Eitem Rhaglen

Polisi Darpariaeth Refeniw Isaf

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 5 a oedd yn amlinellu newidiadau arfaethedig i Bolisi MRP y Cyngor i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried. Ynghlwm yn yr adroddiad yn Atodiad 3 roedd adroddiad gan Link Group, Ymghynghorwyr Rheoli Trysorlys y Cyngor a gomisiynwyd ym mis Chwefror 2021 a oedd yn cynnwys adolygiad o strategaeth a pholisi MRP y Cyngor ynghyd ag arfarniad opsiynau.

 

Crynhodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid y cyd-destun rheoleiddiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol godi tâl ar y cyfrif refeniw ar gyfer bob blwyddyn ariannol, sef y Ddarpariaeth Refeniw Isaf (MRP) fydd yn gyfrifol am y gost ar gyfer eu dyled yn ystod y flwyddyn ariannol. Rhaid i'r tâl MRP fod yn ddarbodus, y nod yw sicrhau bod cost y ddyled yn cael ei gymryd o’r cyfrif refeniw yn ystod cyfnod sy’n cyd-fynd â’r amser y bydd y gwariant cyfalaf yn darparu buddion ac yn fforddiadwy. Nodir y dulliau sydd ar gael i bennu darpariaeth ddarbodus yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar Ddarpariaeth Refeniw Isaf - ceir 4 dull gwahanol – y Dull Rheoleiddio; y Dull CFR; Y Dull Oes Ased (wedi'i rannu'n ddau opsiwn pellach sef y dull rhandaliad cyfartal a'r dull blwydd-dal) a'r Dull Dibrisio. Gall awdurdod lleol newid y dull y mae’n ei ddefnyddio i gyfrifo'i holl MRP, neu ran ohono, ar unrhyw adeg.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio fod y Cyngor wedi diwygio ei Bolisi MRP yn 2018 a’i fod wedi mabwysiadu’r Dull Oes Ased (Rhandaliad Cyfartal) i gyfrifo ei daliad MRP ar gyfer benthyciadau â chymorth a benthyciadau digymorth. Ym mis Chwefror 2021 rhoddodd gyfarwyddyd i'w Ymgynghorwyr Rheoli'r Trysorlys (Link Group) adolygu ei bolisi MRP i sefydlu a oedd Polisi 2018 yn parhau i fod yn addas ar gyfer cynlluniau gwariant presennol ac yn y dyfodol ond oherwydd materion eraill ni ystyriwyd canlyniad yr adolygiad ymhellach ar y pryd. Gyda'r newid yn yr hinsawdd economaidd a'r pwysau'n deillio o hynny, ystyrir ei bod yn amserol bellach i ystyried canlyniadau'r adolygiad Link. Mae'r adroddiad Link fel y mae wedi’i atodi yn argymell y dull Oes Ased (Blwydd-dal) i gyfrifo taliadau MRP o 2022/23 ymlaen ar gyfer benthyciadau â chymorth a digymorth CRT ac ar gyfer benthyciadau â chymorth a digymorth y Gronfa Gyffredinol, ar y sail ei fod yn ddarbodus, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

 

Esboniodd yr Aelod Portffolio beth oedd mabwysiadu'r dull Blwydd-dal yn ei olygu gan ddweud ei fod yn dilyn dull tebyg i forgais ad-dalu safonol lle mae’r swm ad-dalu cyfunol o ad-daliadau prifswm a llog yn parhau'r un fath, ac o ganlyniad, mae cyfanswm y prifswm a ad-delir yn ystod y blynyddoedd cyntaf yn isel ac yn cynyddu dros amser. Felly, dan y dull blwydd-dal, mae’r taliad MRP yn isel yn y blynyddoedd cyntaf ac yn cynyddu dros amser. Er bod y swm cyffredinol a neilltuir trwy'r polisïau MRP presennol ac arfaethedig yr un fath, pan ystyrir amseriad y llif arian parod a gwerth symiau yn y dyfodol wedi’u lleihau i'w gwerth cyfredol, mae'r gwerth net presennol o dan y dull arfaethedig yn is na'r dull presennol, gan leihau hefyd yr effaith ar genedlaethau'r dyfodol yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ystyriwyd gwahanol opsiynau o ran cyfnodau o amser a chyfraddau llog fel y manylir yn yr adroddiad a dewiswyd y mwyaf fforddiadwy.

 

Penderfynwyd argymell i'r Cyngor Llawn ei fod yn cymeradwyo'r newidiadau MRP canlynol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol 2022/23 a thu hwnt –

 

·         Nodi’r adroddiad yn Atodiad 1 ac Adroddiad Grŵp Link Asset sydd wedi’i atodi yn Atodiad 3 yr opsiynau Darpariaeth Refeniw Isaf (MRP).

·         Newid taliad MRP y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar fenthyciadau â chymorth CRF o 2% o ofyniad cyllido cyfalaf (CFR) CRT i ddull Oes Ased (Blwydd-dal) ar gyfer 60 mlynedd ar gyfradd llog gyfartalog y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau (Opsiwn 1ch yn Nhabl 2 Atodiad 1) o 1 Ebrill 2022.

·         Newid MRP y CRT ar fenthyciadau digymorth CFR o 2% CFR y CRT i ddull Oes Ased (Blwydd-dal) ar gyfer 60 mlynedd ar gyfradd llog gyfartalog y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau (Opsiwn 2ch yn Nhabl 2 Atodiad 1) o 1 Ebrill 2022.

·         Newid MRP Cronfa’r Cyngor ar fenthyciadau â chymorth CFR o ddull Oes Ased (Rhandaliad Cyfartal) i ddull Oes Ased (Blwydd-dal) ar gyfer 46 mlynedd ar gyfradd llog cyfartalog y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau (Opsiwn 3ch yn Nhabl 2 Atodiad 1) o 1 Ebrill 2022.

·         Newid MRP Cronfa’r Cyngor ar fenthyciadau digymorth CRF o ddull Oes Ased (Rhandaliad Cyfartal) i ddull Oes Ased (Blwydd-dal) ar gyfer 27.5 mlynedd ar gyfradd llog gyfartalog y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau ar 1 Ebrill

·         Cymeradwyo’r Datganiad Polisi MRP diwygiedig ar gyfer 2022/23 a thu hwnt yn Atodiad 2, sy’n seiliedig ar yr opsiynau uchod yn yr argymhellion yn y pwyntiau bwled uchod.

 

Dogfennau ategol: