Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb: 2021/22

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2021/22 i'w ystyried gan y

Pwyllgor.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, o dan Reoliadau Dyletswyddau Statudol Deddf Cydraddoldeb 2010 (Cymru) 2011, fod yn rhaid i'r Cyngor gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb.  Prif bwrpas yr adroddiad yw dangos sut mae'r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau cydraddoldeb.  Dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi enghreifftiau o'r ffordd yr oedd yr Awdurdod yn hyrwyddo cydraddoldeb o fewn y cymunedau a'r gweithlu, gan esbonio sut mae gwybodaeth berthnasol yn cael ei chasglu. Mae’n amlinellu'r trefniadau ar gyfer cynnal asesiadau effaith, yn rhoi amlinelliad o gynnydd o ran cyflawni amcanion cydraddoldeb yn ogystal â nodi'r blaenoriaethau ar gyfer y deuddeg mis nesaf.  Cyfeirir hefyd o fewn yr adroddiad at gyrhaeddiad disgyblion mewn ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion oedd yn cael cinio ysgol am ddim. 

 

Wrth ystyried yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb ar gyfer 2021/2022 bu'r Pwyllgor yn trafod y canlynol:-

 

·           Beth yw'r prif heriau a wynebir o ran prif ffrydio cydraddoldeb o fewn y Cyngor a hefyd beth yw'r anawsterau gyda rhagfarn ymwybodol?

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd fod bylchau data, a bod yr Awdurdod yn awyddus i staff deimlo'n gyfforddus ac yn fodlon rhannu eu gwybodaeth bersonol.  Dywedodd fod rhagfarn yn broblem a bod cymdeithas yn ei chael hi'n anodd ymdopi â gwahanol sefyllfaoedd.   Dywedodd hefyd y bydd yn yr Adroddiad Blynyddol nesaf yn dangos sut mae'r gynrychiolaeth wleidyddol wedi newid o fewn y Cyngor. Mae'r gwaith sydd wedi ei wneud i annog pobl o gefndiroedd gwahanol i gynnig eu henwau i fod yn Aelodau Etholedig ar y Cyngor wedi bod yn gadarnhaol.  Yn dilyn etholiadau llywodraeth leol fis Mai diwethaf mae yna Aelodau Etholedig iau a mwy o ferched.  Cyfeiriodd yr Arweinydd ymhellach at y bwlch cyflog rhwng dynion a merched ac nad yw'r Awdurdod hwn yn talu taliadau bonws. Mae'r cap tâl rhwng y rhywiau'n is o lawer na'r cyfartaledd ar draws y DU.  Cyfeiriodd y Rheolwr Polisi a'r Gymraeg at ragfarn ddiarwybod ac mae'n cael ei gydnabod fel her.  Cynigir hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod i swyddogion y Cyngor yn rheolaidd.

 

·           Bydd angen i Gynllun Cydraddoldeb Strategol newydd gael ei gymeradwyo erbyn 1 Ebrill 2024.  Sut mae Swyddogion yn bwriadu mynd ati i gasglu gwybodaeth berthnasol er mwyn llywio ein hamcanion ar gyfer 2024-2028?

 

Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid i'r Awdurdod ymgysylltu ac ymgynghori'n eang i gasglu gwybodaeth am amcanion cydraddoldeb.   Bydd gwaith yn cael ei wneud i gasglu gwybodaeth gan gynrychiolwyr grwpiau gwarchodedig o dan y ddeddf cydraddoldeb.  Mae'r Awdurdod yn ffodus fod sefydliadau sy’n bartneriaid iddo, megis Medrwn Môn, y gall y Cyngor eu defnyddio i gael mynediad at grwpiau gwarchodedig. Dywedodd ymhellach y defnyddir arbenigedd a chanllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb hefyd i lywio gweithgareddau ymgysylltu'r Awdurdod.

 

·       Beth fydd rôl y Pwyllgor hwn yn y broses o ddatblygu amcanion cydraddoldeb newydd?

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a'r Gymraeg fod gan y Pwyllgor hwn rôl allweddol i gyfrannu at unrhyw ymgynghoriad ar yr amcanion cydraddoldeb o fewn y Cyngor. Dywedodd y bydd y Cyngor yn ymgysylltu â gwahanol grwpiau gwarchodedig er mwyn canfod pa amcanion y dylai’r Cyngor eu gosod yn eu barn nhw. Byddai mewnbwn y Pwyllgor hwn yn cael ei groesawu.

 

Cododd y Pwyllgor y mater o hyrwyddo'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Mae problemau ynghylch colli llwybrau bysiau a’r ffaith nad yw rhai bysiau’n cyrraedd ar yr amser penodol o fewn eu hamserlen.  Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod grantiau'n cael eu derbyn ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal llwybrau bysiau hygyrch, ond mae problemau gyda llwybrau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig.  Yn ystod trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru pwysleisiwyd y ffaith nad yw eu Strategaeth Drafnidiaeth yn ymateb i anghenion a heriau ardaloedd gwledig.

 

·       Oes 'na gynlluniau ar waith i leihau bwlch cyrhaeddiad addysgol disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim o'i gymharu â’r rhai nad ydynt? Beth fydd effaith penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnig prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd?

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod ganddi bryderon ynghylch sut mae'r fformiwla yn cael ei defnyddio i fesur os yw plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Dywedodd fod teuluoedd sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim i'w plant nad ydynt yn ei hawlio. Daeth hyn i'r amlwg yn ystod y pandemig gyda mwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Cyfeiriodd yr Arweinydd ymhellach at y cyrhaeddiad addysgol rhwng disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim o'i gymharu â disgyblion nad ydynt yn gymwys a dywedodd ei bod o'r farn bod angen cyflwyno fformiwla decach.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y gall tlodi gael effaith andwyol ar berfformiad disgyblion gyda rhai teuluoedd yn methu â fforddio gwisg ysgol a thripiau ysgol.  Dywedodd fod hyfforddiant ar gael i Ysgolion a Llywodraethwyr i ganfod sut mae eu polisïau ysgol yn cael effaith ar berfformiad plant.  Mae Cynllun sy’n Ystyriol o Drawma ar gael i ysgolion ac mae nifer o staff ysgol eisoes wedi ennill Diploma Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma.  Dywedodd y bydd cyflwyno Cwricwlwm newydd Cymru yn golygu bod disgyblion yn cael asesiad unigol yn hytrach na chael eu monitro o fewn grwpiau.  Bydd cyrhaeddiad disgyblion yn cael ei fonitro a byddant yn derbyn cefnogaeth ac ymyrraeth os bydd angen. 

 

·      Cyfeiriwyd at y ffaith bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda sefydliadau sy’n bartneriaid. Codwyd cwestiynau ynghylch a all yr Awdurdod hwn ddylanwadu ar sefydliadau sy’n bartneriaid?

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod unrhyw waith partneriaeth a wneir gan yr Awdurdod yn cael ei lywio gan egwyddorion craidd. Dywedodd fod deddfwriaeth yn cefnogi cydraddoldeb drwy'r Ddeddf Llywodraeth Leol.  Yn ôl y Prif Weithredwr, mae cydweithio gyda sefydliadau sy’n bartneriaid yn bwysig ond mae angen sicrhau nad yw'r Awdurdod yn cyfaddawdu ar ei werthoedd craidd a sicrhau ei fod yn bartneriaeth ar y cyd.  Cyfeiriodd at Gynllun y Cyngor sy'n pwysleisio 4 gwerth; mae un o'r 4 gwerth yn cyfeirio at 'barchu a bod yn barchus tuag at eraill'.  Dywedodd fod yr Awdurdod wedi ymrwymo tuag at gydraddoldeb ac i amddiffyn pobl sy'n dioddef anfantais gymdeithasol ac economaidd.  Wrth fabwysiadu Cynllun y Cyngor, mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i greu Cynllun Cydraddoldeb newydd y flwyddyn nesaf. Dywedodd y Prif Weithredwr ymhellach ei bod yn bwysig bod cydraddoldeb yn cael ei gynnwys yng Ngherdyn Sgorio’r Cyngor sy'n cael ei fonitro bob chwarter; yna gallai adrodd ar gydraddoldeb fod yn rhan o'r broses fonitro yn hytrach na’i drafod yn flynyddol.

 

·      Cyfeiriwyd at gynigion Parcio ar Balmentydd gan Lywodraeth Cymru a’r gynnig i roi pwerau i Awdurdodau Lleol fynd i’r afael â pharcio ar balmentydd  

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor, fod y newid yn y ddeddfwriaeth o ran parcio’n anghyfreithlon ar balmentydd, yn golygu bydd modd i awdurdodau lleol gasglu data sy'n cael effaith ar gydraddoldeb gan fod angen i bobl allu cerdded yn ddiogel ar balmentydd. Dywedodd y bydd angen cynnal trafodaethau mewnol o ran gweithredu'r ddeddfwriaeth newydd, yn enwedig y gallu i orfodi.

 

·      O ran trefniadau asesu effaith yr Awdurdod, y nod yw bod nodi a lleihau effeithiau negyddol a hyrwyddo cydraddoldeb yn dod yn rhan o waith y Cyngor o ddydd i ddydd.  Sut gall y Pwyllgor hwn gyfrannu at wireddu hynny?

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod angen i'r Pwyllgor sicrhau bod asesiad effaith ar gydraddoldeb yn cael ei gynnal pan fydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'w ystyried gan y Pwyllgor.  Tynnodd sylw at yr angen i ystyried pob person o fewn cymdeithas pan wneir penderfyniadau.

 

·      Codwyd cwestiynau ynghylch faint o staff sydd wedi cytuno i ddarparu data ac a yw'n ddigonol darparu’r wybodaeth ofynnol sydd ei hangen ar y Cyngor a allai ychwanegu gwerth i'r Adroddiad Cydraddoldeb?

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod angen i'r Awdurdod sicrhau bod staff yn teimlo’n hyderus i rannu gwybodaeth.  Dywedodd y bydd hyfforddiant yn egluro i staff pam fod angen data penodol ar yr Awdurdod a bydd eu hymatebion yn cryfhau cydraddoldeb.  Dywedodd y Rheolwr Polisi a'r Gymraeg fod casglu data’n her a bod gwaith wedi ei wneud i adolygu'r dogfennau sy'n cael eu defnyddio gan staff.  Dywedodd ymhellach fod angen i staff fod yn hyderus bod y data a gasglwyd yn gyfrinachol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol ar gyfer 2021/2022.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: