Eitem Rhaglen

Rhaglen Cronfa Ffyniant Bro Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar Raglen Cronfa Ffyniant Bro Ynys Mȏn i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod cais a gyflwynwyd gan y Cyngor Sir wedi ei gymeradwyo ym mis Ionawr, 2023 am swm o £17m o fewn Rownd 2 y Gronfa Ffyniant Bro (LUF).  O’r 529 o geisiadau a gyflwynwyd yn y DU yn ystod yr ail rownd, dywedodd mai dim ond 111 (20%) oedd yn llwyddiannus. Mae hyn yn dangos bod Ynys Môn wedi cyflwyno cais o safon uchel iawn a’i fod wedi bodloni meini prawf a gofynion manwl Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a mwy. Yn ystod y cyfnod asesu daeth i'r amlwg mai dim ond cais yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghenion economaidd-gymdeithasol Caergybi fyddai'n debygol o fodloni gofynion penodol Llywodraeth y DU a chael unrhyw siawns o gael ei gymeradwyo.  Cyflwynwyd cyfanswm o 5 prosiect yng Nghaergybi a oedd yn cynnwys Mȏn Cymunedau yn Gyntaf; y Cyngor Tref; yr Eglwys yng Nghymru; Canolfan Ucheldre; a Chyngor Sir Ynys Môn - Adfywio Treftadaeth.  Dywedodd fod yr amserlen ar gyfer cyflwyno yn heriol gyda'r £17m i'w wario erbyn Mawrth 2025.  Roedd yr Arweinydd yn awyddus i ddiolch i staff y Gwasanaeth Datblygu Economaidd am eu gwaith caled wrth lwyddo i sicrhau'r arian grant i Gaergybi.

 

Rhoddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd wybodaeth am y broses o baratoi cais LUF i Lywodraeth y DU.  Dywedodd fod y cais yn cynnwys pecyn o brosiectau i gynyddu cyflogaeth, gwella canol y dref a phrofiad ymwelwyr, cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r dref a'r gwariant ganddynt, darparu gofod llawr modern i ddiwallu anghenion busnes, a chynyddu mynediad at gelfyddyd, diwylliant a hamdden.  Dywedodd ymhellach fod gan Gaergybi nifer o adeiladau masnachol sy'n wag a bod hynny ar gynnydd.  Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ymhellach mai dim ond Caergybi oedd â digon o brosiectau parod i'w cyflwyno ar gyfer cyllid LUF o fewn yr amserlen benodol.  Dywedodd mai cyfrifoldeb y Cyngor Sir yw datblygu, cyflwyno, rheoli a monitro'r rhaglen ddatblygiadau ac y bydd angen i'r Cyngor a'r Ynys ddangos bodd modd cyflawni'r prosiectau’n amserol, yn gost-effeithiol ac mewn dull sy'n cydymffurfio.  Bydd Bwrdd Partneriaeth yn cael ei sefydlu i reoli'r gwaith o ddarparu'r rhaglen a fydd yn cynnwys Uwch Swyddogion y Cyngor ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd.  

 

Wrth ystyried yr adroddiad bu'r Pwyllgor yn trafod y canlynol:-

 

·           Cyfeiriwyd at y ffaith bod costau deunyddiau adeiladu yn parhau i gynyddu.  Codwyd cwestiynau ynghylch beth fyddai'n digwydd pe na bai'r cyllid o £17m yn ddigonol i gwblhau'r 5 cais llwyddiannus yng Nghaergybi? Codwyd cwestiynau hefyd ynglŷn â lle byddai'r arian yn cael ei dargedu pe bai tanwariant o fewn y prosiectau?

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod y risg o gynnydd yng nghostau deunyddiau adeiladu wedi'i chynnwys wrth ddarparu'r prosiectau yn y rhaglen ynghyd â'r cynnydd mewn chwyddiant.  Mae mesurau wrth gefn wedi'u cynnwys o fewn y rhaglen. Bydd unrhyw danwariant o fewn un prosiect yn fodd i adnoddau fod ar gael i ariannu'r bwlch o fewn prosiectau eraill.  Aeth i'r afael â'r cwestiwn ynglŷn â thanwario posibl o fewn y rhaglenni a dywedodd y gallai prosiectau eraill gael eu cynnwys fel rhai wrth gefn cyn belled â'u bod yn ychwanegu gwerth i'r rhaglen. 

 

·           Codwyd cwestiynau ynghylch ag a fydd cwmnïau lleol ar Ynys Môn yn gallu contractio ar gyfer y gwaith o ganlyniad i'r ceisiadau llwyddiannus?

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd y bydd cwmnïau lleol yn cael cyfle i gontractio am y gwaith sydd ei angen o fewn y ceisiadau llwyddiannus.  Ond oherwydd y raddfa byddai angen hysbysebu’r contractau ar wefan 'Gwerthwch i Gymru' a Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.  Dywedodd ymhellach fod gweithdy wedi'i sefydlu i ganfod diddordeb cwmnïau adeiladu.   Oherwydd maint y datblygiadau dywedodd y Prif Weithredwr mai’r gobaith yw y bydd cwmnïau lleol yn llwyddo i ennill y contractau gyfer y gwaith yn hytrach nag un cwmni mawr yn contractio am y gwaith cyfan ar y 5 prosiect.

 

·           Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r risgiau pe na bai'r prosiectau'n cael eu cwblhau erbyn y dyddiad cwblhau, sef Mawrth 2025?

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod risgiau’n gysylltiedig â’r prosiectau a fyddai’n golygu na fyddent o bosibl yn cael eu cwblhau erbyn mis Mawrth 2025.  Dywedodd fod y Cyngor Sir yn y broses o lunio cytundebau cyfreithiol gyda'r pum sefydliad cyflenwi gan sicrhau bod rolau, cyfrifoldebau, trefniadau llywodraethu, monitro, perfformiad, hawliadau ac ati, oll yn cael eu hamlinellu a'u cytuno ar y dechrau.  Bydd y rhain yn seiliedig ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gan Lywodraeth y DU.  Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn aros am ymateb i fwrw ymlaen â'r prosiectau hyn.  Cynigiodd y Cadeirydd fod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor at Lywodraeth y DU er mwyn pwysleisio bod yr oedi cyn derbyn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn rhoi pwysau ar eu gallu i gwblhau’r prosiectau gan mai'r dyddiadau cwblhau yw Mawrth 2025.  Cytunodd y Pwyllgor bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth y DU fel y nodir uchod.

 

·           Codwyd cwestiynau ynglŷn â strategaeth economaidd y Cyngor ar gyfer unedau diwydiannol o fewn ardaloedd gwledig?

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oes ffrwd ariannu grantiau cyffelyb ar gael i gefnogi ardaloedd gwledig a bod y cyllid yn cael ei dargedu tuag at yr ardaloedd mwyaf poblog.  Sicrhaodd y byddai pwysau parhaus yn cael ei roi ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am gymorth i ardaloedd gwledig o ran datblygu economaidd. 

 

·           Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y mae rhaglen y Gronfa Ffyniant Bro fel y'i cymeradwywyd yn galluogi'r Awdurdod Lleol i wireddu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-2028?

 

Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Economaidd drwy gadarnhau bod rhaglen y Gronfa Ffyniant Bro’n cydymffurfio ag amcanion Cynllun y Cyngor.  Mae rhaglen LUF yn cynnig cyfleoedd adfywio a gobeithio y bydd yn ysbrydoli trigolion i ddysgu mwy am yr hanes a'r diwylliant sy'n deillio o'r prosiectau a gymeradwywyd.  Dywedodd ymhellach fod newid hinsawdd wedi ei nodi ym mhob prosiect a bod y Rheolwr Newid Hinsawdd wedi cael mewnbwn ym mhob prosiect.  

 

·           Cyfeiriwyd at y ffaith nad oes gan y Cyngor rôl gyflenwi uniongyrchol o fewn yr LUF.  Codwyd cwestiynau ynghylch pa drefniadau sydd ar waith i reoli'r prosiect unigol er mwyn ei gyflawni'n llwyddiannus?

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod Tîm LUF bach wedi'i sefydlu sy'n cynnwys Rheolwr Rhaglen a Chynorthwyydd Prosiect ynghyd â staff yn yr Adran Gyllid sydd â phrofiad o weithio gydag arian grant.  Mae adnoddau wedi eu cynnwys o fewn y cais i gael cyngor arbenigol.  Sefydlwyd fframweithiau llywodraethu gyda chyfraniad Swyddog Cyllid 151 a'r adran gyfreithiol.

 

·           Cyfeiriwyd at y ffaith y bydd Bwrdd Rhaglen yn cael ei greu er mwyn sicrhau bod mesurau llywodraethu cadarn ar waith.  Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd yn cael ei sicrhau fod gan y cynrychiolwyr ar Fwrdd y Rhaglen y sgiliau a'r profiad cywir i ymdrin â'r prosiectau?

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd y cynrychiolwyr ar Fwrdd y Rhaglen yn cynnwys y Prif Weithredwr, Swyddog Adran 151, Swyddog Monitro, ac Arweinydd y Cyngor ynghyd â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dywedodd fod rheoli'r prosiectau yn effeithiol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant. 

 

·           Cyfeiriwyd at y ffaith bod canol trefi wedi bod yn dirywio yn sgil siopau tu allan i'r dref a’r ffaith bod pobl yn siopa ar-lein a bod angen i ganol trefi fod yn fywiog er mwyn i bobl ddychwelyd i siopa yng nghanol y trefi.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod yn bwysig newid canol trefi er mwyn mynd i'r afael ag anghenion cymdeithas.  Cyfeiriodd at y cynigion prosiect a'r gobaith yw y bydd modd mynd i'r afael ag anghenion y boblogaeth iau gyda’r bwriad o sefydlu ysgol ddawns yn hen adeilad banc yr HSBC ynghyd ag estyniad i Adeilad yr Empire ar gyfer gweithgareddau chwarae plant.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ei bod yn bwysig bod plant a phobl ifanc yn cael llais pan fo datblygiadau o'r fath yn cael eu cynnig.  Dywedodd fod gan bob ysgol Gyngor Ysgol a'u bod yn trafod materion sy'n bwysig iddyn nhw.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Nodi’r cynnydd o ran datblygu cais i’r Gronfa Ffyniant Bro;

·           Cydnabod rôl y Cyngor wrth ddatblygu a chyflwyno’r cais;

·           Cefnogi’r gwaith o weithredu’r Gronfa Ffyniant Bro (yn unol â’r dyddiadau cau, allbynnau y cytunwyd arnynt ayb)

 

GWEITHREDU: fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: