Eitem Rhaglen

Diweddariad Archwilio Mewnol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a roddai’r wybodaeth ddiweddaraf hyd at 31 Mawrth, 2023 am yr archwiliadau a gwblhawyd ers y diweddariad blaenorol i’r Pwyllgor 31 Ionawr, 2023. Roedd yr adroddiad, hefyd, yn nodi llwyth gwaith presennol Archwilio Mewnol a'i flaenoriaethau ar gyfer y tymor byr i'r tymor canolig wrth symud ymlaen. Rhoddwyd copïau i aelodau'r Pwyllgor o'r pum darn o waith sicrwydd a gwblhawyd yn y cyfnod mewn perthynas ag Adennill Dyledion y Cyngor ac Effaith Covid-19 (Yr Ail Ddilyniant) (Sicrwydd Cyfyngedig); Cydymffurfiaeth Rheoleiddio Diogelwch Nwy (Tai) (Sicrwydd Rhesymol), Archwiliad TG – Rheoli’r Cwmwl (Sicrwydd Rhesymol); Taliadau cynhaliaeth cyflenwyr a thaliadau dyblyg (Sicrwydd Rhesymol) ac effeithiolrwydd y Cyngor o ran rheoli ei risg strategol YM11 – Tlodi (Sicrwydd Rhesymol) dan yswiriant ar wahân.

 

Rhoddodd y Pennaeth Archwilio a Risg drosolwg o'r adroddiad gan gynnwys crynodeb o ganlyniad y gwaith a gwblhawyd a'r meysydd gwaith oedd ar y gweill ar hyn o bryd, fel y gwelid yn y tabl ym mharagraff 38 yr adroddiad. Cyfeiriodd at yr Ail adolygiad o’r dilyniant ar Sicrwydd Cyfyngedig mewn perthynas ag Adennill Dyledion y Cyngor ac Effaith Covid-19 oedd wedi ceisio sefydlu a oedd y rheolwyr wedi mynd i'r afael â'r materion/risg oedd yn disgwyl sylw ac a godwyd yn yr adroddiad Sicrwydd Cyfyngedig, dyddiedig Tachwedd, 2021. Er i’r adolygiad ganfod fod y Gwasanaeth wedi gwneud rhywfaint o gynnydd cadarnhaol, ni allai’r Archwilwyr Mewnol gynyddu’r sgôr sicrwydd o Cyfyngedig oherwydd bod y cwmni ymgynghori TG a gomisiynwyd i weithio gyda’r Gwasanaeth i fynd i’r afael â’r materion a’r risgiau a godwyd a gwella prosesau o fewn yr adran Incwm wedi cael eu symud i weithio ar uwchraddio system Capita Revenue. Cadarnhaodd fod Uwch-archwilydd newydd wedi’i benodi ac wedi dechrau yn ei swydd 1 Ebrill, 2023. Dywedodd y câi'r arbedion cyllidebol o’r un swydd wag oedd yn weddill ar lefel yr Uwch-archwiliwr eu defnyddio i gomisiynu cymorth allanol, gan gynnwys gwaith archwilio TG technegol gan Dîm Archwilio yng Nghyngor Salford. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gefnogi gwasanaethau i roi'r holl gamau gweithredu oedd yn disgwyl sylw ar waith, gan gyflwyno gwybodaeth fanylach am statws y camau gweithredu oedd yn disgwyl sylw mewn adroddiad ar wahân i'r cyfarfod.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y sefyllfa gyda dyledion drwg yng nghyd-destun adroddiad yr ail Ddilyniant (Sicrwydd Cyfyngedig) ar Adennill Dyled y Cyngor ac Effaith Covid-19.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y bu gostyngiad bychan yn Nhreth y Cyngor a gasglwyd yn ystod y flwyddyn oherwydd yr argyfwng costau byw, yn ôl pob tebyg. Nid proses blwyddyn oedd casglu Treth y Cyngor, o gymryd i ystyriaeth yr ystod o gamau adennill a gorfodi a'r amser yr oedd y rheiny'n ei gymryd i'w gweithredu. Fodd bynnag, nid oedd y gosb o garchar a weithredid pe bai pob opsiwn arall yn methu, ar gael yng Nghymru bellach ac roedd wedi'i gwneud hi'n anoddach fyth ymdrin â dyledion problemus. Roedd y Cyngor, yn gynyddol, wedi cyflwyno taliadau ar-lein ymlaen llaw am wasanaethau, gan gynnwys casglu gwastraff gardd gwyrdd a ffioedd cynllunio ac er bod yna ddyledion oedd yn dal yn anodd eu casglu, megis ffioedd gofal cymdeithasol a gordaliadau budd-daliadau tai, nid oedd y Cyngor wedi gweld cynnydd sylweddol mewn dyled hyd yn hyn. Roedd ailstrwythuro’r drefn staffio wedi arwain at greu swydd Rheolwr Adfer benodedig ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i wneud y broses adennill incwm trwy ei holl gamau yn fwy effeithlon ac effeithiol, gan gynnwys gwella dangosyddion perfformiad y gwasanaeth. Mewn ymateb i ymholiad pellach ynglŷn â chyllideb ar gyfer dyledion drwg, eglurodd y Swyddog Adran 151, o ran Treth y Cyngor, bod sylfaen y dreth wedi’i gosod ar 98.5% o’r cyfanswm oedd yn caniatáu ar gyfer darpariaeth o 1.5% i warchod rhag dyledion drwg, yn ogystal â newidiadau yn y flwyddyn o ran gostyngiadau ac eithriadau, er nad oedd cyllideb benodol fel y cyfryw. Gan y câi ardrethi annomestig eu cronni’n ganolog, y gronfa yn hytrach na’r Cyngor oedd yn dioddef y golled am beidio â thalu a châi mân ddyledion eraill eu hadlewyrchu yng nghyllidebau incwm gwasanaethau pan osodid y rheiny.

 

Penderfynwyd derbyn y diweddariad a nodi darpariaeth sicrwydd a blaenoriaethau Archwilio Mewnol ar gyfer y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: