Eitem Rhaglen

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023-2053

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, sy’n ymgorffori Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023-2053, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Cyflwynwyd y Cynllun Busnes gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai. Nodwyd ei fod yn adlewyrchu gweledigaeth y Cyngor sef “fod gan bawb yr hawl alw rhywle ’n gartref.” Mae’r Cyfrif Refeniw Tai yn ariannu holl weithdrefnau stoc tai y Cyngor. Elfen bwysig o’r Cyfrif yw’r ymrwymiad i ymestyn stoc dai y Cyngor er mwyn bodloni anghenion tai amrywiol ledled yr Ynys, ac roedd yr Aelod Portffolio yn falch o gefnogi hyn.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod rhaid i’r Cyngor gyflwyno ei gais am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (LAM) gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â Chynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 30 mlynedd i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth er mwyn sicrhau’r LAM ar gyfer 2023/24, sydd werth £2.688m. Mae’r cynllun yn ffurfio’r adnoddau sylfaenol ar gyfer cynllunio ariannol a darparu a rheoli stoc tai’r Cyngor, ac mae’n egluro sut mae’r Cyngor yn sicrhau bod ei stoc yn bodloni Gofynion Safonau Ansawdd Tai Cymru; sut mae’n bwriadu cynnal a gweithio tuag at y safonau newydd y cytunir arnynt yn fuan gan Lywodraeth Cymru a’r buddsoddiad sydd ei angen i ariannu rhaglen datblygu tai cyngor newydd y Cyngor. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i barhau gyda’i waith o ddatgarboneiddio a chynnal effeithlonrwydd ynni gyda £1m wedi’i glustnodi er mwyn targedu’r gwaith o osod 250 systemau Solar OV pellach. Yn ogystal â hyn, mae £8.749m wedi’i neilltuo ar gyfer 2023/24 er mwyn datblygu rhaglen o dai cyngor newydd a phrynu tai cyngor blaenorol ar yr Ynys. Mae’r Cynllun Busnes yn bwriadu cynnal rhaglen ddatblygu 45 uned yn 2023/24 ac yn ystod bywyd y Cynllun. Mae’r Cynllun Busnes wedi bod yn destun prawf straen er mwyn bod yn atebol o risgiau unigol a chyfunol, ac mae’n parhau’n hyfyw dros 30 mlynedd y cynllun.

Bu i’r Pwyllgor ystyried cynnwys y Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai a chafwyd trafodaeth am y materion canlynol –

·         Sut fydd y strategaeth arfaethedig yn galluogi’r Cyngor i gyflawni’r blaenoriaethau strategol o fewn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28. Cynghorwyd y Pwyllgor mai’r weledigaeth sydd wrth wraidd y Cynllun Busnes Refeniw Tai yw sicrhau bod gan bawb yr hawl i alw rhywle ‘n gartref, sy’n cyd-fynd ag un o amcanion strategol Cynllun y Cyngor. Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, rhaid sicrhau bod y cartrefi cywir yn cael eu datblygu yn y lleoedd cywir a’r niferoedd cywir, a chredir bod y strategaeth yn galluogi hynny. Mewn ymateb i’r cwestiynau ynghylch prynu tai cyngor blaenorol sydd wedi cael eu prynu dan yr hawl i brynu, ac sydd bellach yn cael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Cyngor yn ceisio prynu o leiaf 15 tŷ cyngor blaenorol bob blwyddyn, a bydd yn prynu mwy na’r nifer hwnnw os bydd cyfleoedd ac adnoddau’n caniatáu hynny. Fodd bynnag, er na all y Cyngor brynu eiddo preifat at ddibenion tai cyngor gan na fyddent yn bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru, mae ganddo gynlluniau ar waith i helpu pobl leol brynu eiddo ar y farchnad agored.

·         Fforddiadwyedd y rhaglen ehangu tai cyngor arfaethedig yn y sefyllfa economaidd bresennol. Cynghorwyd y Pwyllgor fod Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei gefnogi gan fodel ariannol 30 mlynedd fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac mae hefyd yn cynnwys dadansoddiad sensitifrwydd sy’n dangos cryfder y cynllun. Maent yn seiliedig ar ragdybiaethau a pharamedrau allweddol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn rhagweld yr adnoddau fydd ar gael, a’r rhai sydd eu hangen, er mwyn cynnal Safonau Ansawdd Tai Cymru, y capasiti ar gyfer y rhaglen adeiladu newydd a rhoi sicrwydd ar addasrwydd tymor hir a sefydlogrwydd ariannol y Cyfrif Refeniw Tai. Os bydd chwyddiant yn parhau’n uchel, neu’n cynyddu, gan effeithio ar gostau, efallai y bydd angen ail-ystyried lefel yr ehangiad. Er yr asesir pob datblygiad tai unigol o ran hyfywedd yn unol â model ariannol cytunedig, mae’r Pwyllgor Gwaith wedi cytuno pe byddai angen am ddatblygiad, gall fynd yn ei flaen ar y sail honno yn hytrach na sail costau. Ar ôl bodloni’r Safonau Ansawdd Tai Cymru yn 2012, mae gan y Cyngor y gallu i ymgymryd â datblygiad tai fydd yn cael ei ariannu’n uniongyrchol drwy falans y Cyfrif Refeniw Tai, ac yna drwy fenthyca’r gost fydd yn cael ei gydweddu gan incwm a gynhyrchir drwy’r Cyfrif. Fodd bynnag, rhaid ystyried ffactorau eraill megis argaeledd tir a chontractwyr.

·         I ba raddau mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn ceisio ymdrin â chyflenwi llety ar gyfer oedolion a theuluoedd bregus. Dywedwyd wrth y Pwyllgor ei bod hi’n bwysig fod anghenion y bobl ar y Gofrestr Tai Cymdeithasol yn cael eu bodloni. Ar hyn o bryd mae 908 o ymgeiswyr ar y gofrestr, ac mae’r rhan fwyaf angen eiddo anghenion sylfaenol 1 a 2 ystafell wely ac eiddo i bobl hŷn. Mae’n bwysig fod darpariaeth tai fforddiadwy’n cynnwys sawl math gwahanol o dendrau a llety er mwyn bodloni anghenion gwahanol grwpiau gwahanol.

·      Problemau capasiti o fewn y Gwasanaeth Tai ac ymhlith datblygwyr a chontractwyr y sector preifat sy’n gweithio gyfochr â’r Cyngor i adeiladu tai newydd ac a oes unrhyw risgiau wedi’u hadnabod a mesurau lliniaru ar waith. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gellir datblygu capasiti/gweithlu mewnol a gellir adolygu’r fframwaith caffael er mwyn galluogi/hwyluso datblygwyr y sector preifat i weithio gyda’r Cyngor i adeiladau tai newydd. Er y cydnabyddir fod capasiti yn risg, ystyrir bod Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, fel amcan i ddarparu 45 o unedau bob blwyddyn, yn cyflawni cydbwysedd priodol rhwng uchelgais a’r hyn sy’n gyraeddadwy.

·      Y cyflenwad o dai cymdeithasol sydd ei angen er mwyn bodloni’r galw ar y gofrestr dai ac argaeledd cefnogaeth ar gyfer y blaendaliadau tro cyntaf a/neu gyfraniadau at flaendal rhent. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod nifer y bobl ddigartref sy’n cyflwyno eu hunain i’r Gwasanaeth Tai yn annisgwyl, gan gynnwys 85 aelwyd sydd mewn llety brys neu dros dro, a bod y rhestr aros am dai cymdeithasol yn sylweddol. Er bod y Gwasanaeth Tai a Chymdeithasau Tai yn gosod dros 350 o dai bob blwyddyn, mae’r rhestr aros yn parhau i dyfu, gan ei gwneud hi’n anodd mesur y cyflenwad gofynnol. Fodd bynnag, mae ffigyrau’n dangos cynnydd yn yr angen am dai fforddiadwy boed hynny drwy rent sylfaenol, rhent canolradd neu gymorth i brynu. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth Tai fod cynlluniau ar gael er mwyn cynnig cymorth gyda blaendaliadau yn ddibynnol ar angen ac amgylchiadau unigol, ac yn y cyd-destun hwn, eglurodd y gwahaniaeth rhwng tai rhent sylfaenol a rhent canolradd.

·      Yr angen i hysbysebu cynlluniau cymorth a chefnogaeth y Gwasanaeth Tai a gweithgareddau a gynigir gan y Gwasanaeth sy’n ymwneud a thlodi. Cynghorwyd y Pwyllgor y gellir ymgorffori cyhoeddusrwydd o’r fath yn yr Adroddiad Blynyddol ar ddarparu’r Cynllun Busnes sy’n crynhoi’r hyn sydd wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, mae’r Gwasanaeth yn cydnabod fod y gefnogaeth mae’n ei ddarparu i helpu pobl gael eu cartrefi ei hunain angen ei farchnata’n fwy eang, ac ymdrinnir â hyn fel rhan o Gynllun Darparu’r Gwasanaeth a’r rhaglen waith ar gyfer chwarter cyntaf 2023/24.

Ar ôl sgriwtineiddio’r Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai, nodi’r wybodaeth ychwanegol a darparu’r sicrwydd yn y cyfarfod, penderfynwyd argymell Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023-2053 i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dogfennau ategol: