Eitem Rhaglen

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol am ei gyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd y mae ei dymor yn dod i ben. 

 

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·     Llongyfarchiadau i Ysgol Corn Hir ac Ysgol y Borth am gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth pêl-rwyd yr Urdd yn Aberystwyth. Ysgol Corn Hir oedd yn fuddugol gydag Ysgol Borth yn dod yn ail.

 

·     Llongyfarchiadau i nifer o unigolion o Ynys Môn a gwblhaodd y ras am fywyd 5k yng Nghaernarfon ar 14 Mai, 2023 a chodi arian at achosion da.

 

·     Llongyfarchiadau i Mr Stuart Jewell, o’r adran TG am redeg Marathon Llundain i godi arian i Awyr Las – Ysbyty Penrhos Stanley.

 

·     Llongyfarchiadau i Mr Martin Roberts o’r Adran Gyllid ar gael ei ddewis i ddyfarnu yn nhwrnamaint Nations Cup UEFA yn Sbaen fis nesaf.  

 

·     Llongyfarchiadau i Thea Scowcroft-Roberts o Ysgol Rhoscolyn a oedd yn fuddugol mewn cystadleuaeth i greu logo newydd ar gyfer Coleg Treftadaeth Caergybi – y coleg cyntaf o’i fath yng Nghymru.

·     Llongyfarchiadau i Mr Alan Carter a Mr John Pritchard sydd wedi cynrychioli Clwb Pêl-droed Cerdded Cymru i bobl dros 65 oed ym mhencampwriaeth ryngwladol Cwpan 5 bob ochr y Byd yn Zurich. Llwyddodd y ddau i helpu Cymru ddod yn ail yn y gystadleuaeth. 

 

·     Llongyfarchiadau i Keith a Rhian o dîm Maethu Cymru Ynys Môn ac i  Sioned a Ffion o’r tîm Teuluoedd Gwydn am ddringo’r Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan mewn 21 awr a 40 munud. Llongyfarchiad hefyd i un o Ofalwyr Maeth yr Awdurdod, Alina Williams am ymuno â’r tîm i ddringo’r Wyddfa.

 

·     Llongyfarchiadau i’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd ac i Action for Children am dderbyn canmoliaeth uchel am eu gwaith gyda gofalwyr ifanc yma ar Ynys Môn yn ystod seremoni wobrwyo Gofal Cymdeithasol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

 

·     Dymuniadau gorau i’r plant a’r bobl ifanc o Ynys Môn a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri ddiwedd y mis. 

 

·     Dymuniadau gorau i bawb o Ynys Môn a fydd yn cymryd rhan yng Ngemau’r Ynysoedd yn Gurnsey ym mis Gorffennaf.

 

·     Llongyfarchiadau i bawb sydd â chyswllt ag Ynys Môn a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

*          *          *          *          *

 

Cydymdeimlwyd a theulu, ffrindiau a chydweithwyr Ms Angela Bennett a oedd yn gweithio yn yr Adran Refeniw a Budd-daliadau.

 

Cydymdeimlwyd â theulu’r ddau Gyn-gynghorydd Sir, Mr Keith Thomas a Mr Eric Roberts.

 

Cydymdeimlwyd â Chyn-arweinydd y Cyngor, Mr Gareth Winston Roberts ar golli ei wraig yn ddiweddar. 

 

Cydymdeimlwyd hefyd ag unrhyw Aelod neu aelod o staff y Cyngor a oedd wedi cael profedigaeth.

 

Cafwyd munud o dawelwch a safodd yr Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.

 

*          *         *          *          *

Gyda chytundeb y Cadeirydd, rhoddodd y Cynghorydd Robert Ll Jones deyrnged i Mr Sean Burns, a oedd wedi’i eni a’i fagu ym Mae Trearddur, Ynys Cybi, a fu farw’n ddiweddar. Treuliodd Mr Burns 12 mlynedd yn gwasanaethu fel Gweinyddwr Tristan da Cunha ac Ynys y Dyrchafael a Phennaeth Swyddfa’r Llywodraethwr ar Ynys Santes Helena. Dywedodd y Cynghorydd Jones bod Ynys Môn yn agos at galon Mr Burns a’i fod bod amser yn hyrwyddo’r ynys ble bynnag oedd yn mynd.

 

*           *          *          *          *