Eitem Rhaglen

Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn ymgorffori fersiwn ddrafft y Strategaeth Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio dros Addysg a’r Gymraeg, gan gyfeirio at uchelgais y Cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc yr Ynys, beth bynnag fo’u cefndir a’u hamgylchiadau, eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial, a bod pob dysgwr yn cael cefnogaeth i ddatblygu tuag at bedwar diben y cwricwlwm. Ers cyhoeddi’r strategaeth wreiddiol yn 2013, roedd llawer iawn o waith wedi ei wneud i foderneiddio’r stoc ysgolion ar Ynys Môn, gyda thri phrosiect wedi eu cwblhau hyd yma a dau brosiect pellach ar y gweill. Erbyn i’r ddau olaf gael eu cwblhau, byddai’r Cyngor wedi agor pump o adeiladau’r 21ain ganrif mewn pedair ardal, gan gynnwys adeilad sero net cyntaf y Cyngor, adnewyddu ac ehangu dwy ysgol arall a chau 11 o ysgolion bach. Yn ogystal, byddai tua 25% o ddysgwyr cynradd Ynys Môn yn cael eu haddysg mewn adeiladau'r 21ain ganrif erbyn hynny. Roedd y prosiectau a gyflawnwyd hyd yma wedi cael effaith gadarnhaol ar leoedd dros ben yn y sector cynradd ac wedi arwain at arbedion refeniw a dileu costau cynnal a chadw presennol a rhagamcanol. Roedd cynnydd y Cyngor o ran moderneiddio ei drefniadaeth ysgolion wedi’i gydnabod gan Estyn yn ei adroddiad ym mis Mehefin 2022.

 

Siaradodd yr Aelod Portffolio dros Addysg a’r Gymraeg am yr ymrwymiadau ariannu oedd yn gysylltiedig â moderneiddio trefniadaeth ysgolion, gan ddweud bod y Cyngor wedi gorfod cwrdd â gweddill y costau er bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu 50% tuag at gost prosiectau Band A a 65% tuag at brosiectau Band B. Er bod adeiladu ysgolion newydd, felly, yn ddrud, yn enwedig ar hyn o bryd, o ganlyniad i ddigwyddiadau byd-eang, roedd yn bwysig bod y Cyngor yn manteisio ar y cyfle i ddenu cyllid allanol i wella cyflwr stad ei  adeiladau addysg. Roedd cynnydd da wedi ei wneud yn y sector cynradd ond roedd angen gwneud gwaith i fynd i'r afael â'r dirywiad yng nghyflwr adeiladau ysgolion uwchradd. O’r herwydd, roedd y strategaeth yn rhagweld y byddai angen iddo ailfodelu'r ddarpariaeth uwchradd dros y blynyddoedd nesaf wrth, hefyd, weithredu penderfyniadau anodd eraill.

 

Amlinellwyd yr amcanion oedd yn sail i'r strategaeth gan yr Aelod Portffolio, fel y'u rhestrwyd yn yr adroddiad, a phwysleisiodd fod y Cyngor yn awyddus i ymgynghori ar y strategaeth cyn ei mabwysiadu, fel bod modd ystyried barn rhanddeiliaid a phartneriaid cyn gwneud penderfyniadau pellach ar sut i symud ymlaen gyda’r rhaglen.

 

Eglurwyd y broses ymgynghori arfaethedig a'r amserlen gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a chadarnhaodd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, mai'r bwriad oedd dechrau ymgynghori ar 31 Mawrth, 2023 am gyfnod o saith wythnos tan 18 Mai. Yn dilyn hynny, câi adroddiad ymgynghori ei baratoi cyn i’r strategaeth ddrafft yna gael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym mis Mehefin ac i’r Pwyllgor Gwaith i’w chymeradwyo ym mis Gorffennaf, 2023. Byddid yn gwneud hyn fel ei bod yn barod i’w gweithredu ar ddechrau’r tymor ysgol newydd ym mis Medi, 2023.

 

Lleisiodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith eu cefnogaeth i’r strategaeth ddrafft gan ddweud ei bod yn anodd anghytuno â chenhadaeth y strategaeth, sef darparu ysgolion effeithiol o’r maint cywir yn y lleoliadau cywir, gydag amgylchedd addysgu addas dan arweiniad arweinyddion ysbrydoledig. Pwysleisiwyd mai cyfrifoldeb y Cyngor oedd gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod plant yr Ynys yn cael yr amodau dysgu a'r amgylchedd a fyddai’n eu galluogi i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog ac yn ddinasyddion cyfrifol. Yn y cyd-destun hwn, cyfeiriwyd at yr Ysgol Corn Hir newydd, prosiect diweddaraf y strategaeth wreiddiol a gwblhawyd, yn un sy'n crynhoi uchelgais a gweledigaeth y Cyngor ar gyfer ei ysgolion. Soniodd rhai aelodau o’r Pwyllgor Gwaith eu bod wedi cael y cyfle i ymweld â’r ysgol cyn iddi gael ei hagor yn swyddogol ar ôl y Pasg hwn a’u bod wedi cael eu syfrdanu gyda pha mor fodern oedd hi a’i hystod o gyfleusterau a roddai’r cyfleoedd gorau i ddisgyblion ddysgu a datblygu. Bu iddynt annog eraill i fanteisio ar Ddiwrnod Agored yr ysgol ar 31 Mawrth i weld drostynt eu hunain yr hyn y gallai Ysgol Corn Hir newydd ei gynnig i’w dysgwyr.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dogfennau ategol: