Eitem Rhaglen

Sefydlu Cyllideb 2023/24 - Cynigion Drafft Terfynol y Gyllideb Gyfalaf

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses ar gyfer gosod Cyllideb Gyfalaf 2023/24, gan gynnwys rôl allweddol Strategaeth Gyfalaf y Cyngor gan fod ei hegwyddorion yn sail i raglen gyfalaf y Cyngor. Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fydd gerbron y Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023, ynghlwm yn Atodiad 1 ac roedd yn nodi’r cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb 2023/24 i’w cymeradwyo i’r Cyngor Llawn ar 9 Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, fod gwneud buddsoddiadau cyfalaf yn dod yn fwyfwy anos gan na welwyd fawr o gynnydd yn yr adnoddau i gefnogi gwariant cyfalaf, a Chyllid Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru yn benodol, ers nifer o flynyddoedd ac mae gwerth y cyllid wedi erydu’n sylweddol yn ystod y deuddeg mis diwethaf oherwydd chwyddiant. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn argymell cyllideb gyfalaf o £37.962m ar gyfer 2023/24 sydd yn cynnwys cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2022/23; adnewyddu a/neu amnewid asedau; prosiectau cyfalaf untro newydd; rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT), a bydd yn cael ei hariannu gan y Grant Cyfalaf Cyffredinol, Benthyca â Chymorth a Derbyniadau Cyfalaf, ac, yn achos y CRT, cronfa’r CRT.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod grantiau ychwanegol yn debygol o gael eu derbyn yn ystod y flwyddyn a byddant yn cael eu hymgorffori yn y gyllideb gyfalaf. At ei gilydd, ni welwyd fawr o newid yng nghyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol a benthyca â chymorth, ers nifer o flynyddoedd ac mae cyllid grant ychwanegol yn elfen gynyddol bwysig o gyllid cyfalaf. Mae’r posibilrwydd o ddefnyddio derbyniadau cyfalaf yn gyfyngedig iawn gan fod unrhyw asedau nas gwerthwyd wedi’u clustnodi’n barod ar gyfer cynlluniau presennol. Mae’r Cyngor felly’n gynyddol ddibynnol ar grantiau cyfalaf ychwanegol yn ystod y flwyddyn i ariannu unrhyw fuddsoddiadau tu hwnt i gynnal ei asedau presennol. 

Wrth ystyried y cynigion ar gyfer y gyllideb gyfalaf, codwyd y materion a ganlyn gan y Pwyllgor –

·                P’un ai yw cynigion y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 yn caniatáu i’r Cyngor gyflawni ei flaenoriaethau tymor canol wrth gydbwyso pwysau yn y tymor byr, a ph’un ai yw egwyddorion Strategaeth Gyfalaf y Cyngor yn caniatáu i’r Cyngor gyflawni ei amcanion corfforaethol.

Hysbyswyd y Pwyllgor bod y cyllid cyfalaf craidd gan Lywodraeth Cymru bellach ond yn ddigonol i gwrdd â chostau atgyweirio ac adnewyddu asedau presennol y Cyngor a dibynnir ar arian grant ar gyfer unrhyw fuddsoddiadau newydd. Mae sefyllfa’r Cyfrif Refeniw Tai yn wahanol gan fod lefelau cronfeydd y CRT, sy’n cael eu defnyddio i ariannu tai newydd, yn iach. Bydd y CRT yn benthyca ar ôl i’w gronfeydd wrth gefn ostwng i’r isafswm a osodwyd yng Nghynllun Busnes y CRT er mwyn parhau â’r gwaith datblygu hwnnw; mae’r CRT yn cynhyrchu digon o refeniw o incwm rhent i gwrdd â chostau benthyca yn y dyfodol. Felly, mae sefyllfa’r CRT yn golygu fod mwy o fuddsoddiad a gwariant cyfalaf yn bosib ar yr ochr dai o gymharu â’r hyn y gall y Grant Cyfalaf Cyffredinol ei gyflawni ar gyfer gweithgareddau eraill yn y Strategaeth Gyfalaf; fodd bynnag, mae’r CRT wedi’i glustnodi, ac, o dan y gyfraith, ni chaniateir ei ddefnyddio i ariannu unrhyw weithgaredd neu fuddsoddiad nad yw’n gysylltiedig â stoc dai’r Cyngor.

Ychwanegodd y Prif Weithredwr, os bydd y rhagolygon ariannol ac economaidd yn aros yr un fath yn y tymor canolig a’r tymor hir, yna bydd rhaid i’r Cyngor ystyried a yw’n gallu parhau i gynnal ei holl adeiladau/asedau i lefel dderbyniol ac, o’r herwydd, efallai y bydd rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd. Nid yw arian grant yn cael ei warantu gan fod arian grant yn aml yn cael ei ddyfarnu ar sail gystadleuol ac nid yw hyn yn creu amgylchedd ddelfrydol ar gyfer cynllunio gwariant a buddsoddiad cyfalaf yn y tymor hir.

·      I ba raddau mae’r Cyngor yn rhydd i wario arian cyfalaf ar flaenoriaethau lleol.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod modd i’r Cyngor wario’r Grant Cyfalaf Cyffredinol a’r elfen benthyca â chymorth gan Lywodraeth Cymru fel y mynno, ond bellach nid yw’r cyllid hwnnw ond yn ddigonol i gwrdd â chostau cynnal asedau presennol. Mae’r Cyngor yn ddibynnol ar grantiau cyfalaf ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ychwanegol ond gosodir amodau ar nifer ohonynt sy’n eu cyfyngu i faes gwasanaeth neu weithgaredd benodol. Gall y Cyngor fenthyca heb gymorth, gan olygu y byddai’n rhaid iddo ariannu cost y benthyciad o’i ffynonellau refeniw ei hun; mae’r Côd Darbodus yn gosod cyfyngiadau ar fenthyca’r Cyngor i sicrhau fod unrhyw fenthyciadau’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy, oni bai y gellir dangos fod y benthyca ar gyfer cynlluniau sy’n gallu cwrdd â’u costau neu sy’n cynhyrchu arbedion refeniw.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Cyllid, fod y Panel wedi craffu ar y gyllideb gyfalaf ddrafft derfynol yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2023 a’i fod wedi tynnu sylw at lefel y llithriad blynyddol yn y rhaglen gyfalaf sy’n awgrymu, efallai, fod rhagolygon y Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf yn rhy optimistaidd.

 

Ystyriodd y Panel sut y gallai gynorthwyo i fonitro cynnydd mewn perthynas â gwariant cyfalaf.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod, ac ystyried adborth y Panel Sgriwtini Cyllid, penderfynwyd argymell i’r Pwyllgor Gwaith gyllideb gyfalaf arfaethedig o £37.962m ar gyfer 2023/24.

 

 (Bu i’r Cynghorydd Aled M. Jones atal ei bleidlais)

 

Dogfennau ategol: