Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd: Gwelliannau ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn drosolwg o’r cynnydd a’r datblygiad diweddaraf yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio’r Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol gyd-destun i adroddiad cynnydd y Gwasanaethau Cymdeithasol sydd wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu a’r Pwyllgor Gwaith yn chwarterol ac yna, yn ddiweddar, ddwywaith y flwyddyn yn dilyn adroddiad beirniadol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (yr AGC) yn 2016. Arweiniodd arolygiad yr AGC o berfformiad diweddar y Gwasanaethau Cymdeithasol a gwerthusiad o’r adran at adroddiad cadarnhaol ym mis Rhagfyr, 2022. Nododd hwn nifer o gryfderau ar draws y gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd, yn ogystal â meysydd i'w gwella ymhellach, y byddai gweithgor mewnol yn rhoi sylw iddynt. Er bod yr adroddiad yn adlewyrchiad o daith gadarnhaol y Gwasanaethau Cymdeithasol ym Môn ers 2016, mae nifer o heriau yn parhau, yn enwedig o ran capasiti a staffio oedd yn cael effaith ar y sector cyfan. Amlygodd yr Aelod Portffolio y ffaith fod Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i weithio'n agos gyda Choleg Menai i ddenu pobl iau i'r gwasanaeth, a chyda chymorth Adnoddau Dynol, yn rhoi cynnig ar syniadau recriwtio a marchnata arloesol. O ran uchafbwyntiau, Diwrnod Agored Caergybi 50+, bu'r trydydd digwyddiad o'r fath yn boblogaidd gyda’r rhai oedd yno, gyda chynlluniau i gynnal y gyfres yn flynyddol.

 

Crynhowyd y prif ddatblygiadau yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio'r Gwasanaethau hyn, gan gyfeirio’n benodol at Gartref Clyd Rhosybol, y pedwerydd cyfleuster o’r fath i’w gofrestru. Mae tîm y Gwasanaethau Ieuenctid yn cael ei adolygu, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn enwedig y bobl ifanc oedd yn defnyddio'r gwasanaeth, yn ogystal â'r rhai nad oeddynt yn ei ddefnyddio. Mae Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Rhai sy’n Gadael Gofal wedi’i datblygu a byddai’n cael ei chyflwyno i’r Panel Rhiantu Corfforaethol ym mis Mawrth, 2023.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mai pethau ychwanegol at y gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir o ddydd i ddydd i lawer o bobl ar yr Ynys yw mentrau a llwyddiannau penodol, er iddynt gael eu nodi yn yr adroddiad cynnydd. Roedd Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd yn disgyn ar 21 Mawrth, 2023 ac roedd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd gwerthfawrogi gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol. Roedd Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol yn falch o'i chyflawniadau dros y blynyddoedd diwethaf ond yn cydnabod bod heriau o hyd y mae'n rhaid eu hwynebu o ran cyllid, staffio a galw.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod y Gwasanaethau hyn wedi bod dan bwysau sylweddol dros fisoedd y gaeaf ond, diolch i’r gweithlu, roedd wedi ymateb yn hyblyg ac yn greadigol i lefelau’r galw. Byddai gweithgor mewnol yn rhoi sylw i adroddiad yr AGC o ran gwneud gwelliannau pellach, gan gydnabod na all y Gwasanaeth aros yn ei unfan a bod yn rhaid iddo barhau i archwilio ffyrdd o foderneiddio'r modd y darperir gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, fod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth, wedi ystyried yr adroddiad cynnydd ac wedi cydnabod y pwyntiau cadarnhaol wrth geisio cadarnhad o'r trefniadau monitro mewn perthynas â meysydd sydd angen sylw. Codwyd y ffrydiau gwaith i'w blaenoriaethu dros y cyfnod nesaf gan Banel Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac ystyriodd y Pwyllgor p’un a oedd yn cefnogi'r bwriad i roi'r gorau i adrodd i'r Pwyllgo, ar welliant Gwasanaethau Cymdeithasol, gydag adroddiadau i ddod gan Banel Craffu’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn lle hynny. Roedd y Pwyllgor wedi cymeradwyo'r dull hwn, gan gadarnhau ei fod yn fodlon â chyflymder y cynnydd a'r gwelliannau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol hyd yma ac yn argymell hynny i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Cydnabu Aelodau’r Pwyllgor Gwaith y cynnydd a wnaed gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ers 2016 a diolchwyd i’r staff am y cyfraniad yr oeddent wedi’i wneud i’r broses honno mewn amgylchiadau heriol yn aml.

 

Ynyr un modd, diolchodd y Prif Weithredwr i’r staff a, hefyd, i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion am roi arweiniad. Roedd y Cadeirydd yn falch o’r ffocws ar Wasanaethau Ieuenctid fel buddsoddiad gwerthfawr ym mhobl ifanc yr Ynys, oedd wedi dioddef llawer iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn sgil y pandemig.

 

Penderfynwyd -

 

·      Cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn cymryd sicrwydd bod y cynnydd parhaus a wnaed gan Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhesymol ac yn amserol.

·      Cefnogi’r bwriad i beidio ag adrodd ar welliannau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor Gwaith o hyn ymlaen a bod adroddiadau yn parhau i gael eu cyflwyno i’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: