Eitem Rhaglen

Meysydd Gwelliant Hunan-Asesiad 2022

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol a Thrawsnewid) a oedd yn cynnwys meysydd gwelliant hunanasesiad 2022 i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer mai dyma’r adroddiad cyntaf o’i fath, a’i fod yn cydnabod y gwelliannau yn erbyn meysydd gwelliant hunan-asesiad 2022.  Mae’n rhoi diweddariad ar y camau gwella perthnasol a gytunwyd yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Hydref 2022. Nododd bod 2022 wedi bod yn flwyddyn heriol oherwydd fod gan y Cyngor weinyddiaeth newydd, tîm arweinyddol newydd a Chynllun Strategol Newydd ar gyfer 2023-28. Serch yr holl newidiadau a datblygiadau dros y 12 mis diwethaf, mae’r Cyngor yn parhau i berfformio’n gyson, yn cwblhau disgwyliadau yn erbyn y mwyafrif o feysydd gwelliant Hunan-asesiad 2022 ac yn dygymod â disgwyliadau’r ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Nododd bod y dangosyddion o fewn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol hefyd yn perfformio’n dda. Mae cydymffurfiaeth staff â pholisïau’r Awdurdod wedi gwella yn ogystal â chydymffurfiaeth staff â’r hyfforddiant e-ddysgu a gwerthusiadau blynyddol.  Mae’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol wedi derbyn canlyniadau’r adolygiadau gwasanaeth a gwelliannau disgwyliedig. Mae prif gyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn hybrid erbyn hyn ac maent yn cae eu gwe-ddarlledu ar wefan y Cyngor. Dywedodd yr Aelod Portffolio y bydd y ffrydiau gwaith a nodwyd yn 1.4 yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith ac y dylid eu cynnwys yn yr Hunan-Asesiad Corfforaethol ar gyfer  2023.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, bu i’r Pwyllgor drafod y canlynol:-

 

·      Holwyd ynglŷn â rôl yr hunan-asesiad yn ein trefniadau llywodraethiant corfforaethol? Cynghorwyd y Pwyllgor bod yr Hunan-Asesiad yn cyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n nodi y dylai cyrff cyhoeddus adolygu eu perfformiad yn effeithiol. Mae’r Ddeddf yn mynnu bod adroddiad Hunan-Asesiad blynyddol yn cael ei greu i fynd i’r afael â’r meysydd gwelliant. Nodwyd bod gwaith wedi’i gyflawni dros y deuddeg mis diwethaf i ddatblygu’r Hunan-Asesiad a bod y ddogfen wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 30 Medi 2022 cyn gwahodd sylwadau pellach gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 20 Hydref, 2022 cyn i’r fersiwn terfynol gael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2022.

·      Holwyd sut y bydd angen i’r Cyngor ddiwygio’r Sgorfwrdd Monitro Perfformiad Chwarterol i sicrhau aliniad gyda’r Hunanasesiad?  Cynghorwyd y Pwyllgor ei bod hi’n bwysig bod y Cerdyn Sgorio’n dal i gael ei ddatblygu a bod cynllun ar waith i adolygu’r Cerdyn Sgorio. Bydd cyfle i’r Tîm Arweinyddiaeth a’r Aelodau Etholedig gyflwyno sylwadau yng nghyfarfodydd yr Arweinyddion Grŵp a bydd a hefyd yn ystod y Sesiynau Briffio i Aelodau Etholedig. Nodwyd y bydd rhaid nodi’r gofynion o ran hunanasesu a’i bod hi’n bwysig cydnabod y bydd y Cerdyn Sgorio’n cynnwys sut fydd y Cyngor yn cyflawni ei oblygiadau o dan y Ddeddf. 

·      Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr hunanasesiad yn cyfeirio at nifer o feysydd sydd angen eu datblygu ymhellach. Gofynnwyd sut y bydd y ffrydiau hyn yn cael eu blaenoriaethu?  Cynghorwyd y Pwyllgor bod y ffrydiau perfformiad yn cael eu monitor pob chwarter drwy’r Byrddau Rhaglen, yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Pwyllgor Gwaith. Nodwyd bod gan y Pwyllgor hwn hefyd rôl craffu o ran mesur perfformiad o fewn y ffrydiau gwaith a nodwyd yn barhaus.  

 

PENDERFYNWYD bod y ffrydiau gwaith yn 1.4.1 - 1.4.8 yn yr adroddiad yn dal i fod yn ddilys ac y dylid eu cynnwys yn yr Hunanasesiad Corfforaethol ar gyfer  2023.

 

Dogfennau ategol: