Eitem Rhaglen

Ceisiadau fydd yn cael ei gohirio

6.1 – S106/2020/3 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

S106/2020/3

 

6.2 – COMP/2021/1 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

COMP/2021/1

 

6.3 – 46C427L/COMP - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

46C427L/COMP

Cofnodion:

6.1  S106/2020/3 - Cyflwyno ‘Cynllun Iaith Gymraeg Parc Arfordirol Penrhos’ o dan Adran 1 (Cynllun Iaith Gymraeg) o atodlen 12 o’r Cytundeb 106 a gwblhawyd mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON a chyflwyno Gweithred Amrywio i amrywio darpariaethau canlynol y cytundeb cyfreithiol hwn: paragraffau 2.1.1. Atodlen B (Manyleb Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur Cae Glas), Atodiad 2 Tabl Bondiau Canolfan Ymwelwyr Penrhos (yn cynnwys Toiledau Canolfan Ymwelwyr Penrhos) a gwaith cynnal a chadw, paragraffau 1.1 a 1.2 o Atodlen 12 (Cynllun Iaith Gymraeg) a chyfnewid Cynllun 2 Lluniad Tir Penrhos – Cynllun 2 cyfeirnod lluniad PL1114.VW008 /Rev 03 dyddiedig 03/03/2016 yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Richard Buxton Solicitors, ar ran eu cleientiaid, a oedd yn herio dilysrwydd y caniatâd cynllunio a roddwyd i’r cynllun Land and Lakes, fel y nodir yn yr adroddiad. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2023, gohiriwyd y cais i roi digon o amser i’r Cyngor ystyried cynnwys y llythyr a dderbyniwyd ac ymateb yn unol â hynny. Oherwydd cymhlethdod y materion a godwyd, mae Swyddogion Cynllunio’n dal i ystyried y cais ac argymhellwyd fod y cais yn cael ei ohirio.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.

 

6.2  COMP/2021/1 - Cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol i ryddhau adrannau; Atodlen 8, Adran 1, Cymal 1.1: Strategaeth Parcio Ceir a Mynediad Cyhoeddus – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Cymal 12.1: Cynllun Coetir Hynafol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 15, Cymal 15.1: Cynllun Cysylltiadau Gwyrdd – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 17, Cymal 17.1: Cynllun Rheoli SoDdGA – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.1: Arolwg Ecolegol a Chynllun Monitro – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.4: Archwiliad Cydymffurfiaeth Ecolegol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 20, Cymal 20.1 – Cynllun Rheoli Coed Presennol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.1 – Penodi Gwasanaeth Warden / Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Warden – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.2 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Goblygiadau diogelwch / Asesiad monitro effaith Cysylltiadau Gwyrdd a’r defnydd ohonynt – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.3 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Ymrwymiad Adroddiad Blynyddol ar yr Effaith – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 9, Adran 3, Cymal 3.1: Cynllun Fesul Cyfnod Pentref Hamdden Penrhos – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 11, Adran 1, Cymal 1.1: Cynllun Llafur Lleol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos o oblygiadau’r cytundeb Adran 106 ynghlwm i ganiatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Richard Buxton Solicitors, ar ran eu cleientiaid, a oedd yn herio dilysrwydd y caniatâd cynllunio a roddwyd i Land and Lakes, fel y nodir yn yr adroddiad. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2023, gohiriwyd y cais i roi digon o amser i’r Cyngor ystyried cynnwys y llythyr a dderbyniwyd ac ymateb yn unol â hynny. Oherwydd cymhlethdod y materion a godwyd, mae Swyddogion Cynllunio’n dal i ystyried y cais ac argymhellwyd fod y cais yn cael ei ohirio.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.

 

6.3  46C427L/COMP – Cyflwyno Cynllun Grŵp Cyswllt Cymunedol er mwyn cydymffurfio â Thelerau Cytundeb a nodir yn Atodlen 8, Adran 7 a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus Penrhos fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 13.1 o’r Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio rhif 46C/427k/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Richard Buxton Solicitors, ar ran eu cleientiaid, a oedd yn herio dilysrwydd y caniatâd cynllunio a roddwyd i’r cynllun Land and Lakes, fel y nodir yn yr adroddiad. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2023, gohiriwyd y cais i roi digon o amser i’r Cyngor ystyried cynnwys y llythyr a dderbyniwyd ac ymateb yn unol â hynny. Oherwydd cymhlethdod y materion a godwyd, mae Swyddogion Cynllunio’n dal i ystyried y cais ac argymhellwyd fod y cais yn cael ei ohirio.

 

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.

 

 

Dogfennau ategol: