Eitem Rhaglen

Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn cynnwys Strategaeth Wella Canol Trefi Ynys Môn.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd fod y strategaeth yn cyflawni’r amcan o wella bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi yn y Cynllun y Cyngor newydd, yn ogystal â chydymffurfio ag argymhellion perthnasol gan Lywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru i awdurdodau lleol mewn perthynas ag adfywio canol trefi. Yn amodol ar gymeradwyo’r strategaeth, cynhelir proses ymgynghori ac ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid i gasglu barn a sylwadau ac i geisio cefnogaeth i’r strategaeth arfaethedig cyn llunio strategaeth derfynol fydd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ei mabwysiadu ddiwedd 2023. Pwysleisiodd bwysigrwydd derbyn barn y cyhoedd ynghylch eu hanghenion nhw ar gyfer canol trefi, yn ogystal â barn busnesau presennol a busnesau sydd wedi gadael canol trefi hefyd, er mwyn deall eu rhesymau dros wneud hynny a beth fyddai’n eu denu’n ôl.

 

Dywedodd y Rheolwr Adfywio wrth y Pwyllgor Gwaith fod pob awdurdod lleol wedi derbyn cais i roi diweddariad i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar gynnydd o ran adfywio canol trefi, pwnc sydd o ddiddordeb i nifer o bobl. Bydd y strategaeth hon hefyd yn golygu y bydd modd sicrhau cyllid at ddibenion adfywio. Comisiynwyd y cwmni Commonplace i gynorthwyo’r Cyngor i ddylunio’r broses ymgynghori, fydd yn cael ei chynnal ar-lein, yn ogystal ag yn lleol yn y gymuned. Mae Comisiwn Dylunio Cymru hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar y broses i bob awdurdod lleol, ac, yn dilyn hynny, bydd y Cyngor yn llunio’r ddogfen ymgynghori gyda Commonplace.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, adroddiad yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 19 Ebrill 2023 pan drafodwyd Strategaeth Canol Trefi Ynys Môn. Roedd y Pwyllgor wedi ceisio eglurhad ynghylch y diffiniad o dref a chanol tref a ph’un a oes unrhyw fwriad i gefnogi a gwella pentrefi’r ynys. Roedd yr Aelodau wedi holi am alinio’r strategaeth â ffrydiau gwaith cynllunio lle a chynlluniau i gryfhau isadeiledd mewn cymunedau unigol. Trafodwyd buddion a risgiau pennaf y strategaeth arfaethedig hefyd, yn ogystal â mesurau i liniaru’r risgiau. Roedd y pwyllgor wedi ceisio eglurhad hefyd am y cyfleoedd a’r heriau yn gysylltiedig â’r ddibyniaeth ar arian grant cystadleuol i gyflawni strategaethau a rhaglenni gwaith sylweddol. Gofynnodd yr Aelodau am argaeledd buddsoddiad preifat i ariannu rhaglenni adfywio canol trefi Ynys Môn ac i ba raddau y byddai’n bosib ceisio cymeradwyaeth i gynlluniau gwario i arbed er mwyn cynyddu capasiti staffio mewnol. Nododd y pwyllgor fod penderfyniadau arwyddocaol gan randdeiliaid yn aml yn gatalydd ar gyfer adfywio canol trefi. Holodd y pwyllgor am y broses ymgynghori gyhoeddus, ac yn arbennig yr amserlenni, y strategaeth gyfathrebu a’r meysydd daearyddol i’w cynnwys. Roedd y Pwyllgor wedi nodi cynnwys y strategaeth ddrafft ac wedi argymell y strategaeth i’r Pwyllgor Gwaith er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus arni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio ar gyfer Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai, er bod y strategaeth yn un ar gyfer y sir gyfan, ni fydd un ateb sy’n addas i bawb yn briodol oherwydd nodweddion gwahanol y trefi, fel y dengys y Trosolwg o Drefi/Canolfannau Trefol yn atodiad 1 yr adroddiad. Mae’n bwysig felly fod pobl ledled yr Ynys yn ymateb i’r ymgynghoriad er mwyn adlewyrchu gwahanol anghenion y trefi a sicrhau fod y strategaeth derfynol yn ystyrlon ac yn berthnasol i bob tref.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn drafft fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 

Dogfennau ategol: