Eitem Rhaglen

Materion Eraill

13.1 – DEM/2023/2 – Pencraig, Llangefni

DEM/2023/2

 

13.2 – DEM/2023/3 – Pencraig, Llangefni

DEM/2023/3

 

13.3 – DEM/2023/4 - Maes Hyfryd, Llangefni.

DEM/2023/4

 

13.4 – DEM/2023/5 -  Bro Tudur, Llangefni

DEM/2023/5

Cofnodion:

13.1  DEM/2023/2 - Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel modurdy ym Mhencraig, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig. Mae’r cynnig yn ymwneud â dymchwel un modurdy domestig nad yw’n cael ei defnyddio ac sydd wedi dadfeilio ym Mhencraig, Llangefni ac ystyrir ei fod yn ddatblygiad a ganiateir o dan Ran 31 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel rhan o’r cais i ddymchwel y modurdy, mae angen cyflwyno cais ac mae’n rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymateb iddo o fewn 28 diwrnod ond mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben yn awr.

 

Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

13.2  DEM/2023/3 – Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel modurdai ym Mhencraig, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig. Mae’r cynnig yn ymwneud â dymchwel bloc o 8 modurdy domestig nad ydynt yn cael eu defnyddio ac sydd wedi dadfeilio ym Mhencraig, Llangefni ac ystyrir bod y gwaith yn ddatblygu a ganiateir o dan Ran 31 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel rhan o’r cais i ddymchwel y modurdai, mae angen cyflwyno cais a rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymateb iddo o fewn 28 diwrnod ond mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben yn awr.

 

Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

13.3  DEM/2023/4 – Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel modurdai ym Maes Hyfryd, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig. Mae’r cynnig yn ymwneud â dymchwel bloc o 10 modurdy domestig nad ydynt yn cael eu defnyddio ac sydd wedi dadfeilio ym Maes Hyfryd, Llangefni ac ystyrir fod y gwaith yn ddatblygu a ganiateir o dan Ran 31 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel rhan o’r cais i ddymchwel y modurdai, mae angen cyflwyno cais ac mae’n rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymateb iddo o fewn 28 diwrnod ond mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben yn awr.

 

Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

13.4  DEM/2023/5 – Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel 28 modurdy ym Mro Tudur, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig. Mae’r cynnig yn ymwneud â dymchwel bloc o 28 modurdy domestig sydd wedi dadfeilio nad ydynt yn cael eu defnyddio ym Mro Tudur, Llangefni ac ystyrir bod y gwaith yn ddatblygu a ganiateir o dan Ran 31 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel rhan o’r cais i ddymchwel y modurdai, mae angen cyflwyno cais ac mae’n rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymateb iddo o fewn 28 diwrnod ond mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben yn awr.

 

Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ategol: