Eitem Rhaglen

Cynllun y Cyngor 2023-28

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori Cynllun y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2023 i 2028 i’r Pwyllgor ei ystyried.

Cyflwynwyd Cynllun y Cyngor gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a dywedodd ei fod yn benllanw 12 mis o waith paratoi, gan gynnwys ymgynghori’n helaeth â staff y Cyngor, aelodau etholedig a thrigolion Ynys Môn ynghylch amcanion strategol y Cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y modd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad a’i ganlyniadau a rhoddwyd sylw i’r materion hynny yn yr adroddiad Datblygu Amcanion Strategol y Cyngor 2023-28 a fu gerbron y Pwyllgor hwn ar 19 Ionawr 2023. O ganlyniad i’r gwaith hwn ac ystyriaethau blaenorol, mae’r Cynllun y Cyngor drafft yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac mae’n cynnwys yr amcanion llesiant corfforaethol yn ogystal â’r amcanion strategol a ffrydiau gwaith cysylltiedig.

Er gwaethaf yr amgylchiadau heriol presennol, dywedodd y Prif Weithredwr fod cyfrifoldeb ar y Cyngor i gynllunio dyfodol mwy llewyrchus ar gyfer trigolion Ynys Môn ac i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a gyflwynir iddo. Mae Cynllun y Cyngor felly’n ceisio creu uchelgais wrth fod yn realistig am yr hyn y gellir ei gyflawni yn ystod y pum mlynedd nesaf, a hynny ar sail data gwirioneddol a chan ystyried yr adnoddau sydd ar gael. Mae’n nodi cyfrifoldebau statudol y Cyngor yn ogystal â’r canlyniadau y mae’r Cyngor yn dymuno eu cyflawni ar ran pobl a chymunedau Ynys Môn er mwyn creu gwell dyfodol. Bydd dogfen gyflawni flynyddol yn cael ei chreu a fydd yn adrodd yn ffurfiol ar gynnydd, llwyddiant a chanlyniadau. Yn amodol ar gefnogaeth y Pwyllgor Gwaith a chymeradwyaeth y Cyngor Sir, bydd fersiwn derfynol o Gynllun y Cyngor yn cael ei gyhoeddi a bydd ei gynnwys yn cael ei ddefnyddio a’i hyrwyddo’n helaeth. Diolchodd y Prif Weithredwr i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun, yn ogystal â’r rhai hynny a gyfrannodd yn ystod y broses.

Wrth drafod y Cynllun, cododd y Pwyllgor gwestiynau am yr heriau sy’n gysylltiedig â’i wireddu’n llwyddiannus; i ba raddau y mae’n rhoi sylw i’r dyletswyddau statudol; rôl partneriaid ac aliniad y Cynllun â disgwyliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Holodd y Pwyllgor hefyd beth yw’r trefniadau ar gyfer adrodd a monitro cynnydd a sut mae ymateb y cyhoedd wedi dylanwadu ar y Cynllun. Mewn ymateb, dywedodd Swyddogion a’r Aelod Portffolio –

 

·                Bod y Cynllun yn ffrwyth ymgynghori helaeth ac mae’n ceisio rhoi sylw i ddyletswyddau statudol y Cyngor a’r hyn y mae’n dymuno ei wneud; cwblhawyd ymarfer i adnabod yr holl ddeddfwriaeth berthnasol ar ddechrau’r gwaith datblygu i sicrhau fod y Cynllun yn rhoi sylw i’r holl ddyletswyddau statudol. Mae’r Cynllun, fodd bynnag, yn cael ei gyhoeddi mewn cyfnod o ansicrwydd ac efallai y bydd rhaid ei addasu i ymateb i heriau a/neu gyfleoedd wrth i gyfnod y Cynllun fynd rhagddo. Ystyrir bod y Cynllun yn ddogfen gadarn a ni ddylai’r cyfeiriad y mae’n ei osod i’r Cyngor yn ystod y bum mlynedd nesaf newid, hyd yn oes os bydd y manylion yn newid.

·                Bod cydweithio a chydweithredu yn egwyddorion sylfaenol yng ngwaith y Cyngor ym mhob maes ac mae gan y Cyngor berthynas sydd wedi hen sefydlu gyda Llywodraeth Cymru, ei bartneriaid sector cyhoeddus, gan gynnwys Iechyd, er bod y pwysau ar y system gofal cymdeithasol yn heriol o safbwynt yr ymwneud ag Iechyd ar hyn o bryd; y rheoleiddwyr, y sectorau gwirfoddol a chymunedol, y sector preifat a chynghorau tref a chymuned. Mae’r berthynas gyda chynrychiolwyr etholedig, ar lefel leol a chenedlaethol, yr un mor bwysig o ran dylanwadu ar y llywodraeth. Mae pob un ohonynt yn cyfrannu ac maent yn allweddol o ran cyflawni’r Cynllun yn llwyddiannus.

·                Dyma’r ail Gynllun y Cyngor fydd yn cael ei gyflawni o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae’r Cynllun yn gosod tri amcan llesiant sy’n cael eu hategu gan amcanion strategol a maent, yn eu tro, yn alinio â nodau ac amcanion y Ddeddf. Mae gwasanaethau’r Cyngor hefyd yn gweithredu’n unol â’r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf ac maent yn llywio’r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy.

·                Er bod ffactorau tu hwnt i reolaeth y Cyngor yn creu ansicrwydd ar hyn o bryd, mae rhai o’r prif heriau’n gysylltiedig â chyflawni’r Cynllun yn llwyddiannus yn ymwneud ag argaeledd adnoddau i ddarparu gwasanaethau a chynnal asedau, y gallu i gyflawni gofynion statudol a lefel y galw am wasanaethau’r Cyngor. Er bod gan y Cyngor weithlu medrus ac ymrwymedig, mae recriwtio a chadw staff mewn marchnad lafur a drawsnewidiwyd gan y pandemig yn parhau i fod yn her. Mae’n rhaid i’r Cyngor hefyd barhau i foderneiddio ei wasanaethau a’i ddulliau gweithio, gan gynnwys symud i brosesau digidol a bod yn barod am yr heriau a ddaw yn sgil hynny.

·                Bydd y gwaith o gyflawni’r Cynllun yn llwyddiannus yn erbyn yr amcanion a nodwyd yn cael ei fonitro drwy gyhoeddi dogfen gyflawni flynyddol sy’n amlinellu’r hyn y bwriada’r Cyngor ei gyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol a bydd yn rhoi dealltwriaeth i’r Cyngor ynghylch pa elfennau o’r Cynllun fydd yn cael eu datblygu yn ystod y flwyddyn honno. Bydd y Byrddau Rhaglen yn edrych ar agweddau penodol o’r ddogfen Gyflawni a gallant wneud argymhellion fel y bo’n briodol. Mae’r adroddiad cerdyn sgorio chwarterol a gyflwynir i’r Pwyllgor Sgriwtini a’r Pwyllgor Gwaith yn nodi unrhyw feysydd sy’n tanberfformio er mwyn cymryd camau i adfer y sefyllfa. Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gwblhau hunanasesiad blynyddol sy’n tynnu gwahanol agweddau o’r fframwaith rheoli perfformiad ynghyd er mwyn darparu darlun corfforaethol cyffredinol o berfformiad blynyddol.

·                O safbwynt ymgynghori ac ymgysylltu, lluniwyd y Cynllun ar sail y gwaith ymgynghori mwyaf pellgyrhaeddol erioed a gwblhawyd gan y Cyngor ac mae wedi rhoi gwell dealltwriaeth iddo o’r hyn sy’n bwysig i drigolion Ynys Môn. Ceisiodd yr ymgysylltu gwreiddiol sefydlu beth oedd y meysydd blaenoriaeth yr oedd trigolion Ynys Môn yn dymuno’u gweld yng Nghynllun y Cyngor. Wedi hynny, datblygwyd y chwe amcan strategol drafft a chynhaliwyd ymgynghoriad pellach ar yr amcanion hynny. Er bod y mwyafrif yn eu cymeradwyo, gwnaed rhai newidiadau mewn meysydd penodol wrth ddatblygu’r Cynllun mewn ymateb i’r adborth a dderbyniwyd.

Nododd y Pwyllgor hefyd mai dim ond 9% oedd wedi ymateb i’r broses ymgynghori trwy gyfrwng y Gymraeg ac amlygodd yr Aelodau hynny fel mater y mae angen rhoi sylw iddo. Rhoddwyd sicrwydd y byddid yn rhoi sylw pellach i’r ystadegyn hwnnw.

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod, penderfynwyd argymell Cynllun y Cyngor 2023-28 i’r Pwyllgor Gwaith roi ystyriaeth bellach iddo.

 

 

Dogfennau ategol: