Eitem Rhaglen

Adolygiad o'r Fframwaith Rheoli Risg

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori Polisi a Strategaeth Rheoli Risg newydd arfaethedig ynghyd â Chanllawiau Rheoli Risg cysylltiedig.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant at brif agweddau'r Polisi Rheoli Risg oedd yn cydnabod y gall risgiau gael effaith ar nodau, amcanion a darpariaeth gwasanaeth; eu bod yn fygythiad a, hefyd, yn darparu cyfleoedd a bod angen eu hadnabod a’u rheoli er mwyn llywio’r broses gwneud penderfyniadau. Roedd y Strategaeth Rheoli Risg yn egluro sut y câi’r polisi ei gyflawni ac yn nodi'r datganiad o ran bod yn barod i dderbyn risg, sef lefel y risg yr oedd y Tîm Arwain yn teimlo bod y Cyngor yn ceisio gweithredu oddi mewn iddi. Roedd y Canllawiau Rheoli Risg yn rhoi manylion y broses i'w dilyn ac yn egluro'r gwahanol ystyriaethau oedd eu hangen, gan ddibynnu ar natur y risg. Roedd y canllawiau'n cynnwys adran newydd ar agweddau cadarnhaol neu gyfleoedd risg. Roedd fersiwn newydd o'r feddalwedd rheoli risg yn cael ei chyflwyno, oedd hefyd yn golygu newid yn y ffordd y câi risg ei sgorio o'r dull alffa-rifol o sgorio risgiau i'r dull rhifol traddodiadol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth ystyried y dogfennau’r oedd y Pwyllgor yn cydnabod eu bod yn gynhwysfawr, codwyd y pwyntiau a ganlyn -

 

  • Ystod y gosodiadau parodrwydd i dderbyn risg ar gyfer y gwahanol gategorïau risg yn y Datganiad Parodrwydd i Dderbyn Risg a sut y penderfynwyd ar y rhain. Dywedodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant y gofynnwyd i bob aelod o'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol werthuso'n unigol y parodrwydd i dderbyn risg ar gyfer pob categori risg. Wedi hynny, casglwyd y wybodaeth a ddeilliodd o hynny, diystyrwyd y gwerthoedd uchaf ac isaf a chymerwyd gwerth canolrif y gweddill a gynhyrchodd y gwerthoedd, fel y’u nodir yn y datganiad parodrwydd i dderbyn risg.
  • Y dull a ddefnyddid i reoli risg contract, yn enwedig y rhai yn y sector adeiladu er mwyn lleihau'r risg o golledion ariannol a gorwariant. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod contractau adeiladu y mae’r Cyngor yn ymrwymo iddynt yn seiliedig ar asesiad o allu contractwr i gyflawni yn ogystal ag ystyriaethau pris a gwerth am arian ac y gwneid gwiriadau diwydrwydd dyladwy. Roedd rheolaethau lliniarol fel arfer ar ffurf bond perfformiad oedd yn cwmpasu cost ail-dendro ac unrhyw gostau uwch a godai o hynny pe na fyddai contractwr yn gallu cwblhau prosiect. Cyflawni lefel o wariant cyfalaf yn unol â dyheadau’r Cyngor e.e. gall adeiladu 45 o gartrefi cyngor newydd bob blwyddyn fod yn anodd oherwydd problemau capasiti contractwyr lleol ac roedd ymgysylltu â chontractwyr o ymhellach i ffwrdd, fel arfer, yn golygu costau uwch. Roedd y Cyngor yn ceisio gweithio gyda chontractwyr lleol mewn ysbryd partneriaid contract ac fel ffynhonnell fusnes tymor hir dibynadwy.
  • Y diffyg cyfeiriad yn y Strategaeth Rheoli Risg at ddysgu gwersi o risgiau oedd wedi dod i'r amlwg a sut y câi hynny ei gyfathrebu a'i gymhwyso ar draws y Cyngor. Wrth gydnabod y pwynt, dywedodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant fod dysgu o risgiau yn rhan o'r broses reoli ond y câi ystyriaeth ei rhoi i egluro'r agwedd honno yn y strategaeth.

 

Penderfynwyd nodi’r Polisi a’r Strategaeth Rheoli Risg.

 

Dogfennau ategol: