Eitem Rhaglen

Cynllun Rheoli Cyrchfan Drafft 2023-2028

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys y Cynllun Rheoli Cyrchfan 2023-2028 drafft.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio ar gyfer Hamdden, Twristiaeth a Morwrol, yr adroddiad a oedd yn amlinellu dyheadau’r Cyngor ar gyfer rheoli cyrchfan yn ystod y 5 mlynedd nesaf, gan ystyried effeithiau’r pandemig Covid-19. Mae’r Cynllun yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng cefnogi rôl sylfaenol rheoli cyrchfan yn economi Ynys Môn a sicrhau nad yw twristiaeth ddilyffethair yn cael effaith andwyol ar rinweddau unigryw'r Ynys. Mae’n cydnabod bod rhaid i’r cynnig twristiaeth ddarparu buddion economaidd a chymdeithasol i bobl leol a’u cymunedau a bod iaith, diwylliant, amgylchedd a threftadaeth yr Ynys yn nodweddion allweddol sy’n sylfaen i’r cynnig. Mae’r Cynllun yn tynnu ynghyd yr holl gyfrifoldebau a blaenoriaethau Cyrchfan a bydd yn gweithredu fel templed ar gyfer dull mwy cydweithredol a holistaidd o reoli cyrchfan, gan greu partneriaethau newydd ar draws y sector a chymunedau. Mae ymgyrch i wella isadeiledd megis toiledau, meysydd parcio a mynediad yn rhan allweddol o’r strategaeth ac, fel rhan o’r ymagwedd newydd, mae’r Cynllun yn amlygu cyfleoedd i gyflawni buddion cymdeithasol a buddion llesiant i gymunedau, yn ogystal ag arwain at well dealltwriaeth o rinweddau arbennig yr Ynys. Mae cyswllt rhwng y Cynllun Rheoli Cyrchfan a’r Cynllun Rheoli AHNE ac mae wedi’i alinio’n llawn â’r Cynllun y Cyngor newydd; bydd yn destun ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol a bydd eu safbwyntiau’n cael eu defnyddio i gynorthwyo i siapio a datblygu’r cynllun gweithredu dilynol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Economi Ymwelwyr ac Ardaloedd Arfordirol y bydd y broses ymgynghori’n canolbwyntio ar randdeiliaid allweddol, gan gynnwys cymunedau lleol trwy’r cynghorau tref a chymuned. Gan gydnabod pa mor bwysig yw’r diwydiant twristiaeth i ddyfodol yr Ynys a’i chymunedau, y nod yw gweithredu’n wahanol i’r gorffennol, a chaniatáu i fusnesau ddefnyddio’r model newydd i sicrhau, nid yn unig economi Ynys Môn i’r dyfodol, ond hefyd agweddau hanfodol bwysig megis y dirwedd, yr amgylchedd a chymunedau gan sicrhau felly fod twristiaeth yn gweithio i bawb. Yn ogystal â chreu heriau, mae’r economi ymwelwyr yn cynnig cyfleoedd i wneud defnydd ehangach o waith rheoli Cyrchfan i gysylltu â gwasanaethau eraill, megis Priffyrdd ac Addysg, gan olygu fod ei werth yn fwy ac yn ehangach na phe bai wedi’i gyfyngu i un gwasanaeth neu ddisgyblaeth.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig i’r Cyngor cyfan gymryd perchnogaeth o’r Cynllun, gan olygu fod gweithdrefnau a chydweithrediad mewnol yr un mor bwysig â’r rhai allanol a sefydlir ac na ddylai cyflawni’r Cynllun Rheoli Cyrchfan ganolbwyntio ar y Gwasanaeth Datblygu Economaidd yn unig, gan fod y materion yn mynd tu hwnt i’r gwasanaeth hwnnw’n unig. Mae grŵp mewnol sy’n cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Weithredwr yn adlewyrchu’r arwyddocâd a roddir i’r mater hwn, ac mae angen mynd ati i gryfhau prosesau tu mewn a thu allan i’r Cyngor ac adfywio partneriaethau a ffurfioli trefniadau llywodraethiant i ddangos pa mor bwysig yw rheoli Cyrchfan a thwristiaeth gynaliadwy i’r Cyngor. Mae’r cynnydd mewn nifer ymwelwyr wedi creu problemau cymhleth mewn rhai cymunedau ac mae’r Cyngor yn ceisio eu datrys o fewn fframwaith deddfwriaeth bresennol.

 

Wrth gydnabod fod twristiaeth yn creu nifer o fuddion i Ynys Môn a’i chymunedau, a’i bwysigrwydd i’r economi leol, roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith hefyd yn cydnabod bod angen cynyddol i gydbwyso’r buddion hynny yn erbyn anghenion yr amgylchedd a sero net er mwyn sicrhau twristiaeth sydd yn gyfrifol ac yn gynaliadwy. Diolchodd yr Aelodau i’r Cynghorydd Carwyn Jones, y cyn Aelod Portffolio, am ei waith ym maes twristiaeth a chyrchfan yn ystod y cyfnod hwnnw, ac roeddent yn annog y sector, yn ogystal â chymunedau’r Ynys, i ymateb i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Rheoli Cyrchfan drafft.

 

Yn yr un modd â’r Cynllun Rheoli AHNE, cadarnhaodd y Cadeirydd y bydd y Cynllun Rheoli Cyrchfan yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini yn dilyn y cyfnod ymgynghori er mwyn i’r Pwyllgor Sgriwtini fod yn llwyr ymwybodol o safbwyntiau rhanddeiliad ar y Cynllun wrth wneud ei argymhellion

 

Penderfynwyd cymeradwyo a chefnogi’r Cynllun Rheoli Cyrchfan drafft (2023-28) er mwyn ymgynghori arno gyda rhanddeiliaid allweddol.

 

 

Dogfennau ategol: