Eitem Rhaglen

Cynllun Dewisol Costau Byw - Adroddiad Terfynol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, er gwybodaeth i’r Pwyllgor Gwaith, a oedd yn nodi sut y cafodd y cyllid grant a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Cynllun Dewisol Costau Byw i helpu trigolion lleol gyda’r argyfwng costau byw ei wario ar Ynys Môn. Roedd yr adroddiad yn nodi’r gefnogaeth a ddarparwyd o dan y cynllun dau gam a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith (28 Mehefin, 2022 a 24 Ionawr, 2023) a’r arian a ddyrannwyd.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid bod Llywodraeth Cymru wedi darparu swm o £585,163 ac roedd modd ychwanegu unrhyw danwariant o’r cynllun Costau Byw cenedlaethol at y cyllid hwnnw yn ogystal. O dan y cynllun cenedlaethol, derbyniodd 21,906 o breswylwyr daliad o £150, ni wnaeth 999 gyfnewid y daleb a anfonwyd atynt am arian ac, oherwydd hynny, trosglwyddwyd £149,780 i’r cynllun dewisol. Roedd hyn yn golygu fod cyfanswm o £734,943 o gyllid ar gael ar gyfer y cynllun. Gan ei fod yn gynllun dewisol lleol, roedd modd i’r Cyngor ddewis sut i ddefnyddio’r grant a thra bod nifer o awdurdodau yng Nghymru wedi defnyddio’r arian i ddyrannu grantiau ychwanegol i grwpiau penodol o breswylwyr, penderfynodd y Cyngor fod yn fwy creadigol a defnyddio dull wedi’i dargedu a oedd yn cyfeirio’r cyllid at feysydd a oedd yn darparu’r budd mwyaf i bobl a oedd fwyaf angen cymorth yn ystod yr argyfwng costau byw yn cynnwys dosbarthu cyllid i sefydliadau trydydd parti (e.e. Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, y Samariaid a Banciau Bwyd) sydd yn y sefyllfa orau i adnabod pwy sydd fwyaf angen cymorth. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei fod yn falch o gadarnhau bod yr holl gyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio yn unol â thelerau ac amodau’r grant ac er nad ydi pob sefydliad wedi rhannu’r holl gyllid yr oeddent wedi’i dderbyn cyn 31 Mawrth, 2023, o dan amodau’r grant, bydd modd iddynt gadw unrhyw gyllid sydd heb ei ddefnyddio i roi help cyllidol i unrhyw ymgeisydd newydd a ddaw ymlaen ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion sy’n ymwneud â’r cyllid a ddarperir. Manteisiodd y Cynghorydd Robin Williams ar y cyfle  ddiolch i bawb o’r Gwasanaeth Cyllid a’r Gwasanaethau Tai a oedd wedi bod ynghlwm â’r gwaith o sefydlu a chyflawni’r cynllun. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ei fod yn gobeithio bod yr adroddiad yn dangos bod y Cyngor wedi bod yn greadigol wth ddefnyddio’r cyllid a oedd ar gael iddo er mwyn darparu’r budd mwyaf i’r rheiny sydd fwyaf angen cymorth a dywedodd bod rhaid diolch yn bennaf i Llinos Williams, Rheolwr Tai Cymunedol y Gwasanaeth Tai am weithio’n galed i gysylltu â’r sefydliadau er mwyn rhannu’r cyllid.

 

Mynegodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith eu diolch a’u gwerthfawrogiad i Llinos Williams a’r tîm yn y Gwasanaethau Tai yn ogystal â’r Gwasanaeth Cyllid am eu menter, ac am wneud eu gorau glas i sicrhau bod y cyllid grant yn cael ei ddefnyddio lle yr oedd yr angen mwyaf ar Ynys Môn. 

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad sydd yn cadarnhau fod yr holl gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio yn unol â thelerau ac amodau’r grant.

Dogfennau ategol: