felly cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru am fwy o gyllid cyfalaf, cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfod gyda rheoleiddwyr yn gynharach yn yr wythnos pan godwyd y mater hwn.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y rheoleiddwyr wedi cael cais i uwchgyfeirio'r mater o gyllid cyfalaf digonol i lefel genedlaethol gan ddweud hefyd, er bod y ffocws wedi bod yn bennaf ar wariant refeniw, bod buddsoddi yn asedau'r Cyngor a chynnal a chadw'r adeiladau y mae gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu darparu ohonynt yr un mor bwysig. Mae llawer o stoc adeiladau'r Cyngor wedi'i ddyddio ac angen eu huwchraddio gyda nifer o adeiladau ddim yn diwallu anghenion trigolion Môn yn y ffordd y byddai'r Cyngor yn dymuno. Hefyd mae chwyddiant uchel wedi erydu gwerth adnoddau cyfalaf y Cyngor ymhellach. Gofynnwyd i'r rheoleiddwyr ddod â'r mater hwn i sylw Llywodraeth Cymru i'w drafod ar lefel genedlaethol ar y sail bod sicrhau bod asedau'r Cyngor yn addas i'r diben yn hanfodol a bod y cyfrifoldeb yn mynd yn anos fyth ei gyflawni gyda'r cyllid sydd ar gael.
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn y Rhaglen Gyfalaf ganlynol ar gyfer 2023/24:
£’000
Cynlluniau 2022/23 a
Ddygwyd Ymlaen 12,373
Adnewyddu / Amnewid Asedau 5,682
Prosiectau Cyfalaf Un Tro Newydd 386
Ysgolion yr 21ain Ganrif 5,964
Cyfrif Refeniw Tai 13,557
Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf a
Argymhellir 2023/24 37,962
Cyllidir Drwy:
Grant Cyfalaf Cyffredinol 3,410
Benthyca â Chefnogaeth Cyffredinol 2,158
Benthyca â Chefnogaeth Ysgolion
21ain Ganrif 919
Benthyca Digefnogaeth Ysgolion
Yr 21ain Ganrif 2,797
Arian Wrth Gefn y CRT a’r Gwarged
yn ystod y flwyddyn 9,221
Benthyca Digefnogaeth CRT 0
Derbyniadau Cyfalaf 500
Grantiau Allanol 6,584
Cyllid 2022/23 a Ddygwyd Ymlaen 12,373
Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 37,962
Dogfennau ategol: