Eitem Rhaglen

Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Mon

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd ar Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Ar ddechrau’r cyfarfod, ac yn absenoldeb Arweinydd y Cyngor, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid fod canol trefi yn y rhan fwyaf o drefi a dinasoedd ledled y DU wedi newid dros y blynyddoedd. Dywedodd fod Cynllun y Cyngor, a gafodd ei gymeradwyo’n ddiweddar, yn cynnwys targed i ‘wella bywiogrwydd a hyfywedd canol ein trefi’ a ‘bod pobl Ynys Môn, a’i chymunedau, yn mwynhau, yn diogelu ac yn gwella eu hamgylchedd adeiledig a naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol’. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn i awdurdodau lleol ymdrin â llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd. Aeth ymlaen i ddweud bod Archwilio Cymru wedi cynnal astudiaeth ar Adfywio Canol Trefi yng Nghymru, ac wedi cyhoeddi adroddiad ym mis Medi 2021 yn cyflwyno sawl argymhelliad i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Cafodd yr adroddiad hwn, ac ymateb y Cyngor, ei adrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Chwefror 2022. Tynnodd y broses hon sylw at yr angen i’r Cyngor ddatblygu dull strategol ar gyfer gwella canol trefi. Mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru’n cynnwys nifer o gydrannau, gan gynnwys grantiau cyfalaf a benthyciadau ar gyfer gwneud gwelliannau yng nghanol trefi. Mae nifer o strategaethau/cynlluniau adfywio canol trefi neu drefi wedi’u paratoi ar Ynys Môn yn y gorffennol, gyda’r rhan fwyaf yn cyd-fynd â chyfleoedd ariannu allanol penodol, ac mae nifer wedi’u paratoi ar gyfer Caergybi dros y blynyddoedd. Bellach, cynigir bod un strategaeth ar gyfer y sir gyfan, yn ymdrin â phob canol tref ar Ynys Môn, yn cael ei pharatoi, ac nad yw wedi’i chlymu ag unrhyw raglen neu gyllid allanol, ond yn hytrach, yn adlewyrchu anghenion ehangach y sir a’i threfi. Mae’r angen mwyaf yn y tair tref fwyaf sef Caergybi, Amlwch a Llangefni, ac mae Porthaethwy a Biwmares yn ymddangos yn fwy ffyniannus.

 

Aeth yr Aelod Portffolio ymlaen i ddweud, yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer yr argymhellion o fewn yr adroddiad, bydd proses ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu rhoi ar waith i gasglu safbwyntiau, sylwadau, a cheisio cefnogaeth ar gyfer y strategaeth arfaethedig, gyda’r bwriad o’i chwblhau a’i mabwysiadu yn ystod 2023. Defnyddir y broses ymgynghori hefyd i gasglu safbwyntiau, sylwadau ac argymhellion ar gyfer gwelliannau i ganol trefi unigol ac i lywio’r gwaith o baratoi cynlluniau siapio lleoedd unigol a/neu brosiectau perthnasol, yn dibynnu ar adnoddau.

 

Dywedodd y Rheolwr Adnewyddu fod trefi a chanol trefi Ynys Môn wrth wraidd gweithgareddau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr Ynys. Dywedodd bod y  nifer sylweddol o siopau gwag yng nghanol tref Caergybi yn adlewyrchu problemau’r economi leol, a datblygiad y parc manwerthu ar gyrion y dref fel y brif ardal siopa. Dywedodd fod menter siopau gwag Caergybi wedi helpu busnesau bach i ddechrau masnachu o siopau gwag, a bod hyn wedi gostwng y cyfraddau gwacter uchel blaenorol, ond yn ystod y pandemig, mae nifer y siopau gwag wedi mynd yn ôl i’r lefelau uchel blaenorol. Dywedodd fod nifer y siopau gwag yn Amlwch hefyd wedi cynyddu’n ddiweddar, sydd heb os yn adlewyrchu’r golled o ran gwaith yn yr ardal. Mae’r argymhelliad i droi gweddill yr unedau masnachol gweigion yn gartrefi yn cael ei annog, ac mae cyllid grant wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Rheolwr Adfywio hefyd y byddai ystyried llety gwyliau’n addas ar gyfer canol tref Caergybi.

 

Aeth y Rheolwr Adfywio ymlaen i ddweud nad oes digon o adnoddau staffio ar gael i sylweddoli’r anghenion gwaith er mwyn adfywio canol y trefi, ac mae cyllid grant yn cael ei ddarparu gan grantiau ariannu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin tuag at recriwtio staff ychwanegol. Bydd ymgysylltu ac ymgynghori gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol yn digwydd o fewn y strategaeth, a chwblheir ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod 2023 a ddefnyddir i lywio’r gwaith o baratoi Cynlluniau Lleoedd trefi unigol. Mae gan y Cynghorau Tref, a sawl sefydliad arall, rôl bwysig o ran gwella a rheoli canol trefi, a bydd angen iddynt fod ynghlwm â’r broses. Nodwyd fod aelodau Grŵp Adfywio Llangefni wedi trefnu ymweliad er mwyn gweld y gwaith yn mynd rhagddo gan bartneriaethau lleol ym Mlaenau Ffestiniog a Bethesda.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, bu i’r Pwyllgor drafod y canlynol:-

 

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch diffiniad ‘tref’ a ‘chanol tref’? Dywedwyd y bydd yn rhaid i’r Awdurdod baratoi Cynllun Datblygu Lleol yn y dyfodol agos, ac awgrymwyd y byddai’n gyfle i ganolbwyntio ar y dref a chanol y dref. Dywedwyd hefyd na fydd canol y trefi yn debyg i’r hyn a welwyd yn ystod y 60au a’r 70au. Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oes un diffiniad penodol ar gyfer ‘tref’ na ‘chanol tref’, a nodwyd bod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol, yn enwedig y polisi strategol ar gyfer canol trefi (PS15), yn dynodi Caergybi a Llangefni fel ‘canolfannau gwasanaethau masnachol trefol’, a bod Amlwch, Benllech, Biwmares, Porthaethwy, Llanfairpwll, Rhosneigr, y Fali a Chemaes yn ‘ganolfannau gwasanaethau lleol’.

·         Dywedwyd bod y rhan fwyaf o Ynys Môn yn ardal wledig gyda phentrefi bychain. Codwyd cwestiynau ynghylch y weledigaeth ar gyfer y pentrefi gwledig mawr a bach ar yr Ynys, h.y. Benllech, Moelfre a Phentraeth. Cynghorwyd y Pwyllgor bod rhaglen ddatblygu wledig wedi’i hariannu gan gyllid Ewropeaidd yn bodoli, a bod Menter Môn yn ei harwain. Gan y bydd y cyllid Ewropeaidd yn dod i ben, y Gronfa Ffyniant Gyffredin fydd y ffynhonnell grant, ac mae ceisiadau wedi’u cyflwyno i gefnogi prosiectau o fewn cymunedau gwledig. Mae nifer o grwpiau bach mewn ardaloedd gwledig wedi elwa o raglen y Gronfa Adfywio Cymunedol o ran darparu grantiau i gymunedau ledled y wlad. Nodwyd hefyd bod y Cyngor Sir yn aelod o Fforwm Gwledig CLlLC, sy’n lobïo ar gyfer ardaloedd gwledig.

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch y cyfleoedd a heriau a wynebir wrth ddibynnu ar gyllid grant, y mae llawer yn ymgeisio amdano, i ddarparu’r rhaglenni? Dywedwyd wrth y Pwyllgor gan mai dim ond am amser byr mae cyllid grant ar gael, gall fod yn heriol pan mae angen recriwtio staff er mwyn cyflwyno’r rhaglen. Nodwyd fod cyllid hyblyg i gwblhau’r prosiect yn bwysig.

·         Cyfeiriwyd at y gofyniad i fuddsoddi mewn trefi ar Ynys Môn. Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at ardal Porthladd Amlwch, a bod angen buddsoddi ac adfywio yn yr ardal. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch argaeledd buddsoddiad preifat i ariannu mentrau rhaglen adfywio canol trefni Ynys Môn. Cynghorwyd y Pwyllgor fod y penderfyniadau sylweddol a wnaed gan randdeiliaid i leoli mewn trefi yn gatalydd ar gyfer adfywio canol trefi, fel y gwelwyd ym Mhorthaethwy. Dywedwyd fod yr ardal o amgylch y sgwâr ym Mhorthladd Amlwch wedi gwella’n weledol, a bod nifer o drigolion yn adnewyddu eu tai. Mae cwmni wedi’i gomisiynu i arolygu’r adeiladu mwyaf adfeiliedig yn Amlwch a Llangefni a bydd yn cael ei ddefnyddio i annog perchnogion i adnewyddu’r adeiladau hyn. Mae grant gan Lywodraeth Cymru wedi’i sicrhau er mwyn gwella tu blaen adeiladau mewn dwy dref yn Amlwch. Gall cyllid grant Arfor hefyd fod yn fanteisiol o ran gwella trefi. Dywedodd y Rheolwr Adfywio fod Cyngor Tref Caergybi yn fodlon cynnal yr asedau sydd wedi’u gwella gan gyllid grant e.e. Toiledau Sgwâr Swift a’r Tŵr Gwylio.

·      Gofynnwyd cwestiynau ynghylch sut fydd Grŵp Adfywio Cyngor Tref Llangefni yn cael ei gefnogi? Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Adran Datblygiad Economaidd yn mynychu cyfarfodydd Grŵp Adfywio Llangefni, ac mae’n rhaid ceisio cyllid grant er mwyn cwblhau gwelliannau yn y dref.

·      Dywedwyd nad yw’r cyhoedd yng Nghaergybi’n ymwybodol o’r datblygiadau fydd yn deillio o’r Gronfa Ffyniant Gyffredinol, y Statws Porthladd Rhydd a Datblygiad y Morglawdd. Cynghorwyd y Pwyllgor fod trefniadau mewnol angen bod yn rymus oherwydd y datblygiadau yng Nghaergybi, a bydd angen ymgysylltu ymhellach gyda’r gymuned leol.

·      Gofynnwyd cwestiynau ynghylch aliniad gyda ffrydiau gwaith Siapio Lleoedd a chynlluniau i gryfhau’r seilwaith mewn cymunedau lleol, yn enwedig cyfleusterau gwefru ceir trydan. Cynghorwyd y Pwyllgor mai bwriad y strategaeth yw cynyddu nifer y pwyntiau gwefru ceir trydan sydd ar yr Ynys, ond mae’r cynnydd hwnnw’n dibynnu ar gyllid grant. Erbyn hyn, mae niferoedd y pwyntiau gwefru ceir trydan ar Ynys Môn, sy’n gymharol â’r boblogaeth, ymhlith yr uchaf.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Nodi cynnwys drafft Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn;

·      Argymell y Strategaeth drafft i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod

Dogfennau ategol: