Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd Ch3: 2022/23 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru Chwarter 3 : 2022/2023 Adroddiad Cynnydd i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod adroddiadau cynnydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cael eu cyflwyno’n rheolaidd i'r Pwyllgor hwn.  Dywedodd, fel yr adroddwyd yn y cyfarfod diwethaf, fod Fferm Sero Net Llysfasi bellach wedi'i thynnu'n ôl o'r Cynllun Twf, a bod y Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi gwneud rhai penderfyniadau allweddol ynghylch ail-glustnodi cyllid o fewn y cynllun.  Dywedodd nad yw rhai prosiectau wedi symud ymlaen fel y disgwyl a bod rhai cynlluniau busnes wedi eu cyflwyno i'r Bwrdd.  Mae'r Bwrdd wedi cyfarfod gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i dynnu sylw at yr heriau sy'n gysylltiedig â chyflawni'r prosiectau o ran rheoleiddio a chynllunio ynghyd â'r heriau sy'n wynebu'r rhanbarth o ran y sector busnes a denu buddsoddiadau preifat.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr ar y prosiectau lle gwnaed cynnydd ers yr adroddiad chwarterol diwethaf, sef:-

 

·      Prifysgol Bangor - Canolfan Ragoriaeth Ynni Carbon Isel (Egni) a fydd yn cael ei lleoli yn ail adeilad MSparc yn y Gaerwen. Y gobaith yw y bydd y prosiect yn symud ymlaen drwy'r prosesau ffurfiol yn yr wythnosau nesaf a dylid sicrhau cyllid, gyda chaniatâd cynllunio amlinellol yn cael ei gytuno;

·      Ynni Lleol Arloesol - cronfa ar gyfer prosiectau ynni gwyrdd a gymeradwywyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru;

·      Y Morglawdd, Caergybi - Mae Llywodraeth Cymru wedi cael £20m o arian ychwanegol yn dilyn cyllideb ddiweddar San Steffan i atgyweirio'r Morglawdd yng Nghaergybi.  Deellir y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid ychwanegol, tra bydd Stena Line perchnogion y Morglawdd hefyd yn cyfrannu buddsoddiad sylweddol.  Bydd hyn yn caniatáu i Gais Twf Caergybi symud ymlaen.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ymhellach y bydd buddsoddiadau sylweddol yng Nghaergybi dros y blynyddoedd nesaf yn sgil prosiect Y Morglawdd, Cais Twf, prosiect Porthladd Caergybi, prosiect LUF a'r Cais am Borthladd Rhydd.  Gallai'r buddsoddiad ddod i gyfanswm o £150m.

 

Wrth ystyried yr adroddiad bu'r Pwyllgor yn trafod y canlynol:-

 

·           Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r gallu o fewn yr Adran Datblygu Economaidd i ddelio â'r holl brosiectau ar yr Ynys?

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn her barhaus gan fod angen adnoddau ychwanegol i gyflawni'r cynlluniau ar yr Ynys.  Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi cytuno i ddarparu adnoddau ychwanegol o fewn y Gwasanaeth Datblygu Economaidd.  Mae gan y Gwasanaeth gytundeb fframwaith hefyd gyda chwmnïau arbenigol allanol h.y. Penseiri, Economegwyr, Rheolwr Prosiect. 

 

·           Codwyd cwestiynau ynghylch a fydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn trosglwyddo o dan y Cydbwyllgor Corfforaethol (CJC) a hefyd pwy fydd yn craffu ar waith y Cydbwyllgorau Corfforaethol?

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor mai'r bwriad yw y bydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn trosglwyddo o dan y Cydbwyllgorau Corfforaethol a bydd y broses graffu bresennol yn parhau o fewn yr awdurdodau lleol.  Dywedodd y bydd y broses graffu yn fwy eang yn sgil Strategaeth Trafnidiaeth Gogledd Cymru a'r Cynllun Datblygu Strategol. Ar hyn o bryd gwaith y Pwyllgor Sgriwtini yw adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Gwaith ac felly mae'r broses graffu yn cael dylanwad ar bolisïau'r Cyngor, fodd bynnag, bydd craffu ar y Cydbwyllgorau Corfforaethol yn her. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn gamarweiniol galw’r Cydbwyllgor Corfforaethol yn bwyllgor gam mai corff allanol ydyw sy'n codi ardoll ac yn ei farn ef, dylid cynnal trafodaethau rhwng Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru ynghylch a fyddai'n fanteisiol cael un Pwyllgor Sgriwtini ar draws y rhanbarth i graffu ar yr holl gyrff allanol.

 

·           Cyfeiriwyd o fewn yr adroddiad fod y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol wedi'i lleoli ar Stad Ddiwydiannol Mona a bod cais am leoliad arall ar gyfer y prosiect.  Codwyd cwestiynau ynghylch a fydd y lleoliad arall ar yr Ynys?

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod trafodaethau'n cael eu cynnal.  Dywedodd fod yr adeilad ym Mona wedi cael ei ariannu gan arian Ewropeaidd a'i fod bellach wedi dod i ben.  Mae'r cyllid LUF a SPF sydd ar gael yn llawer llai na'r cyllid Ewropeaidd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod Chwarter 3: 2022/2023.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: