Eitem Rhaglen

Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal ac Ôl-Ofal Ynys Môn 2023 – 2028

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn cynnwys Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal ac Ôl-ofal 2023-2028, i’w ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai ac fe amlygodd mai bod yn rhiant corfforaethol i’r plant a’r bobl ifanc sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod yw un o ddyletswyddau pwysicaf y cynghorydd; mae’n golygu gwneud ein gorau ar gyfer y plant sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod yn yr un modd ag y byddai unrhyw riant yn ei wneud ar gyfer ei blentyn ei hun. Fe ddylai pob plentyn a pherson ifanc ar Ynys Môn gael y dechrau gorau posib mewn bywyd a dylid rhoi pob cyfle iddynt ffynnu, ac fel rhiant corfforaethol gweledigaeth y Cyngor yw sicrhau nad yw plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn wahanol a’u bod yn derbyn yr un gefnogaeth. Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard bod hon yn strategaeth gyntaf o’i math i’r Gwasanaethau Plant  a Theuluoedd Ynys Môn a’i bod o ganlyniad i adolygiad archwilio mewnol a ddaeth i’r casgliad er bod y Panel Rhiant Corfforaethol yn gweithio'n dda bod angen strategaeth i roi cyfeiriad a ffocws i’r gwaith. Mae’r Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal ac Ôl-ofal wedi’i chynhyrchu i nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu mynd ati i herio’i hun fel rhiant corfforaethol dros y pum mlynedd nesaf a chafodd ei datblygu gyda chyfraniad y Panel Rhiantu Corfforaethol. Mae’n ddogfen weithredol a bydd y Panel yn derbyn adroddiad blynyddol arni ac yna’r Pwyllgor Gwaith.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Pritchard bod rhiantu corfforaethol yn gyfrifoldeb i bawb yn y Cyngor ac nid dim ond yr Aelod Portffolio, y Pwyllgor Gwaith a’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd ac felly mae’r strategaeth yn berthnasol i’r holl Gyngor a phob aelod etholedig.  

Diolchodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i bawb a oedd wedi cyfannu at ddatblygu’r strategaeth. Cadarnhaodd bod gan y Cyngor 150 o blant sy’n derbyn gofal a 63 sy’n gadael gofal a’u bod wedi dod  mewn i ofal nid drwy ddewis ond oherwydd amgylchiadau lle bu’n rhaid i’r Awdurdod ymyrryd. Mae’n briodol felly bod y Cyngor yn gwneud ei orau ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yma a’u bod yn derbyn y gofal a sylw angenrheidiol ganddo. Mae cymeradwyo’r strategaeth yn nodi dechrau’r daith a bydd adroddiadau blynyddol yn cael eu cyhoeddi ar y modd y mae’r Cyngor yn cwrdd â blaenoriaethau’r strategaeth. Adroddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y Pwyllgor wedi craffu ar y Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal ac Ôl-ofal yn ei gyfarfod ar 19 Ebrill, 2023. Dywedodd y Cynghorydd Fowlie bod y materion a godwyd gan y Pwyllgor yn ystod y cyfarfod hwnnw yn cynnwys y cyswllt rhwng y Strategaeth a Chynllun newydd y Cyngor ar gyfer 2023-28, fforddiadwyedd y strategaeth yn yr hinsawdd bresennol a’r risgiau a’r mesurau i liniaru’r effaith ar y plant a’r bobl ifanc sy’n derbyn gofal. Holwyd hefyd ynglŷn ag effaith ehangach y strategaeth ar bobl yr Ynys a chyrhaeddiad a chyflawniad y plant sy’n derbyn gofal. Ar ôl ystyried y materion hyn a’r ymatebion a roddwyd, cadarnhaodd y Pwyllgor Sgriwtini ei fod yn fodlon â chynnwys y strategaeth a’i argymell i’r Pwyllgor Gwaith.

Fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith gydnabod pwysigrwydd y strategaeth a chyfrifoldeb pob aelod etholedig fel rhiant corfforaethol i sicrhau bod y Cyngor yn nodi a diwallu anghenion y plant a’r bobl ifanc sydd dan ei ofal. Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams bod y strategaeth wedi cael ei chreu oherwydd bod y Cyngor wedi penderfynu ar ei liwt ei hun i adolygu ei drefniadau rhiantu corfforaethol ac wrth wneud hynny ei fod wedi cydnabod ei fod angen strategaeth i nodi ei weledigaeth yn ffurfiol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc sydd dan ei ofal a sut y bydd yn cyflawni’r weledigaeth honno, sy’n dangos bod y Cyngor yn hunanymwybodol ac yn gallu herio’i hun i wella lle bo angen.

 

Penderfynwyd derbyn a chymeradwyo Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal ac Ôl-Ofal Ynys Môn 2023-28.

 

Dogfennau ategol: