Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – MAO/2022/27 - Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi

MAO/2022/27

 

12.2 – ADV/2023/1 - Tŵr Gwylio Amlwch,  Amlwch.

ADV/2023/1

 

12.3 – ADV/2023/2 - Maes Parcio Uchaf, Lôn y Cei Uchaf, Porth Amlwch

ADV/2023/2

 

12.4 – ADV/2023/3 - Maes Parcio'r Prif Sgwar, Amlwch

ADV/2023/3

 

12.5 – ADV/2023/4 – Mynydd Parys, Amlwch

ADV/2023/4

 

12.6 – HHP/2022/342  - Islwyn, Ffordd Caergybi, Llanfairpwll

HHP/2022/342

 

12.7 – HHP/2022/244 – Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

HHP/2022/244

 

12.8 – FPL/2021/231 - Tîr i'r Gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll

FPL/2021/231

 

12.9 – TPO/2022/24 - Parc Twr, Llanfairpwll

TPO/2022/24

 

Cofnodion:

12.1  MAO/2022/27 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2021/337 er mwyn diwygio’r cynlluniau a gymeradwywyd yn Hen Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod, fel y noda adroddiad y swyddog, yn un ar gyfer gwneud mân newidiadau i gynllun a gymeradwywyd gan y Pwyllgor wrth ystyried cais cynllunio FPL/2021/337 yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2022.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, ar ôl ystyried maint y datblygiad a ganiatawyd, ynghyd â maint bychan y newidiadau arfaethedig, y bernir ei bod yn dderbyniol ymdrin â’r newidiadau drwy gyfrwng cais am ddiwygiadau ansylweddol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  ADV/2023/1 – Cais i osod arwydd dehongli newydd yn Nhŵr Gwylio Amlwch, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gynnig am ddatblygiad ar raddfa fach i ddarparu bwrdd dehongli treftadaeth ger y Tŵr Gwylio yn Amlwch. Mae’r dyluniad a’r maint yn briodol i sicrhau y bydd yn gweddu â’r ardal ac ni fydd yn cael effaith ar eiddo cyfagos, ffyrdd nac ar yr Ardal Gadwraeth ac mae’n cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  ADV/2023/2 – Cais i godi arwydd dehongli yn y Maes Parcio Uchaf, Stryd y Cei Uchaf, Porth Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn ddatblygiad ar raddfa fach i ddarparu bwrdd dehongli treftadaeth yn y maes parcio cyhoeddus yn Stryd y Cei Uchaf, Amlwch. Mae’r dyluniad a’r maint yn addas i sicrhau ei fod yn gweddu â’r safle ac ni fydd yn cael effaith ar eiddo cyfagos, ffyrdd, llwybrau troed na’r ardal gyfagos ac mae’n cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  ADV/2023/3 – Cais am arwydd dehongli newydd ym maes Parcio’r Prif Sgwâr, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn ddatblygiad ar raddfa fach i ddarparu bwrdd dehongli treftadaeth ym Maes Parcio’r Prif Sgwâr a leolir ar Stryd y Cei Uchaf, Amlwch. Mae ei ddyluniad a’i faint yn addas i sicrhau y bydd yn gweddu â’r safle ac ni fydd yn cael effaith ar eiddo cyfagos, ffyrdd na’r Ardal Gadwraeth ac mae’n cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John I Jones fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  ADV/2023/4 – Cais i leoli dau arwydd heb eu goleuo ym Mynydd Parys, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn ddatblygiad ar raddfa fach i godi dau arwydd heb eu goleuo ger mynedfa maes parcio Mynydd Parys. Mae’r dyluniad a’r maint yn addas i sicrhau y byddant yn gweddu â’r safle ac ni fyddant yn cael effaith ar ffyrdd na llwybrau troed, na’r ardal gyfagos, ac mae’r cynnig yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6  HHP/2022/342 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Islwyn, Ffordd Caergybi, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol oherwydd pryderon y byddai’r datblygiad yn effeithio ar eiddo cyfagos.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, sydd hefyd yn Aelod Lleol, y dylid cynnal ymweliad safle corfforol oherwydd yr effaith ar fwynderau preswylwyr lleol a byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor weld y safle.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig ar gyfer estyniad bychan ac roedd o’r farn na fyddai’n cael effaith sylweddol ar eiddo cyfagos, ac, os byddai ddim ond 0.5m yn llai, byddai modd ei adeiladu o dan hawliau datblygu a ganiateir.

 

Eiliwyd y cynnig am ymweliad safle corfforol gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle corfforol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.7  HHP/2022/244 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdy presennol ynghyd â chodi anecs deulawr yn ei le yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol oherwydd y byddai’n gorddatblygu’r safle ac yn cael effaith andwyol ar fwynderau cymdogion.

 

Tynnwyd y cais yn ôl.

 

12.8  FPL/2021/231 – Cais llawn ar gyfer adeiladu 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro Llwybr Cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar dir i’r gogledd o’r Garnedd, Llanfairpwll

 

Gan iddo ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Glyn Haynes y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar y cais.

 

Gan iddo ddatgan diddordeb personol yn y cais, ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, roedd modd i’r Cynghorydd Ken Taylor gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais cyn Aelod Etholedig.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Rhys Davies, Cadnant Planning, o blaid y cais, a dywedodd fod hwn yn gais ar gyfer 27 o dai fforddiadwy yn Llanfairpwll. Mae’r angen am dai fforddiadwy yn Llanfairpwll yn amlwg ac mae dros 70 o deuluoedd neu bobl ifanc ar y rhestr am dai fforddiadwy yn y pentref; y bobl hyn yw dyfodol y pentref. Yn yr achos hwn, mae’r datblygwr wedi bod yn trafod y bwriad gyda swyddogion o Adran Dai’r Cyngor ers nifer o flynyddoedd ac, os yw’r datblygiad yn derbyn caniatâd, maent wedi cytuno y bydd y tai’n cael eu trosglwyddo i’r Cyngor. Yn anffodus, er gwaetha’r ffaith fod yr angen am dai fforddiadwy yn amlwg yn yr achos hwn a bod y datblygiad yn dderbyniol o’i ystyried o dan Bolisi TAI 16 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, daeth problem i’r amlwg wrth geisio creu system ddraenio dŵr wyneb arfaethedig ar gyfer y datblygiad. Cynhaliwyd trafodaethau helaeth ar y mater hwn ond, yn anffodus, ni ddaethpwyd i gytundeb hyd yma. Mae’r Cyngor Sir yn gwrthod derbyn dŵr wyneb i system briffyrdd Llanfairpwll, er bod y datblygwr yn fodlon gwella system atal llifogydd y pentref. Yn ogystal, er bod ffos ddŵr wyneb gyferbyn â’r safle ger yr A55, mae Adran Briffyrdd Llywodraeth Cymru’n gwrthod derbyn cysylltiad â’r ffos ddŵr hon; er bod bwriad i atal llif y dŵr yn sylweddol fel ei bod yn llai na’r hyn sy’n dod oddi ar wyneb y cae. Mae trydydd opsiwn, sef cysylltu â ffos ar dir y Cyngor Cymuned, ond, unwaith eto, mae’r Cyngor Cymuned wedi gwrthod cytuno i hyn. Mae’r sefyllfa hon yn creu llawer o rwystredigaeth i’r datblygwr, i Adran Dai Cyngor Môn a hefyd i nifer o deuluoedd lleol sydd wir angen tai fforddiadwy yn Llanfairpwll. Nid y datblygwr sydd ar ei golled yn yr achos hwn ond pobl ifanc a theuluoedd. Anogodd Mr Davies y Pwyllgor i ohirio’r cais hwn ac anfon neges glir i bawb fod y Cyngor yn cefnogi’r bwriad a gofynnodd hefyd i’r Awdurdod ofyn i Swyddogion a Swyddogion Llywodraeth Cymru gynnal cyfarfod ar y cyd i drafod y mater hwn ar unwaith.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi’i gyflwyno ym mis Awst 2021 ac ni wnaed unrhyw gynnydd gan fod yr ymgeisydd wedi methu â darparu dull derbyniol o gael gwared â dŵr wyneb. Nid yw Adain Ddraenio’r Awdurdod Lleol yn cefnogi gollwng dŵr wyneb i’r system ddraenio priffyrdd oherwydd problemau draenio dŵr wyneb hanesyddol yn yr ardal. O’r herwydd, deallir fod yr ymgeisydd wedi archwilio dulliau eraill ar gyfer draenio dŵr, ond ni chanfuwyd dull addas eto. Mae’r Cyngor Cymuned, sydd berchen y cae ger y datblygiad arfaethedig, wedi gwrthod gwerthu’r tir i’r datblygwr er mwyn creu system ddraenio. Oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio, a methiant ar ran yr ymgeisydd i ddangos fod siawns rhesymol o ganfod dull addas arall i gael gwared â dŵr wyneb, argymhellir gwrthod y cais. Bydd hyn yn rhoi amser i’r ymgeisydd archwilio posibiliadau eraill yn gysylltiedig â’r cynnig a chyflwyno cais newydd i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.     

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed W Jones, Aelod Lleol, ei fod yn cytuno bod angen tai fforddiadwy yn Llanfairpwll. Fodd bynnag, mae pryderon yn lleol nad yw’r safle hwn yn addas ar gyfer tai fforddiadwy. Ychwanegodd fod angen datrys y broblem llifogydd a draenio yn Llanfairpwll os bydd y cais hwn yn cael ai ailgyflwyno.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, sydd hefyd yn Aelod Lleol, fod pryderon lleol am y cais hwn ers nifer o flynyddoedd. Mae’r mynediad i’r safle yn anaddas ac mae tu allan i ffin ddatblygu Llanfairpwll. Ychwanegodd fod problemau draenio wedi’u hamlygu yn yr ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i wrthod gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.9  TPO/2022/24 – Cais i wneud gwaith ar goed a warchodir gan Orchymyn Gwarchod Coed ym Mharc Tŵr, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gais ar gyfer gwneud gwaith ar goed a warchodir gan Orchymyn Gwarchod Coed yn y coetir o amgylch Tŵr Marcwis ger yr A5. Bwriedir torri 13 o goed ac efallai y bydd angen tocio gwreiddiau 13 coeden arall yn ystod y gwaith adeiladu. Cyfran fechan o goed sydd ar ymyl y coetir yw hyn a bydd mesurau lliniaru addas yn cael eu defnyddio er budd iechyd coed ac amwynder. Ychwanegodd mai’r cyfiawnhad dros y cynnig yw hwyluso gwelliannau ffordd ar hyd rhan o’r A5, ynghyd â’r posibilrwydd o greu llwybr cerdded/beicio aml-ddefnydd rhwng Llanfairpwll a Phorthaethwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: