12.1 – FPL/2023/49 - Canolfan Addysg Y Bont, Ffordd Clidwrn, Llangefni
12.2 – FPL/2023/38 - Ysgol Gynradd Bodorgan Primary School, Bodorgan
12.3 – HHP/2023/51 – Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech
12.4 – ADV/2023/6 - Twr Gwylio Amlwch
12.5 – MAO/2023/2 - Tir ger Stad Bryn Glas, Brynsiencyn
12.6 – FPL/2022/219 - 1, Lon Deg, Caergybi
Cofnodion:
12.1 FPL/2023/49 – Cais llawn i gadw’r adeilad parod ar y tir dros dro am 5 mlynedd ychwanegol, er mwyn darparu dwy ystafell ddosbarth a thoiledau ar gyfer disgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais yw hwn i gadw adeilad parod ar y tir dros dro am 5 mlynedd ychwanegol er mwyn darparu dwy ystafell ddosbarth a thoiledau ar gyfer disgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont. Yn wreiddiol, gofynnwyd am yr adeilad parod er mwyn cwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol a helaeth ar y to yn Ysgol y Bont. Roedd yr adeilad parod yn golygu fod disgyblion yn gallu parhau i gael mynediad at gymaint â phosib o ddysgu wyneb yn wyneb tra bod y gwaith hanfodol yn mynd rhagddo. Mae'r gwaith hanfodol i'r to bellach wedi'i gwblhau, fodd bynnag, mae'r Adran Eiddo wedi gofyn am gadw'r adeilad parod ar y tir am 5 mlynedd ychwanegol tra bydd niferoedd disgyblion yn cael eu monitro a thra ymchwilir i atebion hirdymor i ddarparu lle ychwanegol yn yr ysgol. Ni ystyrir bod y cynnig yn cael unrhyw effaith ar yr ardal gan ei fod wedi'i leoli o fewn cwrtil yr ysgol ac nid yw'n gyfagos i eiddo preswyl.
Gan siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod angen dybryd am yr adeilad parod gan fod yr ysgol dros ei chapasiti.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid cymeradwyo'r cais. Eiliodd y Cynghorydd Alwen Watkin y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 FPL/2023/38 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr hen ysgol gynradd i ganolfan gymunedol yn Ysgol Gynradd Bodorgan, Bodorgan
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle'r cais yn eiddo i'r Awdurdod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer newid defnydd yr hen ysgol gynradd i fod yn ganolfan gymunedol. Dywedodd fod 24 llythyr o gefnogaeth ar gyfer y cais wedi dod i law gyda 2 lythyr o wrthwynebiad. Roedd yn awyddus i newid adroddiad y Swyddog gan fod Cyngor Cymuned Bodorgan wedi ymateb yn ystod y broses ymgynghori ac wedi nodi bod ganddynt bryderon ynghylch y diffyg gwybodaeth am y cais, y dilysrwydd o ran pwy yw'r ymgeisydd, y ffaith bod yr adeilad yn llaith, nad oes adroddiadau trydan a diogelwch tân wedi’u cyflwyno, diffyg adroddiad strwythurol, materion traffig a pharcio. Hefyd ni chyflwynwyd unrhyw arolwg ecolegol ac roedd materion yn ymwneud â phrydlesu'r adeilad. Fodd bynnag, cais yw hwn ar gyfer newid defnydd yr adeilad ac nid oes angen y materion a godwyd ar gyfer cais o'r fath. Dywedodd fod y Swyddog Ecoleg wedi dweud nad oes angen arolwg ecolegol ac nad oes angen adroddiad strwythurol gan y bydd yr adeilad presennol yn cael ei ddefnyddio. Nid yw materion tân a thrydan yn faterion cynllunio gan eu bod yn berthnasol i faterion rheoli adeiladu. Nid yw ystyriaethau o ran y les a dilysrwydd yr ymgeisydd chwaith yn fater cynllunio.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach fod y cynnig ar gyfer newid defnydd yr hen ysgol gynradd yn ganolfan gymunedol ac na wneir unrhyw newidiadau allanol fel rhan o'r datblygiad. Mae Cyngor Cymuned wedi bod yn ynghlwm â’r defnydd o’r ysgol gynradd ers blynyddoedd, ac mae’r cais hwn yn cynnig ehangu defnydd y Ganolfan Gymunedol i’r safle cyfan ar ôl i’r defnydd addysgiadol ddod i ben. Mae’r ymgeisydd wedi nodi y bydd y ganolfan gymunedol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cymunedol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Mae gan y sefydliad hefyd gysylltiad â Choleg Menai, a byddant yn darparu hyfforddiant addysgol a chrefft yn yr ysgol. Dywedodd fod polisi cynllunio ISA2 yn nodi y bydd y cyfleusterau cymunedol newydd a ddatblygir yn cael eu cymeradwyo, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â'r meini prawf penodol a nodir yn y polisi. Ystyrir y bydd y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â'r polisi. Bydd yn darparu cyfleuster hanfodol ar gyfer cymuned Bodorgan, gan ddefnyddio adeilad presennol sydd o raddfa briodol, ac sydd wedi'i leoli mewn lleoliad canolog ar gyfer y gymuned gyfan. Ni fwriedir gwneud unrhyw newidiadau allanol i'r adeilad, ac felly ystyrir nad yw'n cael unrhyw effaith ar ei amgylchedd naturiol ac adeiledig o'i amgylch, yn unol â pholisi PCYFF 3. Mae'r hen ysgol gynradd yn agos at eiddo cyfagos, fodd bynnag, o ystyried y defnydd blaenorol o'r adeilad fel ysgol gynradd, ni ystyrir y byddai'r newid defnydd i ganolfan gymunedol yn cael llawer o effaith ar yr eiddo cyfagos ac ystyrir ei bod yn cydymffurfio â pholisi cynllunio PCYFF 2. Dywedodd ymhellach nad oes unrhyw newidiadau yn cael eu cynnig i drefniadau parcio na mynediad y safle ers i'r hen ysgol gau ac ystyrir bod digon o le parcio o fewn y safle ar gyfer y defnydd arfaethedig. Nid oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig, ystyrir ei fod yn cydymffurfio â'r polisïau trafnidiaeth perthnasol yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Gan siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd John I Jones ei fod yn falch bod safle'r hen ysgol gynradd ym Modorgan am gael ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol a chynigiodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo. Eiliodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 HHP/2023/51 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdy presennol ynghyd â chodi anecs deulawr yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Gwnaed cais gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Lleol i ymweld â'r safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans y dylid cynnal ymweliad safle Eiliodd y Cynghorydd Alwen Watkin y cynnig.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle am y rhesymau a roddwyd.
12.4 ADV/2023/6 – Cais ar gyfer newid arwydd dehongli yn Nhŵr Gwylio, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais sy'n cael ei wneud gan y Cyngor Sir.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer bwrdd gwybodaeth monolith yn lle’r bwrdd gwybodaeth presennol a fydd yn tynnu sylw at asedau hanesyddol y porthladd. Ystyrir na fydd y cais yn cael unrhyw effaith ar amwynderau eiddo cyfagos, y briffordd na'r ardal gadwraeth.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo. Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 MAO/2023/2 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2022/46 (codi 12 annedd preswyl ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol) er mwyn gallu gwneud newidiadau i’r dyluniad a’r ffiniau ar Dir ger Stad Bryn Glas, Brynsiencyn
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y caniatâd gwreiddiol wedi ei gymeradwyo ganddo.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais yw hwn i wneud newidiadau i'r cynlluniau a gymeradwywyd i leihau’r cladin yng nghefn yr anheddau, cael gwared ar y muriau cynhaliol yn y gerddi cefn yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru a gwneud newidiadau mewnol i’r annedd 4 ystafell wely. Ystyrir bod y diwygiadau arfaethedig yn ansylweddol ac na fyddant yn cael effaith sy’n wahanol i’r effaith y
mae’r cynllun datblygu gwreiddiol a gymeradwywyd yn ei chael.
Gan siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod y gwaith datblygu wedi dechrau ond fod rhai gwrthwynebiadau wedi bod gan drigolion lleol gan fod coed wedi cael eu torri. Dywedodd fod y Cyngor Cymuned yn gyffredinol yn fodlon â'r cynnig. Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid cymeradwyo'r cais.
Gan siarad fel Aelod Lleol, ailadroddodd y Cynghorydd Alwen Watkin sylwadau ei chyd-Aelod Lleol ac eiliodd y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.6 FPL/2022/219 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd ar y llawr gwaelod o lolfa gymunedol i estyniad i fflat uwchben 1 Lon Deg, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais yw hwn i newid defnydd y lolfa gymunedol ar y llawr gwaelod i fod yn estyniad i’r fflat preswyl presennol ar y llawr cyntaf er mwyn troi’r adeilad cyfan yn un llety preswyl, ynghyd ag addasu tu allan yr
adeilad a chodi sied fetel. Fel rhan o’r cais mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau yn ysgrifenedig fod proses ymgynghori wedi’i chynnal gyda phreswylwyr yn yr ardal i asesu eu barn ynghylch rhoi’r gorau i ddefnyddio’r adeilad fel lolfa gymunedol a newid y defnydd i lety. Nid oedd gan y preswylwyr lleol unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad o golli cyfleuster cymunedol. Ystyrir bod y bwriad i newid defnydd y lolfa gymunedol ar y llawr gwaelod er mwyn creu estyniad i’r fflat preswyl ar y llawr cyntaf yn dderbyniol gan nad oes angen am y cyfleuster cymunedol mwyach. Mae’n
cydymffurfio â pholisi cynllunio ISA 2 a bydd y defnydd arfaethedig yn darparu mwy o arwynebedd llawr a phreifatrwydd i’r sawl fydd yn byw yno. Mae’r datblygiad arfaethedig yn cynnwys cynnig i gael gwared ar ffenestr ystafell ymolchi ar y llawr
gwaelod ac adeiladu drws newydd ar y drychiad Gogledd Ddwyrain, ynghyd â chodi sied fetel fechan ar y drychiad Gogledd Orllewin. Bydd y drws newydd yn cael ei guddio o olwg yr eiddo cyfagos gan yr adeilad garej sy’n bodoli’n barod. Ystyrir bod y drws a’r sied fetel newydd yn dderbyniol gan nad ydynt yn cael effaith negyddol ar yr annedd presennol ac ni fyddant yn edrych dros eiddo cyfagos na’u gerddi, gan gydymffurfio â pholisïau PCYFF2 a PCYFF3.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei gymeradwyo. Eiliodd y Cynghorydd Robert Ll Jones y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: