Eitem Rhaglen

Strategaeth Rhiantu Corfforaethol 2023-28

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn cynnwys y Strategaeth Rhiantu Corfforaethol ar gyfer 2023-2028 i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai bod rôl yr Aelodau Etholedig fel rhiant corfforaethol ymysg y pwysicaf. Nododd bod rhiantu corfforaethol yn gyfrifoldeb sy’n cael ei rannu ar draws y Cyngor i sicrhau bod plant phobl ifanc sydd dan ofal y Cyngor neu sydd ar fin gadael gofal yn cael eu cefnogi i ffynnu.  Dylai rhiant corfforaethol da feddu ar yr un dyheadau ar gyfer plentyn/unigolyn ifanc sy’n derbyn gofal ag y byddai rhiant ar gyfer ei blentyn ei hun. Mae hyn yn cynnwys darparu’r sefydlogrwydd a’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt i ddatblygu; a’u helpu nhw i osod targedau uchelgeisiol eu hunain.  Mae hefyd yn golygu eu cefnogi nhw i feithrin y sgiliau a’r hyder i fyw’n annibynnol, a’u hatgoffa fod rhywun ar gael bob amser pan fydd pethau’n mynd o chwith. Aeth ymlaen i ddweud mai dyma’r Strategaeth Rhiantu Corfforaethol gyntaf wedi i’r gwasanaeth archwilio mewnol nodi bod angen strategaeth o’r fath a dywedodd y bydd yn weithredol am y pum mlynedd nesaf.  

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro bod ‘Voices from Care Cymru’, a oedd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor ar y pryd, wedi cwblhau darn o waith fel rhan o’r broses ymgynghori ar y Strategaeth Rhiantu Corfforaethol. Nododd bod hyn wedi rhoi cyfle i bobl ifanc sy’n derbyn gofal gyfrannu at y Strategaeth. Aeth ymlaen i ddweud bod ‘gweithdy’ wedi cael ei gynnal ym mis Chwefror er mwyn i Aelodau Etholedig a Swyddogion perthnasol allu cyfrannu i’r Strategaeth. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro bod y Strategaeth y nodi dyheadau’r Cyngor ar gyfer y plant a phobl ifanc sydd dan ei ofal neu sydd ar fin gadael gofal.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, bu i’r Pwyllgor drafod y canlynol:-

 

·      Holwyd sut mae’r Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal ac Ymadawyr Gofal yn cysylltu â Chynllun y Cyngor: 2023/2028? Cynghorwyd y Pwyllgor bod y Strategaeth Rhiantu Corfforaethol wedi cael ei chynhyrchu yn unol â’r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor yn enwedig rheiny’n ymwneud â sicrhau bod trigolion Ynys Môn yn iach ac yn gallu ffynnu.   

 

·      Holwyd beth yw goblygiadau rhoi’r Strategaeth arfaethedig ar waith o safbwynt adnoddau a pha mor fforddiadwy yw hyn yn yr hinsawdd bresennol?  Cynghorwyd y Pwyllgor bod 150 o blant a phobl ifanc dan ofal yr Awdurdod ar hyn o bryd a bod 70 ar fin gadael gofal. Fodd bynnag, byddai cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n dod i mewn i’r system gofal yn effeithio ar lefelau staffio’r gwasanaeth. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro bod nifer y plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn sefydlog ar hyn o bryd a bod hyn wedi’i adlewyrchu mewn adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru.  Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai bod y Strategaeth yn rhoi mwy o sicrwydd y bydd y plant a’r bobl ifanc sydd dan ein gofal yn derbyn yr un cyfleodd â phlant a phobl ifanc eraill er mwyn eu galluogi i ffynnu.   

 

·      Holwyd pa risgiau sy’n wynebu’r Awdurdod a pha fesurau lliniaru sy’n cael eu cynnig i leihau’r effaith ar blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal? Cynghorwyd y Pwyllgor y byddai cynnydd yn nifer y plant a’r bobl fanc sy’n derbyn gofal yn effeithio ar adnoddau’r gwasanaeth. Mae’r Strategaeth Rhiantu Corfforaethol yn arf sy’n nodi dyheadau’r gwasanaeth er mwyn gwella’r canlyniadau i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal ynghyd â’r rhai sy’n gadael gofal. 

 

·      Holwyd pa effaith fydd y strategaeth hon yn ei chael ar bobl Ynys Môn?  Cynghorwyd y Pwyllgor y byddai’n cael effaith gyfyngedig ar bobl Ynys Môn gan ei fod yn canolbwyntio’n bennaf ar y plant a’r bobl ifanc sy’n derbyn gofal. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro y bydd gwella’r canlyniadau i bobl yn arwain at fwy o gyswllt â chymunedau ac economi’r Ynys.

 

·      Cyfeiriwyd at yr anawsterau o ran recriwtio a chadw staff o fewn y sector gofal. Holwyd sut y bydd yr heriau o ran recriwtio a chadw staff yn effeithio ar allu’r awdurdod lleol i wireddu’r Strategaeth yn llawn. Cynghorwyd y Pwyllgor bod recriwtio a chadw staff o fewn y sector gofal yn her i awdurdodau lleol yn genedlaethol o ran darparu gwasanaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion. Trwy ddatblygu, hyfforddi a buddsoddi mewn staff o fewn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol gwelwyd cynnydd yn nifer y Gweithwyr Cymdeithasol Cymwysedig. Fodd bynnag, mae staffio yn y sector gofal yn fwy o her ac mae gwaith ar y gweill i fynd i’r afael â’r mater er mwyn gwneud gyrfa ym maes gofal yn fwy deniadol.  Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai bod yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo cyfleoedd gyrfa yn y sector gofal trwy ymweld ag ysgolion a chymryd rhan mewn cyflwyniadau fideo i annog pobl ifanc i ystyried cyfleodd gyrfa o fewn y sector gofal.

 

·      Holwyd ynglŷn â pherfformiad addysgol plant sy’n derbyn gofal.  Cynghorwyd y Pwyllgor bod plant sy’n derbyn gofal, yn hanesyddol, yn dueddol o beidio â pherfformio cystal â'u cyfoedion.  Mae’r Awdurdod yn ceisio newid y duedd honno. Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn rhan o gynllun peilot ynghyd â chwe awdurdod arall, sy’n cynnig ‘ysgol rithwir’  i wella cyrhaeddiad a chyfranogiad addysgol ymysg plant sy’n derbyn gofal ac mae’r cynllun hwn yn cael effaith gadarnhaol.  Yn ddiweddar penodwyd Swyddog Cymorth i gefnogi’r bobl ifanc hyn gyrraedd eu llawn botensial. Mae hefyd yn bwysig mesur cynnydd unigol plant a phobl ifanc a oedd heb fynediad ‘digon da’ at gyfleoedd addysgol yn y gorffennol.

 

·      Cyfeiriwyd at yr 11 blaenoriaeth yn y Strategaeth Rhiantu Corfforaethol, sydd hefyd wedi’i nodi yn yr adroddiad, y dylai Rhieni Corfforaethol fod yn ymwybodol ohonynt fel rhieni cyfrifol. Holwyd sut y gellid cyflawni’r rhain yn enwedig blaenoriaeth 2 a 3. Cynghorwyd y Pwyllgor bod y Panel Rhiantu Corfforaethol yn cynnwys Aelodau Etholedig, Swyddogion a Swyddogion o sefydliadau partner.   Nodwyd ei bod hi’n hanfodol bod y Panel yn ymwybodol o anghenion y plant a’r bobl ifanc sydd dan ofal yr awdurdod lleol a’u bod deall y problemau y maent yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Mae’r Panel Rhiantu Corfforaethol yn cwrdd pob chwarter ac maent wedi derbyn adroddiadau yn ymwneud â chyrhaeddiad addysgol, y gwasanaeth maethu ac adroddiadau gan swyddogion adolygu annibynnol er mwyn craffu arnynt. Mae modd i aelodau’r Panel ofyn am adroddiad ar unrhyw thema y maent yn ei ystyried yn berthnasol.

 

·      Holwyd ynglŷn â’r ddarpariaeth ar gyfer plant sy’n gafael gofal? Cynghorwyd y Pwyllgor bod Deddf Gadael Gofal 2000 yn nodi pa mor fregus ydi’r rhai sy’n gadael gofal ar ôl 18 oed ac mae’n amlinellu’r cyfrifoldebau’r awdurdod lleol er mwyn sicrhau bod y bobl ifanc yma’n cael eu cefnogi i fod yn bobl ifanc annibynnol.  Mae cymorth ar gael hyd nes bob y bobl ifanc hyn yn 25 oed, fodd bynnag, mae modd darparu cymorth pellach wedi hyn drwy’r Gwasanaethau Oedolion. Mae’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Oedolion yn achos rhai pobl ifanc er mwyn sicrhau eu bod yn pontio i fyd oedolion yn   ddidrafferth.

 

·      Holwyd sut y byddwn yn monitro effeithiolrwydd y Strategaeth Rhiantu Corfforaethol?  Cynghorwyd y Pwyllgor y bydd y Panel Rhiantu Corfforaethol yn monitro effeithiolrwydd y Strategaeth.

 

·      Cyfeiriwyd at y cynllun peilot Incwm Sylfaenol yng Nghymru. Holwyd a fyddai gan y bobl ifanc sy’n gadael gofal yr hawl i’r Incwm Sylfaenol. Cynghorwyd y Pwyllgor bod y cynllun peilot wedi gweithio’n dda ar Ynys Môn a bod y bobl ifanc wedi talu am gyrsiau addysgol a llety.  Fodd bynnag, bydd y cynllun yn dod i ben ym mis Mehefin 2023 a disgwylir i drafodaethau cenedlaethol gael eu cynnal er mwyn gwerthuso llwyddiant y cynllun. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Cadarnhau bod y Pwyllgor yn fodlon â chynnwys Strategaeth Rhiantu Corfforaethol 2023-2028,

·      Argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo Strategaeth Rhiantu Corfforaethol 2023-2028.

 

 

Dogfennau ategol: