Eitem Rhaglen

Porthladdoedd Rhydd Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd am Borthladd Rhydd Ynys Môn.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio ar gyfer Datblygiad Economaidd, ar 23 Mawrth 2023, fod y Cyngor Sir wedi cael gwybod ei fod wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am Borthladd Rhydd. Mae hyn wedi bod yn bosibl oherwydd y gwaith sylweddol wnaed gan Swyddogion y Cyngor, Stena Line a’r ymrwymiad i gyflwyno’r cynnig am y Porthladd Rhydd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cynnig am statws Porthladd Rhydd wedi bod yn llwyddiannus yn sgil cwblhau achos busnes manwl. Cynhelir cyfarfodydd gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ynghyd â Stena Line, er mwyn egluro cyfrifoldebau, atebolrwydd a darparu rhagor o arweiniad. Aeth ymlaen i ddweud y bydd angen dechrau gwaith yn ystod y 6 mis nesaf er mwyn gallu rhyddhau’r £25m o gyllid cyfalaf. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at ddatblygiadau prosiectau eraill yng Nghaergybi, e.e. adfer y Morglawdd, Morlais, Hwb Hydrogen a bod Stena Line yn bwriadu clirio cyn safle Anglesey Aluminium. Dywedodd y bydd angen cynllunio strategol o fewn tref Caergybi, gan gynnwys meysydd gwasanaeth eraill, fel darpariaeth addysg ac iechyd, a sicrhau nad yw datblygiadau’n cael effaith andwyol ar breswylwyr.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, bu i’r Pwyllgor drafod y canlynol:-

 

·         Dywedwyd fod cynllun y prosiect yn rhagweld y bydd rhwng 3,500 a 13,000 o gyfleoedd gwaith newydd yn cael eu creu dros gyfnod o 15 mlynedd. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch pa drefniadau fydd ar waith i sicrhau eu bod nhw’n swyddi o ansawdd, a bod gan drigolion Ynys Môn y sgiliau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn? Cynghorwyd y Pwyllgor bod peth ansicrwydd ynghylch buddion y statws Porthladd Rhydd, a phwysleisiwyd bod y ffigwr o 13,000 o gyfleoedd gwaith yn berthnasol i ogledd Cymru gyfan, nid Ynys Môn yn unig. Pwysleisiwyd y bydd angen cwblhau gwaith gyda Stena Line a rhanddeiliaid rhanbarthol, partneriaeth sgiliau rhanbarthol a Llandrillo Menai, er mwyn galluogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd gwaith fydd yn deillio o’r Porthladd Rhydd.

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch statws y drydedd bont ar draws y Fenai, a’r gwelliannau sydd eu hangen ar gyfer y rhwydwaith priffordd oherwydd y statws Porthladd Rhydd? Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod angen cryfhau gwytnwch a’r cysylltiadau rhwydwaith ledled yr Ynys, ac mae pwysau’n parhau ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu’r drydedd bont ar draws Y Fenai.

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch faint o gwmnïau sydd wedi mynegi diddordeb mewn adleoli ar yr Ynys oherwydd y statws Porthladd Rhydd? Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod nifer o gwmnïau a sefydliadau wedi mynegi diddordeb gan gynnwys GE-Hitachi, Rolls Royce SMR, Bechel, BP Lightsource a phrosiect Morlais Menter Môn, pan gyflwynwyd y cynnig gwreiddiol. Dywedwyd, unwaith fydd y strwythurau llywodraethu ar waith, bydd trafodaethau gyda busnesau sydd â diddordeb yn parhau. Pwysleisiwyd ei bod hi’n bwysig denu busnesau a all greu gwaith tymor hir gwerthfawr. Mynegodd y Pwyllgor ei bod hi’n bwysig fod pobl ifanc yn cael cyfleoedd megis prentisiaethau gyda’r cwmnïau sydd wedi dangos diddordeb mewn adleoli ar yr Ynys, a dylid hysbysu pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd yng ngogledd Cymru o’r cyfleoedd fydd ar gael. Dywedwyd hefyd bod angen cynnal trafodaethau er mwyn ailddechrau’r cwnni awyrennau o Gaerdydd i Ynys Môn. Dywedodd y Prif Weithredwr y manteisir ar bob cyfle i drafod y cwmni awyrennau o Gaerdydd i Ynys Môn gyda Llywodraeth Cymru. Aeth ymlaen i ddweud bod angen cynnwys cynllun sgiliau a chyflogaeth o fewn Achos Busnes y Porthladd Rhydd. Dywedodd fod y gwaith partneriaeth rhwng Llandrillo Menai, MSparc a’r ysgolion uwchradd yn bwysig iawn o ran deall y cyfleoedd gwaith posibl a all y statws Porthladd Rhydd ei gynhyrchu. Cwestiynodd y Pwyllgor gapasiti hyfforddiant Llandrillo Menai o ran mynd i’r afael â’r sgiliau fydd eu hangen i lenwi’r swyddi a fydd yn cael eu creu gan y Porthladd Rhydd ar gyfer pobl leol. Atebodd y Prif Weithredwr drwy ddweud bod Strategaeth Sgiliau ar waith yng ngogledd Cymru, sy’n gyrru’r buddsoddiad i greu’r capasiti o ran hyfforddiant mewn colegau ledled gogledd Cymru. Dywedodd, pan fydd y prosiectau’n cael eu datblygu, bydd angen rhoi Cynllun Sgiliau ar waith. Mae’n rhaid i’r bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd fod yn ymwybodol o’r cyfleoedd gwaith, ac y gallent gyfoethogi eu sgiliau er mwyn gallu ymgeisio ar gyfer y swyddi fydd ar gael, a gallu datblygu o fewn eu gyrfaoedd yn y dyfodol yn dilyn hynny.

·         Cyfeiriwyd at gau Ffatri 2 Sisters yn Llangefni’n ddiweddar, gan golli 700 o swyddi, a’r effaith ar y gymuned a’r Ynys. Gofynnwyd cwestiynau am y math o gyfleoedd gwaith fydd y deillio o’r statws Porthladd Rhydd, a’r effaith a all hyn ei gael ar allu trigolion lleol i brynu tai a’r effaith ar yr iaith Gymraeg? Sicrhawyd y Pwyllgor fod anghenion lleol yr Ynys yn cael eu hystyried, a bod trigolion a busnesau lleol yn gallu manteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o’r statws Porthladd Rhydd. Yn hanesyddol, mae cyfleoedd gwaith o achos Porthladdoedd Rhydd ledled y DU wedi bod ym meysydd megis gweithgynhyrchu, dosbarthu a gwaith mewn warws. Fodd bynnag, bydd yr elfen ynni ar Ynys Môn yn denu cyflogaeth. Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr iaith Gymraeg yn bwysig, a dywedodd fod yr iaith wedi bod yn berthnasol ym mhob trafodaeth sydd wedi digwydd ynghylch y Porthladd Rhydd.

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd modd sicrhau bod y prosiect yn cyd-fynd â’r rhaglen Ynys Ynni a Chynllun y Cyngor 2023-2028, ac yn cyfrannu atynt? Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod amrywiaeth ehangach o fusnesau, yn enwedig y rheiny sydd â chadwyni cyflenwi sy’n gysylltiedig â gweledigaeth ehangach y rhaglen Ynys Ynni, sydd wedi cefnogi’r cynnig Porthladd Rhydd yn ogystal ag ail-sefydlu’r bont dir rhwng Dulyn ac Ewrop. Nodwyd fod y dyheadau o fewn Cynllun y Cyngor wedi’u cynnwys o fewn y cynnig Porthladd Rhydd.

·         Gofynnwyd a oes pryderon y bydd busnesau o ardaloedd eraill yn adleoli yng Nghaergybi ac yn cael effaith ar economi’r ardaloedd hyn? Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod dadleoliad cwmnïau wedi achosi pryderon sydd wedi’u trafod yn ystod y gwaith o ddatblygu’r cynnig. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi fod y statws Porthladd Rhydd yn ymestyn y tu hwnt i ardal Gaergybi. Nodwyd fod Swyddogion yn hyderus y bydd busnesau lleol yn gallu manteisio ar y cyfleoedd fydd yn deillio o’r statws Porthladd Rhydd, ond mae angen denu busnesau eraill i ddarparu ar gyfer y sgiliau cynhyrchu er mwyn sicrhau bod yr Ynys yn datblygu.

·         Cyfeiriwyd at y ffaith nad yw pob prif risg strategol ar gyfer y cynnig wedi’u nodi yn yr adroddiad. Gofynnwyd sut fydd yr Awdurdod yn rheoli a lliniaru’r risgiau hyn, a beth fydd y broses sgriwtini? Dywedwyd wrth y Pwyllgor y cydnabyddir y bydd angen eglurhad a sicrwydd pellach gan y ddwy Lywodraeth wrth i’r cynnig ddatblygu drwy’r broses Achos Busnes. Bydd angen cytuno ar eglurder rolau a chyfrifoldebau gyda Stena Line. Bydd angen llywodraethu grymus, rôl tymor hir ar gyfer y Cyngor ac adnoddau er mwyn ei ddarparu mewn modd cydsyniol ac effeithiol. Mae arbenigedd allanol ychwanegol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y cynnig. Unwaith fydd y Porthladd Rhydd wedi’i sefydlu, bydd adborth cyson yn cael ei gasglu gan y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Sgriwtini er mwyn sicrhau bod trefniadau monitro llym ar waith.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Fod y Pwyllgor Sgriwtini’n cydnabod rôl y Cyngor o ran datblygu a chyflwyno’r cynnig Porthladd Rhydd llwyddiannus;

·      Nodir camau nesaf o ran datblygiad Achos Busnes y Porthladd Rhydd, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod

Dogfennau ategol: