Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn - AD a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ac yn nodi sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar ddiwedd Chwarter 3 2022/23.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cadeirydd yn adlewyrchiad hynod gadarnhaol o berfformiad y Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3, gan ei wneud y trydydd chwarter a berfformiodd orau yn erbyn targedau’r adran rheoli perfformiad ers creu’r adroddiad cerdyn sgorio. Cyfeiriodd at y dangosyddion perfformiad oedd yn cyd-fynd â thri amcan llesiant presennol y Cyngor a thynnodd sylw at rai perfformiadau amlwg o ran Tai, Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Digartrefedd a rheoli gwastraff. Er gwaethaf yr enghreifftiau o berfformiad da iawn ynghyd â'r meysydd i'w gwella, roedd yr adroddiad hefyd yn nodi meysydd lle methwyd targedau a byddid yn canolbwyntio’n barhaus ar y rhain er mwyn gwella'r perfformiad. At ei gilydd, fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn dangos ymrwymiad clodwiw a chyflawniad staff ar draws y Cyngor wrth gynnal lefelau perfformiad mewn amgylchiadau anodd ar adegau ac roedd y Pwyllgor Gwaith yn eu gwerthfawrogi ac yn diolch iddynt am eu hymdrechion.
Ategodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid deimladau’r Cadeirydd gan ddweud bod yr adroddiad ar gerdyn sgorio Chwarter 3 yn galonogol iawn ac yn gosod y Cyngor mewn sefyllfa dda i osod y cynnwys a’r targedau ar gyfer cerdyn sgorio corfforaethol 2023/24. Byddai’r trefniadau ar eu cyfer yn cael eu gwneud yn hysbys yn fuan i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu.
Rhoddodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adborth o gyfarfod y Pwyllgor ar 14 Mawrth, 2023 lle craffwyd a heriwyd adroddiad Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3. Wrth gydnabod y perfformiad a’r cynnydd cadarnhaol a gofyn am y trefniadau i gydnabod y llwyddiannau hynny, nododd y Pwyllgor, hefyd, isod, berfformiad targed mewn rhai meysydd a gofynnodd am sicrwydd ynghylch monitro'r meysydd hyn. Roedd y Pwyllgor, hefyd, wedi trafod y perfformiad yn erbyn y dangosydd presenoldeb yn y gwaith, gan gynnwys sut yr oedd yn cymharu â pherfformiad blynyddoedd blaenorol. Roedd, hefyd, wedi gofyn am eglurhad o'r trefniadau ar gyfer sicrhau bod y cerdyn sgorio corfforaethol yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun newydd y Cyngor ar gyfer 2023-2028. Wedi cael sicrwydd ynghylch y materion hyn, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu nodi'r meysydd i'w gwella ynghyd â'r mesurau lliniaru a amlinellwyd ac argymell hynny i'r Pwyllgor Gwaith.
Croesawodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith gerdyn sgorio Ch3 yn dystiolaeth o barhad cynnydd cadarnhaol ar draws gwasanaethau’r Cyngor gan ddweud bod llawer i ymfalchïo ynddo yn yr adroddiad. Serch hynny, nododd yr aelodau, hefyd, duedd o ostyngiad dros amser mewn rhai dangosyddion rheoli perfformiad a gofynnwyd i Swyddogion fonitro'r dangosyddion hynny'n agos yn y misoedd i ddod. Diolchwyd i’r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a’r Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad am eu gwaith a’u cefnogaeth ynghyd ag i staff y Cyngor y cydnabuwyd eu cyfraniad i’r broses wella.
Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio am Ch3 2022/23 gan nodi’r meysydd sydd wedi gwella ynghyd â’r meysydd mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: