Eitem Rhaglen

Sefydlu Cyllideb 2023/24 - Cynigion Drafft Terfynol y Gyllideb Refeniw

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses o osod Cyllideb 2023/24 ynghyd â materion a chwestiynau allweddol ar gyfer Sgriwtini wrth i’r Pwyllgor arfarnu cynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb refeniw. Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /Swyddog Adran 151, a fydd gerbron y Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023, ynghlwm yn Atodiad 1, ac roedd yn amlinellu cynigion manwl y gyllideb refeniw ar gyfer 2023/24 er mwyn eu hadolygu a chytuno’n derfynol arnynt cyn cyfarfod y Cyngor Llawn ar 9 Mawrth.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a dywedodd ei fod yn ddilyniant i gynigion cychwynnol drafft y gyllideb refeniw a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ar 19 Ionawr ac mae’n cynnwys cyllideb arfaethedig o £172.438m ar gyfer 2023/24. Roedd y Cyllid Allanol Cyfun dros dro o £123.555m yn golygu bod angen cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor ynghyd â defnyddio £1.758m o falansau cyffredinol y Cyngor i gydbwyso’r gyllideb. Mae’r Cyngor yn wynebu nifer o risgiau oherwydd chwyddiant, costau ynni uchel, cytundebau tâl, y galw am wasanaethau a gostyngiad posib yn yr incwm a gynhyrchir trwy godi ffioedd am wasanaethau megis hamdden, cynllunio a pharcio wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar aelwydydd. Derbyniodd yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ar amcanion strategol y Cyngor ymateb cadarnhaol i’r bwriad i gyfuno cynnydd yn y Dreth Gyngor, rhoi arbedion ar waith a defnyddio cronfeydd y Cyngor er mwyn llunio cyllideb gytbwys ac roedd y Pwyllgor Sgriwtini’n cefnogi’r dull hwn hefyd. Heblaw am y newidiadau a amlinellir yn yr adroddiad o dan adran 4, a’r mân addasiadau i’r gyllideb sy’n deillio ohonynt, mae’r un newid sylweddol sy’n effeithio ar y gyllideb ers cyflwyno’r cynigion cychwynnol drafft yn codi yn sgil y cyhoeddiad ddiwedd yr wythnos ddiwethaf am y cynnig tâl cychwynnol ar gyfer 2023/24 i staff y Cyngor, ac eithrio athrawon, sydd gyfystyr â chodiad cyfartalog o thua 7%; cyflwynwyd hyn gan y cyflogwr fel “cynnig llawn a therfynol”. Gan fod cyllideb ddrafft 2023/24 yn caniatáu ar gyfer codiad cyflog o 3.5%, rhydd hyn bwysau ychwanegol o £2m ar y gyllideb. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi ystyried sut y gellir ariannu’r gost ychwanegol ac mae’n cynnig defnyddio cronfeydd wrth gefn i wneud hynny gan na fyddai’n realistig canfod gwerth £2m o arbedion heb eu cynllunio mor hwyr â hyn yn y broses ac ni fyddai cynnydd uwch yn y Dreth Gyngor yn dderbyniol yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Er iddo amlygu pwysigrwydd sicrhau fod cronfeydd digonol ar gael i gwrdd â chostau ychwanegol tebyg i hyn, pwysleisiodd yr Aelod Portffolio na ddylid, serch hynny, ddefnyddio cronfeydd ar hap; dylid edrych arno fel arian sy’n cael ei roi o’r neilltu i’w ddefnyddio i ddelio gyda digwyddiadau annisgwyl a/neu argyfyngau. Oherwydd i’r Cyngor fod yn ddarbodus wrth reoli ei gyllid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cronfeydd wrth gefn wedi cynyddu ac mae’r adnoddau hynny ar gael yn awr i gynorthwyo’r Cyngor a thrigolion yr Ynys yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yn ogystal â chaniatáu’r Cyngor i fynd i’r afael ag anghenion uniongyrchol, bydd gweithredu’n ddarbodus ac yn ofalus yn rhoi sicrwydd ariannol iddo ar gyfer y dyfodol. Y cynigion terfynol sy’n cael eu hargymell gan y Pwyllgor Gwaith felly yw y dylid gosod y gyllideb fel y caiff ei hamlinellu yn adroddiad y Swyddog Adran 151; bod y cynnydd yn y Dreth Gyngor yn aros ar 5% a bod cronfeydd y Cyngor yn cael eu defnyddio i gwrdd ag unrhyw ddiffyg yn y setliad terfynol o gymharu â’r setliad dros dro.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ei bod yn ofynnol iddo osod cyllideb sy’n adlewyrchu costau tybiedig darparu gwasanaethau’r Cyngor yn ystod y flwyddyn ddilynol ac adrodd ar hynny i’r Cyngor. Roedd y cyhoeddiad hwyr ynghylch y cynnig tâl yn golygu fod rhaid adolygu’r gyllideb a gwneud darpariaeth ychwanegol i gwrdd â chost y cynnig. Dywedodd fod defnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso’r gyllideb yn gostwng lefel y cronfeydd sydd ar gael ac nid yw’n ateb cynaliadwy o ran sefyllfa ariannol y Cyngor yn y tymor hir ac mae’n golygu y bydd rhaid gwneud penderfyniadau ynghylch hynny yn 2024/25. Fodd bynnag, mae lefel bresennol y cronfeydd wrth gefn yn cynnig yr opsiwn o wneud defnydd mwy cyfyngedig ohonynt yn 2024/25 i gydbwyso’r gyllideb, os bydd rhaid gwneud hynny, ac mae’n ddibynnol ar nifer o ffactorau, gan gynnwys cyfradd chwyddiant, lefel cytundebau tâl a’r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2024/25. Bydd rhaid gwneud yr asesiad hwnnw’n gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd er mwyn caniatáu digon o amser i gynllunio ar gyfer y gyllideb ac unrhyw doriadau angenrheidiol posib mewn gwasanaethau, yn ogystal â chynnal trafodaeth am lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor. Dywedodd y Swyddog Adran 151, er ei fod yn teimlo’n gyfforddus ynghylch defnyddio cronfeydd i gydbwyso cyllideb 2023/24 gan fod lefel presennol cronfeydd y Cyngor yn golygu y gellir gwneud hynny heb greu unrhyw risg ariannol i’r Cyngor, mae llawer iawn o ansicrwydd o hyd ynghylch blwyddyn ariannol 2024/25 y bydd rhaid i’r Cyngor gynllunio ar ei chyfer yn ystod y flwyddyn nesaf. 

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd, ystyriodd y Pwyllgor gynigion terfynol drafft y gyllideb o’r safbwyntiau a ganlyn a cheisiodd sicrwydd gan y Swyddog Adran 151 a’r Aelod Portffolio ar y materion a godwyd –

 

·      Rhagolygon chwyddiant yn ystod y flwyddyn nesaf, a’r rhagdybiaeth yw y bydd cyfradd chwyddiant sy’n gostwng yn lleihau’r tebygolrwydd a/neu’r cyfiawnhad dros gytundebau tâl uchel gan leihau pwysau ar gyllideb y Cyngor.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod darogan cyfradd chwyddiant yn dasg anodd, yn arbennig gan na chafodd chwyddiant isel yn ystod y blynyddoedd diwethaf fawr o effaith ar y gyllideb, ond mae’r gyfradd bresennol, sef 10%, wedi cael effaith sylweddol. Ystyriwyd nifer o senarios yn gysylltiedig â chwyddiant, ynghyd â rhagolygon Banc Lloegr, a defnyddiwyd y canlyniad mwyaf tebygol i wneud darpariaeth ar gyfer chwyddiant yn y gyllideb ar gyfer 2023/24. Er y rhagwelir y bydd chwyddiant yn gostwng tuag at ddiwedd 2023 ac yn 2024, daw’r sefyllfa’n fwy eglur wrth i’r Cyngor baratoi ei gyllideb ar gyfer 2024/25 ac mae hyn hefyd yn debygol o ddylanwadu ar gytundebau tâl. Mae staff Llywodraeth Leol sydd ar y graddfeydd tâl isaf wedi derbyn codiadau cyflog hael dros gyfnod o ddwy flynedd ac, os cyplysir hynny â gostyngiad mewn chwyddiant, bydd yn anos i weithwyr fynnu codiadau cyflog uchel.

 

·      I ba raddau mae’r cynigion yn ymateb yn ddigonol i bwysau a heriau gwasanaeth.

Hysbyswyd y Pwyllgor bod dau reswm dros y pwysau ar wasanaethau. Mae’n cael ei achosi gan chwyddiant a’r cynnydd mewn costau yn sgil hynny, yn ogystal â’r galw am wasanaethau. Mae’r gyllideb yn cynnwys darpariaeth ar gyfer chwyddiant a’r cynnydd mewn costau yn sgil hynny a dyma’r rheswm pennaf am y cynnydd o £16m yn y gyllideb, o gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf. Mae’r gyllideb yn cynnwys asesiad gorau o’r galw yn y Gwasanaethau Oedolion a Phlant, gan fod y pwysau mwyaf ar y gwasanaethau hynny. Er bod adroddiad monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Chwarter 3 2022/23, a fydd gerbron y Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, yn dangos fod gwasanaethau yn gyffredinol yn gwario’n unol â’r gyllideb, mae cyllidebau’r Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant yn gorwario ac, o ddiystyru eitemau untro megis swyddi gwag, arian grant a’r defnydd o gronfeydd wrth gefn, mae sefyllfa ariannol wirioneddol gwasanaethau yn llawer gwaeth. Ystyriwyd hyn wrth lunio cyllideb 2023/24. Y brif risg ar hyn o bryd yw effaith yr argyfwng costau byw ar deuluoedd a allai, yn ei dro, greu mwy o alw am Wasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Tai wrth i gostau tai greu anawsterau i bobl. Os bydd yr economi’n dechrau adfer, yna’r gobaith yw y bydd pwysau yn y meysydd hyn yn lleddfu.

 

·      A fydd y cynigion yn cael effaith niweidiol ar ddinasyddion Ynys Môn, neu ar unrhyw grwpiau a warchodir, a sut mae’r Cyngor yn cefnogi unigolion a allai fod yn wynebu anawsterau

Hysbyswyd y Pwyllgor fod cyllid yn cael ei ddyrannu i wasanaethau pan lunnir y gyllideb, gan gynnwys y gwasanaethau hynny sy’n darparu ar gyfer preswylwyr bregus, ac mae pob gwasanaeth yn asesu’r anghenion tebygol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Gan mai’r Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau plant sy’n cefnogi’r grwpiau sydd â’r angen mwyaf, mae cynnydd o thua £6m yng nghyllidebau’r ddau wasanaeth gyda’i gilydd ar gyfer 2023/24 er mwyn caniatáu iddynt ddarparu ar gyfer lefel newydd gynyddol y galw ac, yn ogystal, mae cyllideb 2023/24 yn cynnwys buddsoddiad yn y gwasanaeth digartrefedd. Er fod y gyllideb yn cynyddu’r Dreth Gyngor, gall unrhyw un sy’n cael anawsterau i dalu’r Dreth Gyngor ofyn am gymorth trwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor neu Gynllun Gostyngiadau Dewisol y Dreth Gyngor. Wrth ddrafftio’r gyllideb, mae’r Cyngor yn ceisio gwarchod gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant bregus cyn belled â phosib.

 

·      Y defnydd arfaethedig o gyllid a ryddhawyd o ganlyniad i newidiadau mewn ardollau a chyfraniadau at wasanaethau ar y cyd a wnaed ar ôl cyflwyno cynigion cychwynnol y gyllideb, ac y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yn adran 4.4. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y cynnydd arfaethedig yng nghapasiti’r Tîm Datblygu Economaidd, gan gynnwys beth oedd pwrpas hynny.

Hysbyswyd y Pwyllgor y caiff y buddsoddiad arfaethedig o £69k yn y Tîm Datblygu Economaidd ei ddefnyddio i ariannu un swydd a bydd yn cynorthwyo’r Tîm i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd datblygu economaidd ac arian grant e.e. datblygu Porthladd Rhydd a chynlluniau megis y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Ffyniant Bro, sy’n gofyn am fewnbwn ychwanegol gan y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiwn pellach am y gostyngiad ym malans y cronfeydd clustnodedig o £24.46m ar ddechrau 2022/23 i £9.973m, sef y swm a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, eglurodd y Swyddog Adran 151 y symudiadau yn y cronfeydd yn ystod y flwyddyn a chadarnhaodd y byddai’n darparu rhestr ysgrifenedig ohonynt i’r aelod a ofynnodd y cwestiwn.

Cyflwynwyd sylwadau gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Cyllid, a oedd yn cadarnhau fod y Panel yn fodlon â’r defnydd arfaethedig o’r cyllid a ryddheir o ganlyniad i’r newidiadau yn yr ardollau a chyfraniadau at wasanaethau ar y cyd.

 

·      Cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor er mwyn gwireddu cynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2023/24.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod dau opsiwn o ran penderfynu ar lefel y Dreth Gyngor – naill ai argymell cynnydd is yn y Dreth Gyngor fel rhan o gyllideb 2023/24 a defnyddio mwy o arian wrth gefn y Cyngor a/neu wneud mwy o arbedion er mwyn gwneud yn iawn am y diffyg yn y gyllideb, ond gallai hynny beryglu sefyllfa ariannol y Cyngor yn y tymor hwy, neu ddefnyddio llai o gronfeydd y Cyngor a chyflwyno cynnydd uwch yn y Dreth Gyngor. Barn y Pwyllgor Gwaith yw na ellir cyfiawnhau codiad o fwy na 5% yn y Dreth Gyngor ar hyn o bryd, yn enwedig gan fod nifer o bobl yn wynebu caledi ariannol, felly, er mwyn gosod cyllideb 2023/24, mae wedi ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng rhoi arbedion ar waith, cynyddu’r Dreth Gyngor a defnyddio arian wrth gefn y Cyngor.

 

·      Sut fyddai’r Cyngor yn mynd i’r afael ag unrhyw sefyllfaoedd annisgwyl eraill o ystyried y cyhoeddiad ynghylch y cynnig tâl uwch na’r disgwyl i staff llywodraeth leol nad ydynt yn athrawon.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod codiadau cyflog athrawon yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru fel arfer, felly, os yw’r dyfarniad cyflog ar gyfer athrawon o fis Medi 2023 yn uwch na’r 3.5% sydd yn y gyllideb, byddai’r Cyngor yn disgwyl derbyn cyllid tuag at y gost. Serch hynny, mae’r Cyngor yn wynebu nifer o risgiau eraill, fel y cyfeirir atynt yn yr adroddiad, a, phe byddai unrhyw un ohonynt yn cael eu gwireddu yna byddai’n rhaid i’r Cyngor ymdrin â nhw cystal ag y gallai ar y pryd.

 

Ar ôl craffu ar gynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb, ac ystyried y sicrwydd a roddwyd a’r eglurhad a ddarparwyd mewn perthynas â darparu gwasanaethau hanfodol a chefnogi grwpiau bregus, roedd y Pwyllgor, ar y cyd, yn fodlon fod cynigion drafft terfynol y gyllideb refeniw yn deg a bod y cyfuniad o arbedion, cynnydd yn y Dreth Gyngor a defnyddio arian wrth gefn sy’n cael ei argymell yn rhesymol o ystyried yr amgylchiadau a’i fod yn caniatáu i’r Cyngor osod cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd cefnogi ac argymell y canlynol i’r Pwyllgor Gwaith er mwyn creu cyllideb gytbwys –

 

·         Cyllideb arfaethedig o £174.569m ar gyfer 2023/24

·         Cynnydd arfaethedig o 5% yn y Dreth Gyngor

·         Defnyddio arian o’r balansau cyffredinol i ariannu unrhyw fwlch rhwng y setliad cyllideb terfynol a’r setliad dros dro

 (Bu i’r Cynghorydd Aled M. Jones atal ei bleidlais)

 

Dogfennau ategol: