Eitem Rhaglen

Monitro Cynnydd: Adroddiad Cynnydd y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n amlinellu’r cynnydd a datblygiadau diweddaraf o fewn y Gwasanaethau Oedolion, Plant a Theuluoedd, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Bu i’r Cynghorwyr Alun Roberts a Gary Pritchard, Aelodau Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant, ddarparu crynodeb o uchafbwyntiau’r cynnydd o fewn y ddau wasanaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad, a chyfeiriwyd yn benodol at Adroddiad Gwerthuso Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru am Wasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022, a oedd yn crynhoi’r canfyddiadau o archwiliad yr Arolygiaeth ar Wasanaethau Oedolion, Plant a Theuluoedd Ynys Môn a gynhaliwyd yn ystod Hydref 2022. Roedd yr adroddiad yn myfyrio’n gadarnhaol ar sawl maes, ac yn adnabod nifer o gryfderau yn ogystal â meysydd i’w gwella. Mae gweithgor mewnol wedi’i sefydlu er mwyn mynd i’r afael â’r meysydd hynny. Mae heriau recriwtio yn parhau i fodoli, ac maent yn heriau a welir yn genedlaethol, yn enwedig mewn perthynas â staff cartrefi gofal preswyl a gweithwyr gofal cartref. Mae’r Gwasanaeth yn parhau i weithio’n agos gyda Choleg Menai a chydweithwyr o fewn swyddogaeth AD yr Awdurdod i ddenu pobl i’r proffesiwn gofal cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn.

Darparodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wybodaeth ynghylch cyd-destun yr adroddiad ar gynnydd sydd wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ar sail chwarterol i ddechrau ac yna, bob chwe mis, a dywedodd mai’r bwriad oedd rhoi sicrwydd ynghylch cynnydd ym mherfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, yn dilyn adroddiad beirniadol gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2016, a pherfformiad y Gwasanaethau Oedolion yn fwy diweddar. Mae’r sicrwydd a ddarparwyd drwy’r adroddiadau cynnydd hynny, yn ogystal ag adroddiad blynyddol gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cynnydd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, wedi’i gefnogi ymhellach gan adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal Cymru sydd hefyd yn canmol y Gwasanaethau Oedolion. Mae’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion bellach yn cynhyrchu Cynlluniau Datblygu Gwasanaeth newydd, gan ddefnyddio ac adeiladu ar y cynnydd a wnaed, a byddant yn cael eu cyflwyno i Banel Sgriwtini’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn cael eu sgriwtinieddio.

Wrth ystyried yr adroddiad, bu i’r Pwyllgor drafod y canlynol-

·      Y trefniadau ar waith i fonitro cynnydd yn erbyn meysydd sydd angen sylw. Cynghorwyd y Pwyllgor o’r amryw ffyrdd y mae cynnydd yn cael ei olrhain ac mae sicrwydd yn cael ei ddarparu, gan gynnwys y berthynas agos a chyson sydd gan y Gwasanaeth gyda rheoleiddwyr; drwy brosesau corfforaethol a democrataidd gan gynnwys Sgriwtini a’r Pwyllgor Gwaith, drwy’r Tîm Arweinyddiaeth Strategol sy’n darparu lefel o oruchwyliaeth, a drwy gyfarfod, adolygiadau archwilio a monitro perfformiad rheolaidd yn fewnol o fewn y gwasanaeth ei hun. Mae’r Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid yn y maes Iechyd a meysydd eraill i adnabod heriau.

·      Y ffrydiau gwaith blaenoriaeth ar gyfer Panel Sgriwtini’r Gwasanaethu Cymdeithasol dros y cyfnod nesaf. Cynghorwyd y Pwyllgor y bydd y rhain yn cael eu gyrru gan adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru mewn perthynas â’r meysydd sydd wedi’u hadnabod ar gyfer ffocws parhaus, gan y Gynlluniau Datblygu’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Gwasanaeth Oedolion.

·      Y bwriad i beidio ag adrodd ar gynnydd gwelliannau’r Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, ac yn hytrach i’r Pwyllgor Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol fydd yn parhau i adroddiad i’r Pwyllgor hwn. Mynegodd y Pwyllgor ei fod yn fodlon â gallu’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol i herio a monitro cynnydd a datblygiad, ac i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

Penderfynwyd –

·         Cadarnhau fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn fodlon â’r cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yn hyn o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

·         Argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod cyflymdra’r cynnydd a gwelliannau o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn briodol, ac

·         I gefnogi’r bwriad i beidio ag adrodd ar gynnydd y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, ond i dderbyn adroddiadau yn y dyfodol gan Banel Sgriwtini y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Dogfennau ategol: